Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

newidiodd

newidiodd

Ers pasio'r ddeddf hon, newidiodd hinsawdd ieithyddol Gwlad y Basg.

Haf 1972, Hydref 1985, Gwanwyn 1997. Y ddarlith a newidiodd hanes Cymru.

O'r funud honno, fe newidiodd bywyd Philam er gwaeth.

Newidiodd ei feddwl.

Newidiodd hynny ddwy flynedd yn ol, ond mae amheuaeth yn dal i fod nad yw'r gyfraith yn cydnabod yn swyddogol unrhyw gyfrifon sydd heb fod yn Saesneg.

Os mai anfoddhaol ydoedd y cychwyn ym Medi fe newidiodd pethau erbyn mis Ebrill pan aeth tîm y Sir i Aberystwyth i siarad yn erbyn gweddill Siroedd Cymru a dychwelyd yn bencampwyr gyda'r cwpan.

Newidiodd Rhys fywyd Hywel a hynny mewn sawl ffordd - dechreuodd Hywel a Llew gwympo mas ac o ganlyniad cafodd Hywel ei saethu.

Yn ôl un o'r meddygon, newidiodd patrwm y clefydau ar ôl y chwyldro.

Ond fe newidiodd popeth ar ol tri deg chwech.

Credai Dr Tom yn bendant iawn ei fod wedi prynu'r casgliadau hyn a sicrhau'r coleg ym Mangor, ond y ffaith amdani yw na newidiodd Ward Williams mo'r siec amdanynt.

Pan aned ei fab, Gwion, sydd â nam meddyliol, newidiodd bywyd Gwynn Davies yn llwyr.

Yn Saesneg newidiodd Mr Morgan enw ei swydd ei hun yn First Minister er mai First Secretary oedd o cynt fel ag yr oedd Alun Michael a Ron Davies o'i flaen.

Newidiodd patrwm y gêm yn llwyr yn yr ail hanner, gan ddechre gyda phedwaredd cic gosb Phil, cic o ddeg llath ar hugain.

Yma mewn un 'frawddeg wrth wrthbwyntio Lluosog ac Unigol, newidiodd Morgan Llwyd ei dôn o un ddifri%ol, gondemniol, watwarus y rhan gyntaf i un ymbilgar, dirion yr ail ran.

Trwy lwc a bendith newidiodd y ddau grychydd eu cwrs ac yn lle mynd drosodd i'r 'Ynys Werdd', troesant eu hwynebau tuag adref gan ollwng eu llwyth ar Fanc Dihewid rhyw bum milltir o Silian.

Droeon yn ystod ei yrfa newidiodd ei liw diwinyddol er na chrwydrodd yn bell oddi wrth y Galfinyddiaeth efengylaidd honno a oedd yn brif ysgogiad ei waith.

Nid oedd hyn yn broblem ar y dechrau oherwydd roedd y tywydd yn sych ond yng nghanol y mis newidiodd y tywydd, felly roedd yn anodd gwario cymaint o amser yn VIC I, er ein bod yn cael ein gwahodd mewn i ystafelloedd pobl, roedd gweddill y plant yn meddwl ein bod wedi eu gadael nhw oherwydd nid oedd yn bosib iddyn nhw fynd i mewn i'r ystafell.

Newidiodd pethau yn syfrdanol pan gwympodd Lisa mewn cariad am y tro cynta a hynny gyda Fiona.

Yn raddol newidiodd agwedd y llwyth tuag ato.

O'r diwedd, bu cyfarfod arall o'r Is-bwyllgor, ond unwaith eto, ni newidiodd ei feddwl.

Yr hyn a newidiodd agwedd Alun Llywelyn-Williams at y Gymraeg oedd i'w dad fynnu ei fod yn astudio'r pwnc yn y Chweched Dosbarth.

Bob tro y canai'r seiren, byddai Natalie yn crio'n afreolus, a newidiodd Adam o fod yn fachgen bywiog, hyderus i fod yn dawel a nerfus.

Newidiodd y chwaraewr o Gastell-nedd ei safle a mynd yn brop a buom yn uned effeithiol am dair blynedd nes iddo raddio.

Gwir fod ei feiddgarwch ymadrodd yn nyddiau Caerdydd wedi peri i Laud ei ddisgrifio fel "bold, ignorant young fellow% ond, wrth gwrs, ni wyddai Cradoc ddim am y feirniadaeth ac ni newidiodd ei ddull.

A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau?" (Jer.

Ffyrdd a newidiodd lawer ar batrwm cymdeithasol yr ardal oedd y rhain, gan rannu yr hyn a fu unwaith yn gymdogaeth hamddenol.

Newidiodd yr dd a'r n eu lle ac aeth yr i yn u dan ddylanwad du mae'n debyg.

Yn yr hanner canrif bron a aeth heibio oddi ar hynny ni newidiodd y Blaid ddim ar ei nod.

Yn araf, newidiodd pobl eu hagwedd tuag at y Gymraeg.

Pwy, wedyn, oedd yr ymgeisydd am uchel swydd yng ngwleidyddiaeth Prydain a newidiodd yn sydyn o gael pwl o iselder ysbryd i gyflwr o orfoledd annormal ac ynni annaturiol?

Newidiodd Dai Mandri ei fyd yn llwyr, collodd pob syniad o bellter ac amser.

Aeth mor bell â holi Rolant ynglŷn â phris bleiddgi ifanc, ond wedi cael gwybod,newidiodd ei feddwl yn sydyn.

Wrth i'r briodas nesau cwympodd Mark mewn cariad go iawn gyda Meinir ond newidiodd Meinir ei meddwl ynglyn â phriodi ac aeth Mark ar y mis mêl gyda Kath.