Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nentydd

nentydd

cyn hynny yn niwl y cynoesoedd ardal lle crwydrai y dyn cyntefig o hendref y glannau o gwmpas Gronant, Mostyn a Llannerch y Môr i'w hafodai byrhoedlog i hela ceirw, sgwarnogod, grugieir - a physgota y nentydd a'r hen hen lynnoedd am y brithyll brown naturiol...

Y bobl a fu'n trin y tir trwy'r canrifoedd, yn gwareiddio'r pridd, yn dofi'r diffeithwch â'u herydr ac yn plygu'r nentydd i'w gwasanaeth.

Yr unig swn yno oedd peiriannau amaethyddol, bywyd gwyllt, anifeiliaid fferm a nentydd.

Dim ond distawrwydd y coed pin, sisial y nentydd bychain, disgleirdeb yr eira ac ol troed anifeiliaid bach ynddo, lliwiau cyfoethog yr haul a godidowgrwydd yr olygfa.

Gyda chynnydd mewn poblogaeth, diwydiant, technoleg ac angen yn y Gogledd Orllewin; a chan fod rhwydwaith y nentydd a'r dyffrynnoedd pantiog bychan yn ddelfrydol i'w boddi...

yr oedd eira chwefror a glawogydd tros w ^ ŵyl ddewi wedi chwyddo nentydd yr ardal a chreu rhaeadrau yn hafnau 'r bryniau, a 'r cwbl yn llifo i afon afon nes ei bod hi, erbyn cyrraedd y dyffryn lle safai aberdeuddwr, yn genllif gwyllt gwyn, ar frys i gyrraedd y dolydd tu hwnt i trillwyn isa lle gallai orlifo i 'r caeau a chael ymwared a 'i ffyrnigrwydd.

Y mae i'r plwyf hwn ei batrwm ffisegol yn ei nentydd a'i afonydd, ei ffyrdd a'i ffermydd, ei gloddiau a'i gaeau, ei bant a bryn, ei goed a'i ddrysni, ei lechwedd a'i wastadedd, ei wyndwn sych a'i rosydd corsiog.

Rhennir y plwyf bron yn ddwy adran gydradd o ran maint gan afon Wyre sy'n rhedeg o Fynydd Bach drwy Lledrod a Llangwyryfon i'r môr yn Llanrhystud; mae i honno ei changhennau a'i nentydd mân, ac y mae'n disgyn fil o droedfeddi o'i tharddell i'r môr; am hynny mae hi'n codi'n wyllt ar ôl glaw ac yn gostwng yr un mor sydyn pan ddaw hindda.