Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

noddfa

noddfa

Edrychid ar y llys brenhinol yn ganolbwynt cymdeithas a llywodraeth ac yn noddfa grym a chlod.

Y mae hi'n briodol dweud mai un o'r rhesymau pam y llwyddodd y Gymraeg i oroesi cyhyd yw am ei bod wedi llewyrchu am flynyddoedd lawer rhwng cloddiau amddiffynnol rhai peuoedd (domains) arbennig a fu'n noddfa gadarn iddi.

Yr oedd fy nghartref yn ddinas noddfa lle cawn siarad fy iaith naturiol er imi gale crap go dda ar yr iaith fain hefyd.

Dywedwyd am Iorwerth Fynglwyd ei fod yn edrych ar Fargam 'fel un o ddinasoedd noddfa'r bardd Cymraeg,' yn enwedig pan oedd yr Abad Dafydd yn bennaeth yno.

Does dim dwywaith nad oedd y fro honno yn un o fannau paradwysaidd y bardd; yn noddfa rhag dyddiau blin ac yn ffynhonnell bodhad arbennig.

Roedden nhw'n aelodau ffyddlon o Noddfa, lle'r ymgasglodd ei theulu a'i ffrindiau i dalu teyrnged i un a ddylanwadodd yn fawr ar eu bywydau.

Pranciodd y llong fel march piwus, llamsachus trwy'r cawodydd o ewyn hallt nes gyrru'r teithwyr ansicr i lawr i noddfa'r salŵn.

Dichon mai'r adran sy'n estyn noddfa a chynefin i'r adar naturiol wyllt sy'n denu'r gwyliwr adar selog i Martin Mere.

Ond trown atat yn hyderus, canys buost trwy'r oesoedd yn noddfa rhag y dymestl i'th bobl.

Beirniadodd ef ei thuedd i ddibynnu ar hen noddfa stori%wyr fel Richard Hughes Williams, sef marwolaeth, yn y stori 'Yr Athronydd' (O Gors y Bryniau) ac meddai am y stori 'Newid Byd', o'r un gyfrol: Heddiw, ni sgrifennai'r pum gair olaf.

Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.