Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nerfus

nerfus

'Roedd popeth mor binco, a finna mor nerfus rhag gneud dim o'i le; y canlyniad i mi droi cwpanaid o de am ben y llian.

Yn wir, er gwaethaf neu oherwydd y gwaed oedd yn pistyllio o'm trwyn, mewn dau funud roedd fy mhen-glin chwith yn gwasgu ar gorn-gwddw fy ngwrthwynebwr, a chawn foddhad neilltuol o weld y croen o dan ei lygaid yn twitsian yn nerfus, cynyddai fy mwynhad am fod haid o blant o'n cwmpas rŵan yn sgrechian eu gwerthfawrogiad.

"roedd hi'n nerfus iawn yn y caffe," meddai debra.

Ond gallaf weld Mary O'Riordan, nyrs o Ddulyn sy'n gweithio i Gronfa Achub y Plant, yn gwibio'n nerfus rhyngddynt.

Doedd hi ddim yn nerfus, a doedd dim cryndod yn ei bol.

'I ddod i weld eich nain.' Llifodd y geiriau allan yn un bwrlwm nerfus, ac roedd o fel pe bai'n falch o gael gwared ohonyn nhw.

Gwyddwn wrth edrych i'w lygaid nerfus-galed fod mwy na lled y dref yn ein gwahanu.

Bob tro y canai'r seiren, byddai Natalie yn crio'n afreolus, a newidiodd Adam o fod yn fachgen bywiog, hyderus i fod yn dawel a nerfus.

Gan wybod fod distawrwydd yn andwyol i gerfiwr nerfus, ceisiais ailgychwyn ymgom gyffredinol trwy wneuthur sylw edmygol parthed darlun o General Buller a oedd yn hongian ar y pared gyferbyn.

Fel tae o 'rioed wedi sefyll ar lwyfan !" Fel'na bydd hi pan fyddwch chi am iddyn nhw fod ar eu gora, cysurais hi, gan wenu, "Mae'r actorion diarth na'n 'u gwneud nhw 'n nerfus." Gwelwn Enoc yn symud yn ôl a blaen wrth waelod y llwyfan, yn chwifio'i freichiau.

rydw i wedi bod efo merch, sawl merch,' meddai gan siarad yn nerfus, gyflym.

'Roedd yntau wedi sylwi ei fod yn nerfus, ac meddai'n sydyn, Ydych chi'n siwr ei fod hefo Mr Raboul?

Llwyd yr enaid a'r tafod aflonydd, y Llwyd hanfodol nerfus, a gyflwynir i ni, Llwyd y crwydryn ysbrydol (amheuaf na wiw inni ei alw yn bererin, achos y mae cryn wahaniaeth rhwng crwydryn a phererin).

Yn lle cymdeithas y ganrif ddiwethaf a oedd yn gweld Cymru fel Canaan a'r Cymry fel Cenedl Etholedig, wele'n awr gymuned nerfus, ar chwal, byth a hefyd yn ofni rhyw fygwth.

Edrychai o'i gwmpas yn nerfus rhag ofn i Marian ddod.