Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

niferoedd

niferoedd

Mae'r patrwm prynu yn dilyn yr un patrwm â'r darllen i raddau helaeth, er bod y niferoedd sy'n prynu ychydig yn is.

Roedd nifer y disgyblion a oedd yn bwriadu dal ati i astudio'r Ffrangeg y flwyddyn ganlynol yn arwyddocaol uwch na'r niferoedd a gaed cyn hynny.

Rhaid cydnabod bod grym yn perthyn i'r Saesneg ac ni fydd y sefyllfa bresennol yn newid hyd yn oed gyda niferoedd ychwanegol o siaradwyr oni fyddwn yn wynebu'r ffaith honno. 17.

Pryder ynglyn â chrebachu'r iaith yn y cadarnleoedd, ei dirywiad fel iaith gyntaf ar yr aelwyd, ac yn y defnydd a wneir ohoni mewn cyd-destunau 'traddodiadol'; gobaith ynghylch y cynnydd yn niferoedd y bobl ifanc sy'n ei siarad, y cynnydd yn y defnydd a wneir ohoni mewn cyd-destunau newydd ac yn y cyfleoedd newydd i'w defnyddio.

Ond dyna oedd y peth rhesymol oherwydd diffyg pres a diffyg niferoedd, mi fasa'n gwneud synnwyr i ni gyd gyfarfod ar y Sul yn un Eglwys yn Aberdaron.

Mae'r nifer o ddefaid a gedwir yng Nghymru'n uchel iawn o'i gymharu â niferoedd yng ngwledydd eraill Prydain.

Bydd ei datgomisiynu a'i chau yn cael effaith sylweddol ar niferoedd y diwaith ac ar nifer y gweithwyr crefftus fydd yn allfudo.

96% o'r Cymry Cymraeg a 94% o'r di-Gymraeg yn cytuno y dylid cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg.

Eto i gyd y mae yn Llŷn niferoedd o deuluoedd ymroddedig a'u plant yn Gymry glan gloyw, a bydd y plant rheini yn siarad Cymraeg hyd ganol a diwedd y ganrif nesaf, oherwydd y mae yn Llŷn hefyd gyniwair mewn Clybiau Ffermwyr, mewn Adrannau o'r Urdd, mewn Cyfarfod Plant ambell i gapel, mewn tafarn Gymraeg Gymreig, mewn Eisteddfod a Sioe a Chyrddau Pregethu a rasus motos.

Nid mater syml o gynyddu niferoedd siaradwyr y Gymraeg drwy'r system addysg yw hi.

Gellid gosod targed hollgynhwysol ar gyfer cynyddu niferoedd, o gofio fod cyfnod y strategaeth yn ymestyn dros gyfnod Cyfrifiad 2001 hyd at gyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011.

O ran cynyddu niferoedd, mae gan addysg a hyfforddiant rôl ganolog, cwbl hanfodol i ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Wrth ystyried cynyddu niferoedd, mae'n rhaid canolbwyntio ar grwpiau o fewn y boblogaeth lle mae dylanwadu'n gadarnhaol er mwyn cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn bosibl ac yn debygol o fod yn effeithiol.

Mae'r cyd-bwysedd rhwng niferoedd yr adnoddau gwreiddiol a'r addasiadau a gynhyrchwyd i'w groesawu.

Mae gwledydd eraill sydd yn cymryd normaleiddio eu hiaith o ddifrif bellach yn gweld twf yn y niferoedd sy'n medru'r iaith ar draws y sbectrwm oedran er gwaetha'r pwysau cynyddol oddi wrth ieithoedd dominyddol y byd.