Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nhy

nhy

Meddyliais am fy nhŷ gwag; fawr o ddim yno ar wahân i ddau wy, tamaid o gaws a choffi du i swper, a'r awydd i fwyta mwy ond heb yr hawl i wneud hynny.

Yr oedd y Cyfundeb wedi sefydlu eglwysi ers rhai blynyddoedd o bobtu Peniel, sef yn Nantglyn a Phrion, ond fe gynhaliwyd Ysgol Sul yn y Lawnt, lle bychan rhwng Peniel a Dinbych, ac hefyd yn Nhŷ Coch sydd ar fin y ffordd rhwng Dinbych a Nantglyn ac ar gyrion ardal Peniel.

Ond does dim golwg o'r gadwyn yn nhy Twm Dafis, ac nid oedd hi arno pan ddaliwyd o.

Ond o bryd i'w gilydd, wrth dân y rŵm ffrynt yn Nhy'r Ysgol, Coedybryn, 'rwy'n meddwl iddo adrodd wrthyf holl hanes ei fywyd.

Mae'n dychwelyd i Brydain yr wythnos yma wedi tymor llwyddiannus yn Nhŷ Opera Efrog Newydd ac yn mynd ar daith i Glasgow, Birmingham, Llundain a Manceinion.

'Mwrdwr' oedd ei gair hi wrth ddisgrifio'r cyffro yn nhŷ'r Yafais, ond cymerodd Harry'r peth fel ffordd o siarad - wedi'r cyfan, roedd yn hen gyfarwydd a sŵn cweryla yn dod oddi yno.

Roedd wedi galw yn nhŷ Ali fore dydd Gwener pan ddywedodd Ali wrtho fod Mary wedi mynd i Lundain ac iddo roi decpunt iddi.

'Roedd yno radio,flynyddoedd cyn i ni gael un yn Nhy Capel, fy nghartref erbyn hynny, ac uchafbwynt y pnawn fyddai'r darllediad a ddechreuai tua dau o'r gloch - Llundain yn galw pellafoedd yr Ymerodraeth Brydeinig.

Cafwyd croeso arbennig yn nhy bwyta Lia a Leo.

Mae bara ddigon yn nhy dy dâd.

Tu ol i'r holl broblemau hyn mae problem arall, y fwyaf sylfaenol o'r cwbwl yn fy nhŷb i, sef problem y Rhwyg Ieithyddol - problem yr iaith.

Arwydd eu bod hwy'n ennill peth tir yw bod yr aelodau Seneddol Cymreig yn rhoi diwrnod i drafod y mater yn Nhy^'r Cyffredin a bod y Cyngor Darlledu Cymreig yn sefydlu pwyllgor i ystyried a ellid o gwbl drefnu awdurdod teledu Cymreig annibynnol.

Prif feysydd gweithgaredd BBC Adnoddau, Cymru yn ystod y flwyddyn oedd etholiadaur Cynulliad Cenedlaethol, cyflwyno cyfleusterau darlledu yn Nhy Crughywel, agoriad Swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol a dathliadaur mileniwm.

Mae'n rhygnu byw yn nhy ei chwaer.

Roedd tripiau'r Rhyl yn bethau arbennig iawn, dyddiau hapus i'w cofio er bod y boced yn weddol dlawd ond roedd hwyl i'w gael gyda bwced a rhaw a the am ddim yn nhŷ bwyta'r 'Summers'.

'Ta waeth, ar y diwrnod arbennig yma, ddês i adre o'r ysgol - hwn ydi'n nhy fi, gyda llaw - 'Heulwal', Stad Bryn Glas - jest heibio'r groesffordd a chyn cyrraedd y groesfan zebra.

Gwaith cyffelyb, gobeithio, i'r hyn a wnâi'r bobl yn Nhŷ Gwyn, ond bod rhai o'r rheini'n athrawon.

Ein cyrchfan oedd Dolgellau, lle'r oedd Mrs Ann Rhydderch yn aros i'n tywys drwy amgueddfa'r Crynwyr yn Nhŷ Meirion.

Trefen berffeth, yn y tŷ - ac yn y bocs, gobeithio!' 'Taw son am drefen dy dŷ wrtha'i - mae Alun o hyd yn dannod hwnnw i fi!' 'Alun yn dannod fy nhŷ i ti!

Damweiniodd i Dr Parry, Y Bala, ddod i bregethu i Gefn Brith, ac yn Nhy'n y Gilfach y byddai pregethwyr arfer â lletya.

Wedi teithio i Lundain ar y trên roeddwn i i nôl y plant, a oedd wedi bod ar eu gwyliau yn nhŷ Dam-cu a Mam-gu yn Surrey.

Llew yn un o nifer o feirdd cadeiriol a oedd yn trafod eu hawdlau yng Ngwyl yr Academi Gymreig yn Nhy Newydd ger Cricieth yn ddiweddar.

Y sgwrio a'r sgleinio, a mynd dros bob dodrefnyn yn nhŷ anti efo cŵyr ac eli penelin!

Y mae L'Etang yn dyfynnu rhan o ddisgrifiad rhyw aelod Llafur o ymddygiad Eden yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynnar yn Nhachwedd:

"Roeddwn yn falch iawn o'r cyfle i gael adnewyddu fy nhŷ," meddai Sheila Williams.

"Wel, mi glywais eich sgwrs yn nhŷ Twm Dafis i gychwyn .

Wedi dychwelyd i'w lety llwm y noson honno y buasai yn nhŷ braf Mrs Paton Jones teimlai Hector dipyn yn fwy hyderus a phwysig.

Byddwn yn treulio llawer o amser yn nhy fy nain.Dywedodd hi rywbeth syfrdanol wrthyf flynyddoedd ynghynt wrth fy nghymell i fwyta 'Bwyta di ddigon y ngwas i' meddai 'i ti gael cefn cry; fydd dy dad ddim yn fyw yn hir iawn eto, ac mi fydd yn rhaid iti helpu dy fam' Cawsai fy Nhad lwch ar ei frest ac 'roedd yn ddifrifol o fyglyd.

Timothy Evans, a grogwyd am ladd ei wraig a'i ferch pan oedd yn byw yn nhy'r llofrudd Reginald Christie, yn cael pardwn.