Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

neud

neud

Oes raid iti neud bob blwyddyn?' gofynnodd Robin, ei wrychyn yn codi wrth weld rhai o'i oriau hamdden prin yn cael eu dwyn oddi wrtho eto.

Rwy'n joio perfformio, a rhan o hynny yw gwisgo lan a 'neud y colur, ac o'n i'n joio chwilio am wisg a 'neud y colur dros ben llestri, oedd e'n hwyl."

Wnâi hi ddim, achos mi oedd hi wrthi'n gosod y cinio allan, a berwi'r dŵr i 'neud te, ac mi oeddan ni'n awchu am fwyd erbyn hynny hefyd.

Roedd hi'n rhy ddiweddar i 'neud dim byd.

Pan benderfynes i fod yn wyddonydd rown i'n meddwl mai dyfeisio pethe i neud yr hen fyd 'ma'n fwy hapus ac yn well lle i fyw ynddo fe, fydde 'ngwaith i.

Wy a Dyff 'di hala ffortiwn fan hyn dros y blynydde a ma'r Karen fach 'na sy'n berchen y lle yn neud mwy byth o ffortiwn nawr.

Ia, ella cei di dy neud yn Barchedig William Cadwaladr.

Yn sicr doedd o ddim yn beth oedd pawb yn yr ysgol yn 'neud, felly doedd o ddim yn ffasiynol a doedd ddim yn beth oedd yn cael ei ddisgwyl ohona'i gan unrhyw aelod arall o 'nheulu.

Ar ei fynediad i'r ystafell gafaelodd yr Yswain yn ei law, ac ysgydwodd hi yn galonnog a chroesawgar, a datganodd ei ofid am ei golled, a'i lawenydd am nad oedd Harri wedi derbyn niwed, a dywedodd yn ddistaw yn ei glust: `Oni bai mod i'n gwybod fod ti wedi cael llawer o arian ar ôl dy dad, mi f'aswn i yn dy helpio di i neud y golled i fyny.

"Oedd y jocs yn mynd lawr yn dda iawn, o'n i'n 'neud storis am y teulu, pethe bob dydd, a bywyd, ac o'n nhw'n boblogaidd iawn...

Weithws e ddim yn Amsterdam a rwyn credu mai yr hyn sy'n rhaid ei 'neud yw rhoi stribedi lawr.

'Fedri di ddim gneud dipyn o beintio dy hun neu gal y plant 'ma i neud rwbath at 'u cadw?'

Mae'r 'orders' yn dod o'r top, Doctor, oherwydd mae'r gwaith sy'n cael 'i neud yma'n bwysig iawn - yn holl-bwysig os daw rhyfel." "'Dwy'i ddim yn siŵr iawn pam y ces i alwad i ddod 'ma..." "Proffesor Dalton - ein prif wyddonydd ni 'ma - ofynnodd amanoch chi'n bersonol.

'Be ti'n neud?'

Dymuniad y pâr oedd i rywun gymryd gofal o'r ty tan y bydden nhw'n ymddeol, ac awgrymodd Myrddin y bydde Aurona a finne'n barod i 'neud--neidio am y cyfle fydde'n agosach at y gwir.

Gweud wnath e fod un cymal yn y 'wyllys na fedre neb neud pen na chynffon ohono fe.

Yna i lawr i Ogwen lle cawsant banad a banana cyn ei g'neud hi am y Carneddau, gyda'r tywydd yn parhau yn niwlog a gwlyb.

'Mae pawb yn gwybod be mae e'n gallu 'neud ar y lefel ucha.

O ie, y gosb am ein twyllo, fe ddylen ni sôn am hynny' 'Cosb am dwyllo?' 'Ie, os byddi di'n cymryd arnat dy fod wedi cyflawni tasg, ond heb neud hynny, mi fydd yna gosb.' 'A be fydd honno?' 'Sypreis, was.

gas gen i feddwl am neud.

Ces i fy holi gan heddlu lleol llai annymunol, ac rwy'n dal i gofio un ohonynt yn dweud, 'Sa i 'di 'neud hyn o'r blaen.

Roedd o'n mynd i neud troli i symud y weldar o gwmpas y lle, trwshio'r cafn dŵr yn y beudy, trwshio'r lein ddillad a choncritio'r cowt i'r Wraig, a phe cai amsar byddai hyd yn oed yn rhoi hoelan yn y lechan rydd uwchben drws y beudy!

'Wedyn, mi wnaethon ni esbonio be oeddan ni isio iddyn nhw neud, a'u rhybuddio y byddan nhw'n cael eu gosod mewn rhwymau i newynu, tasan nhw'n gwrthod, a'r benywod yn cael eu lladd.

Gwell iddo ddod 'da ti na neud y lle 'ma'n anniben.

Braidd symud 'y nghoese fedrwn i 'neud, ac yn yr eiliade poenus hynny, fflachiodd y cof am ddamwain 'Nhad yn ôl i mi, a'r boen a ddioddefodd e am gyfnod mor hir.

