Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ngwynedd

ngwynedd

Mae Sian Howys, aelod amlwg o Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd hefyd yn weithwraig gymdeithasol yng Ngwynedd wedi anfon llythyr at Rhodri Morgan y Prif Ysgrifennydd sy'n galw ar i'r Comisiynydd Plant a apwyntir yng Nghymru i fod yn berson dwyieithog.

Defnyddio chwarel lechi Manod (Cwt-y-Bugail) yng Ngwynedd i gadw darluniau o'r Oriel Genedlaethol ac Oriel y Tate rhag cael eu dinistrio.

Rhywbeth pell oedd y rhyfel ac ni bu rhyfela yng Ngwynedd er dyddiau'r hen frenin John pan fu raid i'w filwyr fwyta cig eu meirch ar lannau afon Conwy.

"Mae'r ffaith bod First Knight yn dod i Feirionnydd yn golygu bod pobol leol yn cael gwaith, ac arian yn cael ei wario yn lleol," meddai Geraint Parry sy'n cynorthwyo Hugh Edwin, Swyddog Datblygu'r Cyfryngau yng Ngwynedd.

Rhoddodd wybodaeth drylwyr am y deddfau sy'n ymdrin ag addysg grefyddol, ac am y sefyllfa yng Ngwynedd.

CYNIGION: Ceir cryn bosibiliadau ar gyfer parhau i ehangu defnydd cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd, yn ogystal â thargedu adnoddau'n fwy soffistigedig tuag at y grwpiau a'r unigolion hynny a fyddai'n gwneud y defnydd gorau arno.

Agwedd Ragweithiol: Cymera'r Adain hon agwedd ragweithiol tuag at ddarparu rhwydwaith cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd sy'n integreiddiedig ac yn gynhwysfawr.

Rhoes hygrededd i Blaid Cymru yn arbennig yng Ngwynedd a Dyfed.

Ystadegau: Mae'r Adain yn rheoli dros gorff arwyddocaol o wybodaeth sy'n ymwneud ag ansawdd bywyd yng Ngwynedd mewn perthynas â'r amgylchedd.

(c) Astudiaeth o Ynni Adnewyddol yng Ngwynedd CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.

Dengys cymhariaethau â Chymru a Phrydain fod lefelau incwm yng Ngwynedd dipyn yn is na'r cyfartaledd dros Brydain a Chymru gyfan.

Efallai fod yna gynhyrchwyr annibynnol yng Ngwynedd sy'n cofio ymadrodd Marx am hanes yn ei ailadrodd ei hun, y tro cyntaf fel trasiedi, yr eildro fel ffars.

Prin y byddai gan yr un is-olygydd yn Stryd Y Fflyd unrhyw ddiddordeb mewn darluniau gan blant Ysgol Gyfun tre fechan yng Ngwynedd.

Mae'n hannu o Fethesda yng Ngwynedd.

Yn yr Oxfordshire Gazette hysbysebwyd tai yng Ngwynedd, a phlastrwyd posteri ar swyddfeydd yr arwerthwyr gyda'r slogan, NID YW CYMRU AR WERTH YN RHYDYCHEN.

O safbwynt cynnal a datblygu addysg ddwyieithog yng Ngwynedd, ganddoch chi'r cydgysylltwr iaith mae'r rol bwysicaf.

os derbynnid galwad yng Nghanolfan Dolgellau wedi amser cau, gellid trosglwyddo'r alwad ar ei hunion i ganolfan gynghori arall oedd ar agor yng Ngwynedd.

Dywedodd Mrs Ann Morgan, Porthaethwy, Cadeirydd Cyfeillion y Samariaid yng Ngwynedd ei bod yn ddiolchgar tu hwnt i bawb a gyfrannodd i wneud y diwrnod yn un mor llwyddiannus, yn arbennig i bobl Bangor a fu mor barod i sefyll ar y stryd ac yn Kwiks i fynd ar ofyn y cyhoedd.

Mae hyn yn dangos yn glir y gwendidau sydd yn y sylfaen gyflogaeth yng Ngwynedd o'i chymharu â siroedd a rhanbarthau eraill.

Yr oedd y ffaith mai yng Nghaernarfon y gweithiai ei hysgrifennydd a'i phrif drefnydd yn adlewyrchu dechreuadau'r Blaid fel mudiad yn y dref a'r fro honno a'r gwreiddiau dwfn a oedd ganddi yng Ngwynedd.

PRYSURDEB MAWR Y FAENOL - FFILMIO OPERA SEBON YN ADEILADAU'R FFERM: Os yw un ardal yng Ngwynedd yn denu rhai o brif ser Hollywood yr haf hwn ym mro'r Goriad mae'r stori'n wahanol.

Neu hyd yn oed "y peth pwysicaf yng Ngwynedd neu Dyfed"?

Mae darparwyr gwybodaeth yng Ngwynedd yn cydnabod yr angen i wneu y defnydd gorau posib o gryfderau a chyfleoedd ei gilydd yng ngwasanaeth yr hen bobl a phobl sydd ag anabledd.

Bydd hyn yn galluogi busnesau yng Ngwynedd a staff yr Awdurdod i gyfathrebu â'i gilydd ac â chanolfannau led-led y Deyrnas Gyfunol a'r tu draw.

Mae Siân Howys, aelod o Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd hefyd yn weithwraig gymdeithasol yng Ngwynedd, wedi anfon llythyr at Rhodri Morgan, y Prif Ysgrifennydd, yn galw ar i'r Comisiynydd Plant a apwyntir yng Nghymru i fod yn berson dwyieithog.

MIND yng Ngwynedd, y Cynllun Gofalwyr.

"Pwy ydi John Redwood i ddiystyru pryderon real iawn pobl Gwynedd pan fod lefelau rhai mathau o gancr yn uwch yng Ngwynedd na rhannau eraill o Brydain," meddai.

Mae'r rhan hon o Gymru hefyd yn dibynnuw dipyn mwy ar y sector wasanaethol am waith o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol, ac mae graddfa'r gweithgaredd yn y sector gynhyrchu yng Ngwynedd gyda'r isaf ym Mhrydain.

Hefyd yn ystod y mis cynhaliwyd cyfarfod pryd y daeth y Capten David Emery o Fyddin yr Iachawdwriaeth i roi sgwrs i'r aelodau am waith y Fyddin yng Ngwynedd.

Wrth gwrs, nid yn y ddeunawfed ganrif y dechreuodd y traddodiad morwrol yng Ngwynedd.

Rhoddwyd cefnogaeth i sefydlu Cymdeithas Alzheimers yng Ngwynedd drwy helpu gyda theipio deunydd, postio llythyrau a chwilio am fannau cyfarfod addas.

Hefyd mae cyflogau merched lawer yn is na chyflogau dynion yng Ngwynedd, Cymru a Phrydain, gan adlewyrchu'r ganran uchel o ferched mewn gwaith rhan-amser a'r diwydiannau gwasanaeth sy'n cynnig cyflogau is.

Un o'm prif bleserau yw darganfod planhigion prin yn eu cynefin yng Ngwynedd a thynnu eu lluniau.

Yn ystod y flwyddyn bydd Angela Roberts yn gweithio gyda 28 practis doctoriaid yng Ngwynedd ac yn meithrin cysylltiad agos efo Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Orllewin Cymru i ddatblygu a gweithredu cynlluniau gofal.