Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ngwaelod

ngwaelod

Roedd ofn yn cnoi yng ngwaelod ei stumog.

"Mi rydw i'n cofio amsar," medda fi, pan ges i gyfla i dorri ar ei draws o, "pan oeddwn i'n mynd hyd y ffyrdd yma hefo ceffyl a throl, ac wrth ddþad adra, yn gorfadd ar wastad fy nghefn yng ngwaelod y trwmbal yn sbio ar y cymyla, a'r gasag yn mynd ei hun, a phan fydda'r drol yn dechra sgytian, roeddwn i'n gwybod fy mod i wrth Tþ Gwyn, achos doeddan nhw ddim wedi tario ddim pellach na'r fan honno." "Rwyt ti'n drysu yn y fan yna," medda fo.

Ond llechai rhyw ofn yng ngwaelod fy nghalon trwy'r cwbl.

Drwy'r ffenestr agored y noson honno, y peth olaf a glywai'r plant oedd sŵn yr afon yn llithro'n dawel dros y cerrig ar ei gwely gro yng ngwaelod y dyffryn, sŵn y tylluanod yn hwtian yn y coed ar ei glannau a chyfarthiad pell y llwynog coch o'i ffau ar lethr y mynydd.

Gydag ochenaid o ryddhad cyrcydodd y rhai a achubwyd yng ngwaelod y cwch ...

Cei gic ddisymwth yng ngwaelod dy gefn ac rwyt bron â gweiddi mewn poen.

Roedd y bumed â'i choesau i fyny fel rhyw gerflun modern, chwerthinllyd yng ngwaelod y cae!

Roedd gen i filgi wedi'i gael gan f'ewyrth ac un prynhawn, yng ngwaelod Nant y Berth roeddem wedi cael helfa dda.

Ac os oedd yna rhyw anrheg fach ychwanegol yng ngwaelod yr hosan, wel, r'on ni wrth ben fy nigon!