Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

niferus

niferus

Roedd yn fardd, llenor a newyddiadurwr, cenedlaetholwr i'r carn, a chyfaill diarbed i'w deulu agos a'i ffrindiau niferus.

Gwelodd Jean Paul Sarte, y Comiwnydd, bwysigrwydd difesur eu hiaith i bobl sydd dipyn yn llai niferus na'r Cymry, sef y Basgiaid.

Gan fod i bob rhan ei enw Lladin roedd yn ofynnol ei dysgu a'u cofio i gyd ac mae'r mân esgyrn a geir yn yr arddwrn a'r llaw, yn unig, yn niferus iawn.

Y mae'n debyg y dylid cynnwys yr Wcraniaid niferus yn y categori cyntaf, er bod eu hymwybyddiaeth genedlaethol yn wannach o lawer nag eiddo'r Pwyliaid a'r Magyariaid ar yr adeg hon.

Byddai'r cetris gweigion niferus ar ochrau ffordd y Cob yn tystio i'r gyflafan.

Gan fod y cast mor niferus, ymddangosai'r lle yn eithaf llawn, ac yr oedd hynny yn fy ngwneud yn fwy cysurus.

Bydd darlledu cyhoeddus yn parhau i chwarae ei ran wrth ddarparu gwasanaethau radio a theledu i bobl Cymru, wrth i'r sianeli digidol niferus ehangu'r dewis.

Y mae'r cofiant yn gyfraniad o bwys wedi'i seilio ar waith ymchwil trylwyr, yn cynnwys defnydd helaeth o ffynonellau niferus, llafar ac ysgrifenedig.

Yn aml, bardd crwydrol yw ef - fel y bu Waldo am lawer o'i oes (gan ymdebygu ar lawer cyfrif i Ieuan Brydydd Hir), - a'i gyfeillion yn niferus ac yn wasgaredig.

Yr oedd dau goleg y Bedyddwyr (yn Hwlffordd ac ym Mhont-y-pŵl) hefyd wedi rhoi lle rhyngddynt i dri estron ond nid yw hynny'n gymaint o ryfeddod, efallai, ag yn hanes y Methodistiaid oherwydd yr hen gysylltiadau niferus rhwng Bedyddwyr Cymru a Lloegr.

Roedd y dorf niferus oedd yn bresennol yn y capel a'r amlosgfa yn dystiolaeth o'r parch.

Nid yw ysgolion meithrin a gynhelir yn niferus.

Enghraifft nodedig o'r cychwyn hwn yw'r rhwydwaith papurau bro sy'n britho Cymru heddiw ac sy'n cynnal yn eu sgîl weithgareddau niferus ac amrywiol a phob un ohonynt yn hybu Cymreictod.

Mae'n syndod pa mor niferus yw'r rhai sy'n tybio y gallant berthyn i eglwys ar eu telerau eu hunain a chredu beth a fynnont, heb ystyried beth yw gofynion Iesu Grist.

Yr ydym yn gyfarwydd â nifer mawr o ddiffiniadau o'r pwnc, yn amrywio o ddweud mai 'Economeg yw'r hyn y mae economyddion yn ei wneud', i'r disgrifiad hwnnw sydd yn sôn am rannu adnoddau prin rhwng galwadau niferus.

Efallai mai cyd-ddigwyddiadau sy'n gyfrifol am hyn neu'r ffaith bod argyfyngau gwleidyddol ein cefndryd Celtaidd mor niferus â gwyliau'r Eglwys.

"Ond dyw e ddim yn erbyn y gyfraith i'n gwahardd ni." Geiriau o'r galon gan un o "leiafrifoedd" mwyaf niferus Gwledydd Prydain.

Nid oedd Bob Edwards mor alluog â'r ddau gyntaf ond llwyddodd i gadw diddordeb dosbarth niferus o bobl ieuainc o'r deunaw oed i fyny.

Enillodd rhaglen o gyfres llynedd, Annwyl Kate, Annwyl Saunders a ddangoswyd eto oherwydd ceisiadau niferus, y wobr am y Rhaglen Ddogfen/Drama Ddogfen Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru.

