Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

niwsans

niwsans

Roedd yr oedi'n niwsans i griw o ohebwyr blinedig ond yn dyngedfennol i'r gwirfoddolwyr a oedd yn gorfod symud bwyd yn gyflym o'r maes awyr i'r canolfannau bwydo, os am ddal eu gafael arno.

Mae rhyw ymgais wedi ei wneud i fasnacheiddio'r Taj, ac mae'r higliwr a'r tywyswyr hunanapwyntiedig yn breplyd ac yn styfnig ac yn dam niwsans.

Ar hyn o bryd, mae ysgolion gwledig yn cael eu trin a'u trafod mewn dull tameidiog a negyddol: mae polisiau'n newid o un awdurdod lleol i'r nesaf, ac mae'r ysgolion yn cael eu gweld fel problemau costus - yn niwsans.

Ac mae'n amser iti gael gwybod Pitar, nad wyt ti'n ddim on niwsans wedi hanner ei berffeithio, a gwylia rhag i dy gysgod dy fychanu'.

Roedd he'n prysur droi'n niwsans glân.

Mae'n rhaid i'r iaith ddod â phobl at ei gilydd, yn hytrach na'u gwahanu; dylai hi gael ei hystyried fel rhywbeth i ymfalchïo ynddi a'i defnyddio, nid fel niwsans neu fygythiad.

Naddo ddaru o ddim mo fy llofruddio, na fy mwrdro na fy lladd nag uffar o ddim arall chwaith ac mae'r hen straeon yma wyt ti'n eu hel amdanaf, fy mod i wedi fy nghladdu a dy fod ti wedi bod yn y cnebrwng ac fel y byddi di'n rhoi blodau ar fy medd bob Dydd Sul, wel mae o'n blydi niwsans ac yn gwneud drwg diawledig i 'musnes i.

Peidiwch â gwneud i siaradwyr Cymraeg deimlo eu bod yn niwsans am eu bod nhw'n dymuno siarad yn Gymraeg drwy ofyn cwestiynau fel 'Oes rhywun yn mynd i siarad Cymraeg yn y cyfarfod yma?'.

Fe allai chwiorydd bach fod yn niwsans glân ambell waith.

Honnid ei fod yn creu niwsans difrifol a bod ei ymddygiad yn hollol annerbyniol.