Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ngoleuni

ngoleuni

Ond bydd y Bwrdd yn parhau i ystyried cyfeiriad y strategaeth a'r mesurau a nodir ynddi wrth baratoi ac adolygu ei gynlluniau corfforaethol o flwyddyn i flwyddyn yng ngoleuni'r cynnydd mewn cyflawni'r amcanion, ac yng ngoleuni canlyniadau Cyfrifiad 2001.

Ac y mae'r Athro Glanmor Williams yn ysgrifennu yng ngoleuni'r gwaith hwn.

Cafodd budd llawn y buddsoddiad ychwanegol o £6 miliwn a wnaed gan y BBC yng Nghymru, yng ngoleuni datganoli, ei weld a'i glywed ar draws pob un o'i wasanaethau.

Nid heddychwr mo Saunders Lewis ond gwelai'n eglur, yng ngoleuni ei egwyddorion ei hun, nad oedd nac ymarferol na chyfiawn i frwydro'n arfog dros ryddid ei genedl.

Yng ngoleuni'r newidiadau sydd ar y gweill o ran newid ffiniau a swyddogaeth unedau llywodraeth leol, nawr yw'r amser i bwyso am y ddarpariaeth benodedig hon.

Yr oeddwn innau'n adnabod llawer o awduron llyfr fy mam, ond yn awr, yng ngoleuni cofio amdanynt, yr wyf yn medru gwerthfawrogi llyfr mor gyfoethog ydyw, ac mor gyfoethog oedd fy mam pan oedd hi'n gwneud y detholiad.

Nid ffrwyth edrych ym myw llygaid cyfanrwydd y ffeithiau hanesyddol yw'r damcaniaethau hynny, ond gwneud gosodiadau cyffredinol ar sail ffeithiau a ddetholwyd yng ngoleuni rhagdybiau athronyddol digon hysbys.

Nid oeddwn yn cytuno â'i ragfarnau ac yr oeddwn yn aml yn mynd yn groes i'w gyfarwyddiadau ac yn erlyn yn ôl fy ngoleuni fy hun ac fel y gwelwn degwch y mater mewn llaw.

Yng ngoleuni sylwadau'r aelodau, cynnwys y polisiau a gynhwysir yn y Papur Trafod yn Nrafft Ymgynghori Cynllun Lleol Eryri.

Yng ngoleuni hyn oll dyma Waldo'n penderfynu mynd i weld S.

Ac felly, yng ngoleuni traddodiadau Cristionogol y canrifoedd y darllenai'r meddylwyr cyfoes - Karl Barth, Emil Brunner, Paul Tillich, Dietrich Bonhoeffer, Simone Weil, Ju%rgen Moltmann, Wolfhart Pannenberg, John Macquarrie, Helder Camara, Gustavo Gutierrez ac E. R. Norman.

Rhaid deall Merch Gwern Hywel yng ngoleuni'r gosodiadau hyn.

Wrth syllu ar ei phlu yn disgleirio yng ngoleuni'r haul, ymddangosai'n wahanol i bob aderyn a welswn erioed:

Cydnabyddir mai mesur dros dro yw'r ddeddf hon ac fe'i newidir yng ngoleuni profiad.

'Ond yng ngoleuni'r holl dystiolaeth yr wyf wedi'i derbyn, rwyf wedi trefnu gwasanaeth i fwrw ysbrydion drwg ymaith.' Fferrodd Mathew.

Nid afresymol awgrymu ymhellach y byddai'n datguddio mwy o'i brofiad personol yn ei waith fel yr oedd yn aeddfedu fel nofelydd ac yntau o'r dechrau yn sefyll y tu allan i feddwl 'swyddogol' ei gymdeithas ac yn pwyso a mesur y meddwl hwnnw yng ngoleuni ei brofiad ei hun.

Cafodd budd llawn y buddsoddiad ychwanegol o £6 miliwn a wnaed gan y BBC yng Nghymru, yng ngoleuni datganoli, ei weld ai glywed ar draws pob un o'i wasanaethau.

Dangosodd y cipolygon hyn ar y bydysawd yng ngoleuni pelydrau-X neu uwchfioled bob math o bethau nad oeddem yn gwybod amdanynt o'r blaen.

Yn y broses o greu cyllidebau, felly, bydd yn angenrheidiol i gymhwyso'r gwahanol gyllidebau yng ngoleuni'r sefyllfa gyfansawdd fel y gwelir hi'n datblygu.

Gellir cymryd hyn i olygu bod angen sgrifenwyr Cristnogol mawr - megis Pantycelyn - sy'n amlygu pydew bywyd dyn yng ngoleuni cyfiawnder Crist, ond hefyd sgrifenwyr gwrth-Gristnogol sy'n gwrthod Crist ac yn - dewis pechod.

Iddo ef neges seml oedd yr Efengyl a gallai fod yn bur bigog ynglyn â diwinyddion a oedd yn sefyll yng ngoleuni gwrandawyr trwy hollti blew'n fympwyol."Take heed", meddai, "of sophisticating the Gospel." Fel y Ficer Prichard, credai Wroth fod gwerth mewn llunio penillion ar batrwm y cwndidau i wneud hanfodion y Ffydd yn gofiadwy i'w bobl.