Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nghyfnod

nghyfnod

Yn hyn o beth bu'r Capel Mawr yn freintiedig iawn yn fy nghyfnod i.

Gan fod safon byw pawb yn is, ac yng nghyfnod y rhyfel gan fod dogni ar fwyd, roedd y te parti yn ddydd i edrych ymlaen ato am wythnosau.

Ar ddiwedd fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr PDAG hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant i'r Cadeirydd, i aelodau'r hen bwyllgor a'r newydd, i aelodau'r amrywiol weithgorau, i'm cydweithwyr yn y swyddfa ac i bawb a gyfrannodd i waith y pwyllgor o'i ddechreuad ansicr dair blynedd yn ôl.

Bu amser, yng nghyfnod deffroad y werin rhwng 1860 a 1890, y buasai'n ymarferol sefydlu'r Gymraeg yn iaith addysg a'r Brifysgol, yn iaith y cynghorau sir newydd, yn iaith diwydiant.

Ac yn wir y mae'r un gwirionedd yn dod yn amlwg yn yr erthygl, "Crefydd a Llenyddiaeth Gymraeg yng nghyfnod y Diwygiad Protestannaidd".

Yng nghyfnod John Griffith, roedd un gohebydd ben ac ysgwyddau uwch pawb arall yn y maes.

Yn ei berson ef gwelai Collingwood ymgais ar ran y brenhinoedd hynny i atgyfodi swydd y Comes Britanniarum, a fuasai'n bwysig yng nghyfnod y meddiant Rhufeinig ar Brydain.

Roedd hyn yng nghyfnod y negatifau gwydr.

Yng nghyfnod y Boer War, tra'n gweithio yn Nulyn, y priododd â Mam.

Er ei bod wedi ei lleoli yng nghyfnod Maelgwn Gwynedd, yn y chweched ganrif, 'roedd iddi hi neges amserol iawn, sef dyfodol ysbrydol a diwylliannol Cymru ar ôl blynyddoedd barbaraidd yr Ail Ryfel Byd.

Cynhaliwyd cyfarfodydd llenyddol llewyrchus yng Nghwm-garw yn nghyfnod Owen Williams 'i'r diben o gadw ieuenctid o'r dafarn, ac i yrru awydd arnynt am ddysg a gwybodaeth'.

Bu cynhennu brwd yno yng nghyfnod ei ragflaenydd, William Barlow.

Fe geir naw o gerddi marwnad gan feirdd i'w plant eu hunain, y gynharaf o gryn dipyn gan Gynddelw yn y ddeuddegfed ganrif, a'r lleill i gyd yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen.

Mewn geiriau eraill, nid rhywbeth a goleddid gan wŷr di-ddysg a chyfyng eu gorwelion ydoedd y myth Brythonaidd yng nghyfnod y Dadeni.

Credai llawer yng nghyfnod fy machgendod i mai cyfeirio at y wyrth hon a wnâi'r rhigwm:

Wedi tymor dyfal o weini ar blant gofidiau, bydded bendith ar aelwyd y meddyg mwyn yng nghyfnod yr hamdden a haedda.

Bythefnos yn ôl, fe ddechreuodd cwmni Miramax droi Castell Caerffili i fod yn rhan o Lundain yng nghyfnod y Brenin Siarl ll yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Ceir pum awdl i Hopcyn ap Tomas ei hun ac un i'w fab yn Llyfr Coch hergest, llawysgrif a ysgrifennwyd gan mwyaf yng nghyfnod Hopcyn, ac y mae'r Athro GJ Williams wedi awgrymu'r posibilrwydd mai ef a dalodd am y gwaith copio.

Mae'r Cwrdiaid yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael heb gefnogaeth gan yr Americaniaid yng nghyfnod Rhyfel y Gwlff, a hynny pan oedd Saddam ar fin cael ei drechu ganddynt.

Pecyn o bum sgets fer ar gyfer sbarduno trafodaeth yng Nghyfnod Allweddol 3.

Cyfres sy'n cynnig deunyddiau syml ar gyfer cyflwyno Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 2 gyda'r pwyslais ar adran 4 y Cwricwlwm - Prosesau Ffisegol: Y Ddaear a r tu hwnt.

Yn sgîl y celfi cyfarwydd hynny yn ei gartref - y mangyl, yr harmoniym, bwrdd y gegin ac amryw bethau eraill - deuai rhyw atgof neu'i gilydd am y gorffennol i'w feddwl, a thrwy gydol y cynhyrchiad fe'n tywyswyd yn ôl ac ymlaen mewn amser wrth i'r eitemau hyn roi cyfle iddo ail-fyw profiadau ei blentyndod a'i ieuenctid - profiadau cyffredin ac oesol y gall pob un ohonom uniaethu â nhw ond a gaiff eu gwisgo yng nghyfnod y chwareli gan T.

Trafod y Gosodiadau a'r Dulliau gwarantedig, a hefyd Dulliau y Clerwyr yng nghyfnod y dirywiad, fel y soniwyd yn ddiweddar, a bydd yn drafodaeth agored, a rhyddid i bawb sôn am un neu ragor o'r cyfryw ddulliau.