Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nghyffiniau

nghyffiniau

Yng nghyffiniau'r dociau yn Havana y mae'r Vedado, hen ardal y ddinas, a'r math o le y byddai'n well gan ddinasoedd eraill ei guddio.

Cofier fod Mawrth ymhellach oddi wrth yr haul na'r Ddaear ac o'r herwydd mae tymheredd arwynebol Mawrth oddeutu rhewbwynt dŵr yn barhaus, er mai'r unig dystiolaeth bendant sydd ar gael o fodolaeth dŵr arni yw yng nghyffiniau ei dau begwn.

Ychydig cyn i mi gyrraedd methodd disgyblion y wlad yng nghyffiniau pentref cyfagos Dolafon â mynd i'r ysgol am wythnosau oherwydd na allai'r bysus eu cyrraedd.

Dyna oedd y perygl, fel heddiw, yng nghyffiniau porthladd Eilat.

Ni fyddai dim yn ormod i'w wneud gan Charles pan fyddwn mewn trafferthion yng nghyffiniau Caergybi.

Tystia ef ei hun iddo fod yng nghyffiniau Llandâf tra bu William Morgan yn Esgob Llandâf.

Flynyddoedd wedi hynny daeth i'm sylw fod yr enw 'Pennar' i'w weld ar y map hefyd yng nghyffiniau tref Penfro ei hunan.

Fe'i gwelwyd yng nghyffiniau Tyddyn Bach yn ystod y bore a thystiai Ann Jones, Fferm Trefadog, iddi ei weld yn pori'i wartheg ar y lôn bost tua deuddeg o'r gloch.

Mae Prif Weinidog Ethiopia Meles Zenawi wedi proffwydo y bydd y rhyfel ar ben o fewn ychydig o ddyddiau wedi i'w filwyr ennill tir yn gyflym yng nghyffiniau Zalambessa.

Cyfarfu ynadon y dref i drefnu iddynt hebrwng y milwyr drwy gydol y dydd; penderfynasant ymhellach gau tafarnau yng nghyffiniau'r orsaf rheilffordd am ddau o'r gloch y prynhawn, a'r gweddill yn ardaloedd eraill y dref am naw o'r gloch y nos.

Tynnais sylw un o'r aelodau wrth fynd allan o'r oedfa fod tipyn gwell presenoldeb yng nghyffiniau Llanrug, mewn oedfa bore neu brynhawn.

Felly, pan sylweddolodd yn hwyr un noson iddo adael ei waled yn llawn o arian ar ben postyn llidiart buarth tyddyn anghysbell yng nghyffiniau Llynnoedd Teifi ar noson o eira ar drothwy'r Nadolig doedd ganddo fe ddim dewis.

Nid enwyd y rhan fwyaf ohonynt, ond fe enwyd ambell un bwysig, megis Yr Afon Newydd sy'n traenio'r dwr oddi ar wyneb y gors yng nghyffiniau Llangaffo.

Yno, yn ffodus, roedd yna drên i gyfeiriad Llundain yn ein disgwyl a chyn pen chwinciad roedden ni yn ôl yng nghyffiniau Llandudno eto.

Dyma hen gwpled sy'n cadw ar gof enwau rhai o'r lleoedd yng nghyffiniau'r ddau lyn:

O'r herwydd, doedd yna, yn llythrennol, ddim car yng nghyffiniau y Gaiman a Threlew nad oedd ei ffenest flaen yn graciau i gyd - wedi eu malu gan y cerrig dirifedi a fyddai'n cael eu taflu gan olwynion ceir eraill yn pasio.

Pan ddeuai diwedd pnawn nid oedd llawer o sefyllian yng nghyffiniau'r ysgol, dim ond ras am adref, waeth pa mor bell oedd hwnnw.

Yr oedd Pont Myrddin ('Merlin's Bridge') yn agos i'r lle y cawsai fy mam ei geni yng nghyffiniau Hwlffordd yn neau Sir Benfro.

Na pam mae 'i Gymrâg e'n swnio'n ddierth i ni..." Yr oedd cael bod yng nghyffiniau Y Plas ac Eglwys Sant Cunllo'n nefoedd i mam, ac nid oedd hast arni i ddod oddi yno, a siaradai â phawb, a phawb gyda hi.