Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

niwlog

niwlog

Nid rhethreg niwlog Lloyd George mewn Eisteddfod mo hyn; dyma angerdd llym meddwl effro a bywiog.

Gall ffermwr o'r trydydd byd fod yn ffigur niwlog gyda'i broblemau a'i obeithion yn ddieithr iawn inni - ond wedi inni weld ei wyneb yn eglur a chael cip ar ei deulu a'i gartref a'i gefndir yna daw yn berson y gallwn ddod i'w adnabod.

A phan fydd un ohonynt yn holi lle mae'r 'bobl bach', yr ateb a roddaf yw na ellwch eu gweld - mae'n ddiwrnod rhy niwlog.

R'on i'n gwrando ar lais profiad a sylweddoli ar yr un gwynt fod y ffin yn denau a niwlog rhwng cofnodi darlun gwrthrychol o'r erchyllterau a chofnodi darlun oedd wedi'i osod yn ofalus i roi argraff wrthrychol.

Yn ei waith diweddarach mae'n symleiddio ffurf i'w elfennau mwyaf sylfaenol, ac eto mae'r ymdeimlad o olygfa ar adeg arbennig - ar ddiwrnod gwlyb, gwyntog, niwlog, er enghraifft - yn arbennig o gryf.

Ni ddefnyddiai'r gair fel sarhad cyffredinol a niwlog, ond mewn ystyr cyfyng a phenodol.

Yna i lawr i Ogwen lle cawsant banad a banana cyn ei g'neud hi am y Carneddau, gyda'r tywydd yn parhau yn niwlog a gwlyb.

CODI CAERAU Mi fuon nhw'n helpu'r Romans i godi caerau ym mhob man hyd y wlad niwlog yma.

Awgrymodd Glyn Jones iddo droi i'r Saesneg fel adwaith yn erbyn crefydd; mae'n bosib bod y newid iaith hefyd yn ymgais i'w uniaethu ei hun a'r hyn a ystyriai ef yn symudiadau mawr y meddwl dynol, i ennill troedle ar lethrau niwlog arucheledd:

Rhythai ei llygaid agored drwy'r tywyllwch, a lluniau o'i thri phlentyn fel lledrithiau niwlog yn dawnsio'n araf o'i blaen.

Holais un neu ddau o'm cydnabod - pobl gyfrifol a gwybodus - ond braidd yn niwlog oedd eu barn am ei gynnwys.

Yn yr un modd y mae cyfeiriadau'r beirdd at Drystan yn hynod niwlog.

Mae defnyddiau eraill yn gadael goleuni trwyddynt, ond gwasgerir y goleuni i bob cyfeiriad, fel na wel y llygad ddim ond delwedd niwlog a dryslyd.

Mae'r cyfan ychydig bach yn niwlog, ac o'r herwydd, nid yw'r fferm mor bwysig ag y gallai fod o fewn i fframwaith y nofel.

Rhif oed yr addewid, meddyliodd Willie'n hyderus, addewid o bethau gwych i ddyfod, nid nefoedd niwlog o fyd arall, ond yma o'i gwmpas ac yntau gyda digon o bres yn ei boced i dalu amdano.

Roedd yn dalentog o niwlog, ac yn benthyca'r rhan fwyaf o'i syniadau oddi wrth eraill.

Gan nad oeddwn ond pymtheg oed pan fu farw Anti (dyna sut oeddem yn ei galw) y mae fy atgofion ohoni braidd yn niwlog.

Ond `tywyll ddiwrnod - diwrnod cymylog a niwlog' yn hanesyddiaeth preswylyddion y palasdai gorwych hyn, a welwn heddiw yn weigion, oedd diwrnod gosodiad i fyny y llywodraeth newydd yn Montgomery.