Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nghyd

nghyd

Un sylw ar gyfer yr academyddion cyn symud ymlaen - y mae pwysigrwydd neilltuol i lên gwerin cyfoes am ei fod yn cael ei astudio yng nghyd-destun y gymdeithas a'i creodd, ac felly yn ei gwneud hi'n haws i ddarganfod amcan neu bwrpas y stori neu'r gred - a thrwy hynny ddeall rhyw gymaint am ein cymdeithas a ni'n hunain ac am rôl llên gwerin drwy'r oesoedd.

Trafodwyd dyfodol y rheilffordd â'r rheilffyrdd rhanbarthol yn gyffredinol yn arbennig yng nghyd-gyswllt preifateiddio.

O'r Alban yr oeddwn i wedi dod i Rydychen, ac yr oedd pobl y gogledd wedi gofalu amdanaf Pe buasai raid i mi fel llawer Cymro arall, ddibynnu ar garedigrwydd fy nghyd Cymry wedi dod i Rydychen am gyfeillach a chyfarwyddyd,buaswn mor unig â hen frân gloff ar yr adlodd.

(Yng nghyd- destun y Cymal hwn golyga "o natur rywiol amlwg" weithred, pe'i perfformiwyd yn gyhoeddus a ystyrid yn fasweddus).

* fy nghyd-weithwyr uniongyrchol?

Gwelwyd y digwyddiadau hyn yng nghyd-destun yr Eisteddfod, er enghraifft protestiadau'r suffragettes yn Eisteddfod Wrecsam ym 1912, a'r ymgyrch dros y sianel deledu Gymraeg yn y 1970au a'r 80au.

Wrth ymdrin â'r Llyfrau Gleision, rhaid cofio i'r drafodaeth ar y pryd ddigwydd yng nghyd-destun y ddadl ynglŷn â grantiau i addysg.

Gall codi ymwybyddiaeth weithio ar ddwy lefel, sef y lefel affeithiol gyda'i hapêl at hanes, traddodiad a threftadaeth a'r lefel ymarferol gyda'i hapêl at swyddi, statws a dwyieithrwydd (yn enwedig yng nghyd-destun yr Ewrop newydd).

Rhaid gofyn, yng nghyd-destun canllawiau iaith ar gyfer gwasanaethau addysgol, beth yn union yw ystyron gwahanol y ddau air promoting a facilitating ar gyfer y Bwrdd.

Mae sgil-effaith buddsoddiad cyhoeddus yn S4C i'w weld yn y ffordd mae partneriaethau wedi datblygu ac wrth edrych i'r dyfodol bydd Huw Jones yn sôocirc;n yn benodol am bartneriaethau sydd eisoes wedi eu sefydlu neu a ddylai gael eu datblygu yng nghyd-destun cynlluniau Amcan 1.

"Mae gwaith Robin Llywelyn, ynghyd â'r derbyniad a gafodd ei waith, yn fan cychwyn dihafal ar gyfer dadansoddi'r berthynas gymhleth rhwng awdur, darllenydd a chymdeithas yng nghyd-destun diwylliant llenyddol cyfoes y Gymraeg," eglura.

Fforwm Addysg i Gymru Ceredigion Paratowyd dogfen yn rhoi ein gofynion yng nghyd-destun y sir ar gyfer cynhadledd gyda'r Cyfarwyddwr Addysg, Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, undebau, llywodraethwyr etc.

Yng nghyd-destun amgylchedd mwy cystadleuol o ran gwrando ar y radio mae lle i boeni o hyd am allu BBC Radio Wales i gystadlu am gynulleidfa.

Fodd bynnag, mae'n rhaid darllen y canllawiau ar gyfer pob pwnc o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyd-destun y Gorchymyn Cwricwlwm Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer y pwnc hwnnw.

Ergyd y ddramodig, yng nghyd-destun Cwpanaid o De gyda Mr Bebb, yw nad oedd gan arweinwyr y Blaid Genedlaethol Gymreig, y pryd hwnnw, nemor ddim diddordeb yn y gwledydd Ewropeaidd lle na siaredid iaith ladinaidd, lle nad oedd yr Eglwys Gatholig yn unbennes eneidiau a lle nad yfid gwin yn helaeth.

Amcan gweddill y papur hwn yw ystyried yn fwy manwl, yn nghyd- destun gwasanaethau addysgol, pa unigolion a sefydliadau sy'n cyflawni gwaith o natur cyhoeddus a pha ystyriaethau ddylai lywio ffurf a chynnwys y cynlluniau iaith a ddarperir ganddynt.

