Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ngweithiau

ngweithiau

Anwybyddwyd realiti oherwydd nad oedd yn cyd-fynd a'r hyn a oedd yn ysgrifenedig ar bapur - sef yng ngweithiau cysegredig Marx a Lenin.

(Er mai barddoniaeth yw prif bwnc y papur, nid amhriodol fydd tynnu sylw at rai gweithiau rhyddiaeth hefyd, pan fo'r rheini yn dangos syniadau tebyg i'r rhai a geir yng ngweithiau'r beridd.) Cafodd beirdd y genhedlaeth honno eu haddysgu cyn i syniadau modern ynghylch addysg ddisodli'r clasuron o'u lle blaenllaw yn y rhan fwyaf o ysgolion y wlad.

Dyna'r delfryd a bortreadid dro ar ôl tro yng ngweithiau'r beirdd - yr ymdeimlad o lywodraeth deuluol yn ystyr gyfyng yr endid hwnnw.

Nid ar unwaith yr enillwyd hyder gan na darllenwyr nac ysgrifenwyr pan ddaethpwyd i gyfansoddi stori%au ysgrifenedig, ond datblygodd llenorion Ffrangeg diwedd y ddeuddegfed ganrif ddull ymwâu themâu ac anturiaethau a dyfodd yn ddyfais naratif tra chywrain yng ngweithiau rhyddiaith y ganrif ddilynol.

'Roedd Prosser Rhys yn adlewyrchu'r chwalu ar yr hen safonau a oedd yn digwydd mewn diwylliannau eraill ar ôl y Rhyfel Mawr, megis yng ngweithiau James Joyce.

Ac nid llai hyddysg mohono yng ngweithiau'r Diwygwyr Protestannaidd.

Felly, nid yw'r prinder dylanwad clasurol yng ngweithiau'r beirdd Cymraeg yn dangos o reidrwydd iddynt fod yn anghyfarwydd â'r clasuron, neu yn elyniaethus iddynt; gallai olygu yn unig nad oeddynt yn teimlo'r angen i'w dynwared.