Yno y magai yn ei siol ei theulu niferus o gathod bach ac y llenwai bocedi'i brat ag afalau prenglas o'r ardd anial.

Yn enwedig y dyddiau hynny y byddai o'n mynd i weld ei wragedd niferus - a'i saith gant o gariadon.

Ymhlith ei niferus fendithion bu'r mudiad yn gyfrwng i ni ddod i adnabod ein gilydd a lluosogi'n ffrindiau ledled y Sir ac yn genedlaethol.

Bu'r hanner canrif diwethaf yn gyfnod pan welwyd cyfres o chwyldroadau rhy niferus i'w henwi i gyd.

Tri chant o ddynion dethol oedd gan hwnnw yn erbyn lluoedd Midian ac Amalec, a oedd mor niferus â haid o locustiaid.

Canent awdlau mawl hefyd i Dduw a'r saint, er bod y rhain yn llawer llai niferus.

Mae gan BBC Cymru gynlluniau niferus ac amrywiol yn y maes hwn, ac un project ym 1999 oedd pecyn hyfforddiant Medrau Allweddol i athrawon, darlithwyr a chyflogwyr.

Mae yna genhedloedd sy'n trin diwylliant fel rhywbeth ym perthyn i'r deall ac i'r meddwl, ac mae yna genhedloedd eraill, mwy niferus, sy'n siarad amdano fel petai'n beth.

Enghraifft syml o hyn yw catalogau sioeau amaethyddol, sy'n adlewyrchu newidiadau ym myd amaeth gyda chatalogau cynnar a dosbarthiadau niferus yn orlawn o geffylau gwedd tra bod catalogau diweddarach yn cynnwys mwy o ddosbarthiadau ar gyfer mnerlod bychain i'r plant.

Yr oedd y dasg o gynhyrchu, gyda chast mor niferus yn un enfawr.

Pwysleisiai fod Mam yn disgwyl iddo ef ddod adre i fynd â ni i'r Cwrdd am y tro cyntaf a soniai am fy mrawd lleia a waeddodd mâs cyn i'r offeiriad gyhoeddi'r emyn olaf "Sdim fod siarad yn y Cwrdd" nes peri i'r gynulleidfa niferus (yr adeg honno) droi i edrych i gyfeiriad y cyhoeddwr dewr!

Roedd yn well inni ildio peth o'n nwyddau a chael llonydd na cheisio ymladd yn erbyn byddin rhy niferus ac yn y diwedd golli ein holl eiddo a cholli ein bywydau yn ogystal.

Edrychai Cymry'r cyfnod ar Ewrop drwy lygaid eu cymdogion Seisnig, sy'n esbonio eu difaterwch tuag at y cenhedloedd niferus hynny ar y cyfandir a oedd yn debycach iddynt hwy o ran maint a phrofiad.

Llwyddodd yr amddiffyniad i grynhoi ynghyd gorff niferus o Gymry parchus Lerpwl ac o fyfyrwyr Cymreig.

Roedd y cyfeiriadau niferus at Ddafydd yn herio Goliath a frithai bapurau newyddion y gorllewin pan oedd gwledydd y Baltig yn gwrthod plygu glin i Gorbachev yn siŵr o fod yn drysu llawer o'r Rwsiaid yn lan.

Mawr fu fy mraint i gad adnabod y cyfeillion hynny a llawer o rai eraill rhy niferus i'w henwi, o'r ddau ryw, brysiaf i ychwanegu.

Mae'r affwysol-dlawd a'r gweddol-dlawd a'r dosbarth canol i gyd yn cymysgu'n rhydd ar y platfform - wel, does fawr o ddewis - ond y tlawd yw'r garfan fwyaf niferus o lawer.

Ni fwriadaf restru yma ddulliau defnyddio mawn, ddaeth mor wybyddus erbyn hyn, ond caf aml ymholiad ynglŷn ag o gan ambell newyddian gyda garddio sydd wedi gwrando ar y canmoliaethau niferus amdano ac yna mlwg yn fodlon coelio bron bopeth ddarllena neu a wrendy.