'Wel, rhen foi, os 'dach chi am ein cael ni'n rhydd o fan hyn, mi fydd yn rhaid i chi neud gwyrthia go iawn,' meddai Geraint heb fawr o obaith yn ei lais.

"Ddim hanner cymin' o flode llonge yma nawr," meddai un, "a sdim profiad o waith sa'r llonge 'da ti, a ma' gneud mastia a rhwyfe a chwche yn waith gwahanol iawn i 'neud rhacane a phladurie a dryse a cherti." Digalon iawn.

Be uffar ti'n neud fan'na?

Mi ddaeth Jim i lawr yma peth cynta bora 'ma i ddeud eu bod nhw am gychwyn, ac wedyn mi fwriodd Mama ati i 'neud brechdana' i ni fynd efo ni.

Mi ddudodd hi y basa'n rhaid i ni gyd gymryd twrn ar ei chario hi - un bob ochr, am ei bod hi'n drwm, a Defi John a Jim fuo raid neud gynta.

A dydw i'n dda i ddim am bapuro - rhaid i ti neud hynny.' Ac felly y cytunwyd yn y diwedd wedi rhai wythnosau o oedi.

Roedd o'n gweld bai ar bopeth oedd gan Ifor, ac ar bopeth yr oedd o'n ei neud.

Popeth yn disgleirio, popeth yn gweitho fel cloc, a dim plant obiti i neud nyth llygoden o'r lle!' 'Na - tynnu dy goes wen i wedyn.

'Beth, Magwen fach, fe fydd yn ein pasio ganweth y dydd cyn diwedd ag ystyried yr holl waith fydd 'dag e i neud lan'na!'

O'n i yn y gwely neithiwr ac yn meddwl beth o'dd e'n mynd i 'neud y bore yma.

"O'n i'n gweithio ar y bâd, y Carmania am chwech mis yn 'neud cabaret ar cruises pump diwrnod new fwy, yn mynd o Fort Lauderdale...

"Does dim ond isio i ti edrach ar Groeslon y King," medda fo, "i sylweddoli beth maen nhw'n neud yn y fan honno er dy fwyn di." "Gwrandwch," medda finna.

"Beth fedra i neud?" medda hi.

Dwn i ddim be mae e'n mynd i neud.

"Y peth cynta i neud hefo dyn wedi llyncu dôs o wenwyn, wrth gwrs, ydi rhoi dôs o ddŵr a halan iddo fo.

Doedd Luned ddim yn fodlon dod i'r seremoni, ond roedd pawb yn deall hynny, ac fe gafwyd Sais oedd wedi symud i bentre Blaen-pant i wneud hynny, achos wedi'r cyfan, ma' rhaid ichi gal bobol go iawn i neud pethe fel hyn.

Mae digon o waith gydag e i'w wneud yng Nghymru, ac un o'r pethe fydd y Pwyllgor yn ei ystyried yw pa effaith - os caiff e ei ddewis i hyfforddir Llewod - fydd hynnyn gael ar y job mae en neud yng Nghymru.

'Mi oedd yn rhaid i ni neud dy fisit di â'r hotel 'ma yn un gwerth chweil ar ôl yr holl sylw gest ti,' meddai'r plismon tew.

Ond os gallwn ni gadw i fynd fel ydyn ni wedi bod yn 'neud sdim rhaid i ni ofni neb.

Wedi i deulu Cae Hen gyrraedd yma, mi welon ni bod gan Mrs Robaits fasged fawr efo hi, a'i llond hi o fwyd - brechdana', teisan, a phob dim at 'neud te.

Hwyrach, cyn bo hir, y bydde 'na ddigon i neud neclis iddi'i hun.

Saethais ddau gwestiwn ato: 'Be goblyn wyt ti'n neud yn ista'n fan 'na?

Beth y'ch chi'n neud?' galwodd ar eu hôl.

Ond rhaid i chitha 'neud ymdrech fawr hefyd.'

Rown i'n un o bedwar a fu'n gollwng gollwng coffin Madog i'r pridd ac rwy'n cofio taflu cipolwg ar Luned wrth i fi neud hynny a gweld 'i bod yn dra deniadol mewn du.

Roedd e'n sefyll hytrach ar dro, fel pe bai e am neud yn siŵr nad odd neb yn cysgu yn ystod y bregeth.

Ond, bydd mam yn galw arnaf i bob amser a'r cwbl fydda' i'n 'neud fydd gwneud sŵn fel bara llefrith yn berwi.

"Oes, ond faint fyddi di'n 'i neud efo nhw?

Be' ddaru o ond tynnu blodyn bach o lawas ei gôt - dim un go iawn, un wedi ca'l 'i 'neud efo papur - ac mi ddaru'i daflyd o i mi.

Ymddiried yn y Cynulliad i ateb pob problem neu fynd ati ein hunain i neud rhywbeth.

'Ac os wyt ti'n ansicr be i'w neud efo merch ar ôl cael gafael ar un, gofyn di i Mop.

"Gormod i' neud.'