Efallai mai buddiol fyddai bwrw golwg manwl dros y datblygiad yng nghyd-destun Prydain.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Mae i ba raddau y mae ar ddisgybl angen cymorth ychwanegol yn dibynnu ar gontinuwm, a dylid ystyried hynny yng nghyd-destun y ddarpariaeth sydd ar gael fel rheol.

Yn dilyn y cynnig yng Nghyfarfod Cyffredinol 1995 yn galw am gefnogaeth i'r ymgyrch dros Senedd i Gymru, mae'r grwp wedi edrych ar hyn yng nghyd-destun ehangach datganoli grym a sut mae modd sicrhau fod grym yn cyrraedd y gymuned.

Mae pawb o bwys yng nghyd-destun pêl-droed Ewrop yng Ngenefa heddiw i weld pwy fydd yn chwarae pwy yng Nghwpan UEFA a Chynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.

Gwelwyd y digwyddiadau hyn yng nghyd-destun yr Eisteddfod, er enghraifft protestiadaur suffragettes yn Eisteddfod Wrecsam ym 1912, ar ymgyrch dros y sianel deledu Gymraeg yn y 1970au ar 80au.

Ond mi fyddwn i'n dweud wrth fy nghyd-Eglwyswyr, dydi hyn ddim yn deg ar y Capelwyr, ein bod ni yn disgwyl iddyn nhw gau eu llefydd nhw a chlosio ato ni.

Deued pechaduriaid truain Yn finteioedd mawr yn nghyd, Doed ynysoedd pell y moroedd I gael gweld dy wynebpryd: Cloffion, deillion, gwywedigion, O bob enwau, o bob gradd, I Galfaria un prydnawngwaith, I weld yr Oen sydd wedi ei ladd.

Ochr yn ochr â'r cyrchnodau arholiad, sicrheir fod rhaglen waith pob disgybl yn amlygu: Ehangder - drwy gyflwyno'r profiad ieithyddol/dwyieithog yng nghyd-destun pob un o'r naw maes profiad (mathemategol, gwyddonol, ayb.) ac yn cymhwyso sgiliau'r cwrs addysg i fywyd a gwaith cymunedol; Perthnasedd - drwy gysylltu'r rhaglen waith â'r angen i addasu'r dysgu a'r addysgu i ddiddordeb a gyrfa bersonol y disgybl ee.

Er i Diole\ ysgrifennu ei ddadansoddiad yng nghyd-destun gwaith a wnaed ym Môr y Canoldir, y mae ei ddadansoddiad ef o'r problemau sy'n wynebu archaeolegwyr môr yr un mor berthnasol i foroedd Prydain.

Pe baent yn llwyddiannus yn y pen draw dyna fyddai diwedd ar ein tîm cenedlaethol, gan na fyddai Cymru wedyn yn cael ei hystyried fel gwlad ar wahân, yng nghyd-destun pêldroed o leiaf.

Ni ellir felly sicrhau dyfodol y Gymraeg mewn gwagle: rhaid wrth ymdriniaeth fydd yn creu'r amodau cymdeithasol ac economaidd cywir, a hynny yng nghyd-destun cymunedau cryf. 02.

Ond er bod y ffigurau amrwd yn werthfawr, nid ydynt yn dweud y stori'n llawn wrthym; y mae'n rhaid edrych yng nghyd-destun ffigurau perthnasol.

Mae sgil-effaith buddsoddiad cyhoeddus yn S4C i'w weld yn y ffordd mae partneriaethau wedi datblygu ac wrth edrych i'r dyfodol bydd Huw Jones yn sôn yn benodol am bartneriaethau sydd eisoes wedi eu sefydlu neu a ddylai gael eu datblygu yng nghyd-destun cynlluniau Amcan 1.

Yng nghyd-destun yr achos cyfeithiol y gwnaed y cyhuddiad hwn ynddo, y mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn ymddangos i mi yn gwbl anghredadwy.

A'r nofelydd ati i ddarlunio a dehongli perthynas pobl â'i gilydd o fewn y teulu, y gymuned, ac yn ac os Islwyn Ffowc Elis, yng nghyd-destun ehangach Cymru fel endid cenedlaethol.

Rhaid gosod 'Adfeilion' hefyd yng nghyd-destun cyfrol gyntaf barddoniaeth T.

Yng nghyd-destun eu cyfnod yr oedd distadledd eu magwraeth yn werthfawr i'r tri.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, sef canrif y gerdd 'Calanmai' gan fardd anadnabyddus, fe edrychid ar holl brofiadau'r ddynoliaeth yng nghyd-destun cylchdro'r tymhorau a chyd-ddibyniaeth bywyd a marwolaeth.