Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nghrys

nghrys

Ar ei gais, tynnais fy nghrys, plygu'n ddwbl dros ymyl y soffa, ac aros felly yn fy nghwman i ddisgwyl y nodwydd.

Nhad yn chwilio a chwilio, yna "Lle dudoch chi ma' nghrys i Jini?" Mam yn cymryd pwffiad oddi ar y pwmp oedd ganddi i'w helpu anadlu cyn ateb, "Wel, yn yr 'airing cupboard' Charles".

"Be ydi mêc fy nghrys i Jini?" Mam druan yn atab "Dwfal", a medda nhad fel ergyd o wn - "Tydw i'n 'dwfalu' fama ers oriau!" Saib - nhad, mam, a ninnau'r plant yn sylweddoli beth oedd o wedi'i ddeud, a phawb fel côr adrodd 'Steddfod Genedlaethol yn chwerthin efo'n gilydd.

Y bora arbennig hwn, a'r tywydd yn oer, mam yn ei gwely efo 'asthma' a ninnau'r plant yn ein gwelyau, neu'n chwara'n y llofft, dyma lais nhad fel angel o waelod y grisiau (parch i mam am ei bod hi'n sâl) "Lle ma' nghrys i Jini?" mam yn ateb â gwich yn ei llais, "Yn yr 'airing cupboard' Charles." Nhad yn rhuthro i fyny'r grisiau, 'roedd yr 'airing cupboard' ar y landing, dros ffordd i lle'r oedd Mam yn cysgu.

Sylwi fod fy menig i'n racs (yn ol eu harfer ar y creigiau!), fy nghrys T.

Wedi gofyn imi dynnu fy nghrys, diflannodd y doctor y tu ôl i sgrin ym mhen pella'r ystafell fawr.

Ond doedd dim un ohonyn nhw yn gallu cael diod pan fyddai'r lleill yn gafael yn y cwpan, ac mi fydden nhw'n gweiddi, un ar _l y llall, "Dydw i ddim wedi cael diferyn!" "Na finnau chwaith!" "Mae 'na de wedi mynd i'm llygaid i!" "Ac mae 'na beth yn fy ngwallt i!" "Ac mae 'na dipyn wedi mynd ar fy nghrys i!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn cael diod iawn yn y pnawn ac mi fyddai syched arnyn nhw.