Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ngwir

ngwir

'Wel, ar fy ngwir,' meddai Gwyn.

Y gwir amdani oedd mai ysbeidiol oedd llwyddiant y Piwritaniaid ym mhob man - o leiaf, eu llwyddiant yng ngwir ystyr y gair gwleidyddiaeth.

"Cyflog mis ar fy ngwir," chwedl Griffi'r Cwrt.

Yn y cynnig yna mae'r seiliau ar gyfer dymchwel y Quangos, seiliau ar gyfer datblygu democratiaeth yng ngwir ystyr y gair, a seiliau i ddangos ein bod yn barod am hunan-lywodraeth.

Ninnau'n dal ein hanadl wrth ei dilyn drwy'r drysni a'i gwylio'n gwyro dros y dibyn, ac yn cyd-lawenhau yng ngwir ystyr y gair wrth iddi godi'r ddafad ar ei hysgwyddau.

Yng ngwir draddodiad roc a rôl fe gawn hanes y grwp yn ymweld a thy un o drigolion gwylltaf Caernarfon ac yn colli eu pennau mewn mwy nag un ystyr , gymaint âu bod yn...colli eu brên a theimlo fel ceffyl pren.

Ac felly y gwneuthum innau, oblegid ar fy ngwir, er fy mod yn hunangar nid oeddwn yn galongaled.

Yn Hemingway, gwelai Fidel 'anturiaethwr yng ngwir ystyr y gair - rhywbeth hardd gan ei fod yn ddisgrifiad o ddyn nad yw'n cydymffurfio â'r byd ac sy'n gweld dyletswydd i'w newid'.

Duw a wyr, Mair, fe wnest ti gymaint drosti ag oedd yn ddynol bosibl - mwy na hynny bron, 'nghariad i." "Ond doeddwn i ddim yno pan oedd arni fy ngwir angen i..." "Os oedd hi wedi penderfynu erbyn hynny, yna doedd mo d'angen di na neb arall arni pan ddaeth yr amser.

Cafodd sioc yng ngwir ystyr y gair.

Nid oedd yn ddeiseb yng ngwir ystyr y gair.

Dyma sy'n sicrhau "gwybodaeth" yng ngwir ystyr y gair.

Wrth gwrs, petaech yn gofyn iddo a gredai yng ngwir ddyndod Iesu, byddai wedi ateb ar ei ben, wrth gwrs ei fod.

Ond y gwir amdani oedd mai ambell gleient yn unig oedd yn ddieuog yng ngwir ystyr y gair.

Y genedl arall oedd yr Eidalwyr, yr honnai eu harweinydd mawr Mazzini nad oedd y Gwyddelod yn genedl yng ngwir ystyr y gair.

Mae tua deugain ohonynt wedi eu cyhoeddi bellach, ac ar fy ngwir, ni wn sut y byddai plant Cymru, yn enwedig plant sir Aberteifi, wedi parhau yn eu harchwaeth tuag at ddarllen Cymraeg oni bai am wasanaeth yr un dyn mawr hwn.