Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nerthoedd

nerthoedd

Ac eto, fel y mae llyfr Job yn dweud, nid yw nerthoedd natur heb eu mawredd a'u prydferthwch.

Ganwyd Phil ar ddiwedd y ganrif o'r blaen pan oedd nerthoedd grymus yn dygyfor ar bob llaw, mewn cymdeithas a gwlad a byd, ac ni allent lai na dylanwadu ar drigolion y cyfnod.

Ar noson y trawsnewid o un hanner o'r flwyddyn i'r llall, yr oedd nerthoedd goruwch-naturiol yn cael tragwyddol heol, felly amser i gymryd gofal yn ogystal ag i lawenhau yn nyfodiad haf oedd Calan Mai.

Gwelai'r nerthoedd a adawodd eu hôl ar ei ysbryd, y bobl y bu'n byw yn eu plith ac y disgynnodd ohonynt, a'r wlad lle y bu'n chwarae , yn chwerthin, yn chwysu, yn gweithio a gweddi%o.

Un o'r nerthoedd gyriannol yn hanes dyneiddiaeth Gymreig yw'r hyn y gellir ei alw'n 'fyth Brytanaidd' erbyn heddiw.

A phan weli'n dda ganiatâu i'r stormydd ein taro ac i'r gwyntoedd ruo o'n cwmpas, fe'n gorfodir i sylweddoli pa mor wan yw nerthoedd dyn er ei holl wyddoniaeth a pha mor frau yw ein bywyd ninnau.

Trwy alw ei bobl ei hun at ei chenhadaeth arbennig ymhlith y bobloedd ceisiai ollwng yn achubol rydd ar yr holl ddaear nerthoedd y Deyrnas, y grymoedd yr oedd ef ei hun yn gyforiog ohonynt.

Wrth syllu tua Bae Malltraeth fe welwch ol nerthoedd terfysgodd ieuenctid y byd yn gwasgu'r creigiau ar graig goch ynys fechan.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Yr oedd y tri dylanwad y cyfeiriwyd atynt - nerthoedd grymusaf yr oes - yn cyniwair yn drydanol trwy gylchoedd ysgolheigaidd a meddyliol Prifysgol Rhydychen tra oedd Davies yno.

Yr oedd deunydd da yn Phil, a dylanwadodd y nerthoedd hyn yn drwm arno er da a drwg.