Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ngalw

ngalw

Y dehongliad arall oedd bod Preswylydd y Berth yn fy ngalw i wasanaeth.

A dyma fi wedi cael 'y ngalw i weithio yn Llangi%an lle maen nhw'n arbrofi gyda 'radar' a rocedi - a dyn a ŵyr beth arall!' "Fe wêl yr hen blant wahanieth, Idris.

Agorodd y drws a dyma Derek yn fy ngalw i fewn.

Rwyf fi'n llenydda am fy mod i'n caru crefft llenydda, yn caru geiriau a rhythm geiriau; felly rwy'n tristau'n arw wrth feddwl y gellir fy ngalw - a hynny'n gyfiawn - yn ddieithryn yn fy ngwlad fy hun.

Pan oedd Capel Ebenezer yn cael ei adeiladu byddem yn mynd yno yn aml i chwarae, ac rwy'n cofio un diwrnod weld yr hen Robaits yn nrws yr ysgol, a'r ysgolfeistr yn troi ac yn edrych arna i, a phan ddaeth yn ol at y dosbarth, cefais fy ngalw allan, a methwn wybod beth oeddwn wedi wneud.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Dywedais wrtho am ei gyflwyno i ti pe byddai'r Arglwydd yn fy ngalw'n annisgwyl.

Na, dydw i ddim yn dy feio di, Huwcyn." Trwy fy ngalw'n Huwcyn llwyddodd Gruff, yn ei ffordd gynnil ei hun, i gyfleu coflaid o gydymdeimlad fel y'm hysgogwyd innau i fwrw rhagor ar fy mol.

Y British girl maen nhw'n fy ngalw i.