Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nietzsche

nietzsche

'Mepaphysische Landschaft' (tirlun metaffisegol) Segl neu Sils Maria oedd Arcadia Nietzsche ac yr oedd bugeiliaid y fro yn amlwg yn 'nisgleirdeb euraid' y darlun.

Yn y llall, mae'r dyffryndir araul, heulog fel petai filoedd o droedfeddi yn is na'i chwe mil uwch lefel y mor: 'chwe mil o droedfeddi y tu hwnt i Ddyn ac Amser', chwedl Nietzsche; 'Brodir uwch brad yr oes', i fenthyg geiriau JM Edwards am ddarn o Geredigion.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.