Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ngwas

ngwas

Does arna i ddim isio mynd yn ôl i ganol Saeson eto." "Mae arna i ofn dy fod ti braidd yn hwyr yn meddwl am beth felly, 'ngwas i.

Dim ond dweud yn garedig, yn feddal, a bron yn oddefgar, "'wyt ti'n cael hwyl 'y ngwas i?".

"Mam," gofynnodd, "ydych chi'n meddwl bod rhinoserosys yn lecio rhinoserosys?" "Mae'n rhaid 'u bod nhw, 'ngwas i," oedd yr ateb, "neu fyddai 'na ddim rhinoserosys bach, yn na fyddai?" A dyna Sandra a Hubert wedyn.

"Help i ddad-bacio'r car 'ngwas i.

"Roeddwn i'n meddwl mai pobl o gwmpas y lle yma'n unig oedd yn gwybod a does yna neb yn byw yma rŵan i ddweud wrthach chi." "Mae hynny'n ddigon gwir 'ngwas i.

'Rhaid i ti fwynhau'r profiad o gael merch, 'y ngwas i cyn dod yn aelod o'r criw yma,' meddai Mop.

'Diawl, tydyn nhw'n ddau o betha' del, hogia.' 'Wel o leia', 'ngwas i, ma'r hwch yma a finna' yn dal hefo'n gilydd.'

'A sut ma' hi, Pyrs, wynab yn wynab â'i phrofedigath?' 'Fel cyw gog, 'ngwas i.' 'Y?' 'Mor sbriws ag erioed, ar wahân bod 'na dipyn o ffedoga o dan 'i ll'gada hi.' 'Mae'n dda gin i glywad 'i bod hi'n ca'l y gras i ymgynnal, ac ochneidio'n ddefosiynol.' 'Gwranda, Oba.

'Da, 'ngwas i, tasat ti ond yn ca'l dy dderbyn yn bregethwr cynorthwyol, William, fath â dy daid ers talwm.' 'Ydi'r cur pen yn well, Mam?' 'Dipyn bach.' 'Mi wna i banad bach o Ofaltîn i ni'n dau cyn mynd a mi fedrwch chi fynd i'ch gwely'n reit handi wedyn.'

A phan gyrhaeddodd ef a'i ffrind y lan, trodd at arweinydd y chwilod dþr mwyaf a dweud yn fawreddog, 'Diolch yn fawr, 'y ngwas i.

Rwyt ti'n crynu fel deilen, 'ngwas i, wyt ti ddim yn dda?

'Aros, 'ngwas i,' meddai, 'dere i gael golwg ar y tegane 'ma.

Byddwn yn treulio llawer o amser yn nhy fy nain.Dywedodd hi rywbeth syfrdanol wrthyf flynyddoedd ynghynt wrth fy nghymell i fwyta 'Bwyta di ddigon y ngwas i' meddai 'i ti gael cefn cry; fydd dy dad ddim yn fyw yn hir iawn eto, ac mi fydd yn rhaid iti helpu dy fam' Cawsai fy Nhad lwch ar ei frest ac 'roedd yn ddifrifol o fyglyd.