Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nodedig

nodedig

O ystyried fod Lewis Glyn Cothi'n fardd nodedig o dduwiol, mae absenoldeb unrhyw sylw ynghylch tynged enaid ei fab yn drawiadol iawn.

Ar ôl cyfnod llwyddiannus iawn gyda'r RSC a gwaith teledu sylweddol - drama David Mercer, Let's Murder Vivaldi, yn fwyaf nodedig - dechreuodd enw Glenda Jackson gofrestru yn y cof.

Ei awdur oedd Tremenheere, a oedd yn dechrau ar ei yrfa nodedig fel arolygwr ffatri%oedd,.

Fe gafodd Aranwen Jones (Cadeirydd), Buddug Jones a Derfel Roberts fuddugoliaeth nodedig tra'n trafod y testun 'Fod yn rhaid i'r Eglwysi newid ffurf eu gwasanaeth os am ddenu'r cynulleidfaoedd yn ôl.' Dyfarnwyd araith Buddug Jones, Dolgellau yr orau yn y gystadleuaeth.

Cafwyd dau gyfarfod cyhoeddus nodedig yn Lerpwl, un ohonynt wedi ei drefnu gan Mrs Morovietz ar ran y Pwyllgor Amddiffyn; ond Cyngor Lerpwl a drefnodd y llall.

Yr oedd Rhys Thomas yn saer nodedig ac yr oedd ganddo weithdy helaeth iawn, a dysgai amryw o fechgyn ifainc i fod yn seiri coed yn eu tro.

Ac o safbwynt llenyddol, gallai fynegi ei hunan mewn cwpledi a phenillion nodedig am eu cryfder, eu heneiniad a'u prydferthwch.

Bydd datgomisiynu Gorsaf Ynni Niwcliar Trawsfynydd, oedd yn cyflogi nifer sylweddol ac yn nodedig am gyflogau uwch na'r cyfartaledd, yn cael effaith andwyol ar y ddau ffigwr yma.

Cofiaf yn arbennig am weithdy dau saer coed, a byddai'r ddau yn nodedig am eu gwaith crefftus a da.

Byth oddi ar amser cyfraniadau nodedig Johannes Weiss ac Albert Schweitzer at yr astudiaeth o Iesu Hanes bu'n rhaid i'r ysgolheigion hynny a fu'n credu fod yr astudiaeth yn debyg o ddwyn ffrwyth dderbyn y gwirionedd nad oes fodd deall pwrpas a gwaith yr Iesu heb roi lle canolog i'w ddisgwyliad eschatolegol.

Ond prin y gallent hwy, hyd yn oed, gystadlu o ran harddwch â'r eglwysi cadeiriol, yr hen eglwysi clas (megis Llanbadarn Fawr) ac ambell eglwys blwyf, heb sôn am abatai a phriordai'r gwŷr wrth grefydd- casgliad nodedig o adeiladau gwych dros ben.

Prif symbylydd clwb Maesywaen yn y gystadleuaeth nodedig yma yw Maureen Jones gyda chymorth, nid bychan, Gwynedd y gŵr.

Ond wedi darllen pennod Mr Steffan Griffith ar achau Waldo, meddyliais nad anniddorol fuasai cyfeiriad neu ddau at rai o aelodau'r teulu nodedig hwn fel tamaid i aros pryd.

Roedd y fenter aml-gyfrwng nodedig hon yn coffau'r 20fed ganrif fel y'i hadlewyrchwyd gan ddigwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ceir cyflwyniad nodedig i ganu'r Cywyddwyr fel y cyfryw ym Morgannwg yn y cywydd a ganodd Gruffudd Llwyd i'w hannerch.

Enghraifft nodedig o'r cychwyn hwn yw'r rhwydwaith papurau bro sy'n britho Cymru heddiw ac sy'n cynnal yn eu sgîl weithgareddau niferus ac amrywiol a phob un ohonynt yn hybu Cymreictod.

Prifathro'r ysgol leol ar y pryd oedd gwr nodedig, unigryw ar lawer ystyr, o'r enw D Rhys Jones.

Mewn ysgrif nodedig a gyfieithwyd yn Planet, dywedodd y byddai gormeswyr Sbaenaidd y Basgiaid yn llwyddo, pe dinistrient yr iaith Fasgaidd, i wneud y Basgiad "yn ddyn haniaethol".

Yn yr oes faterol sydd ohoni, byddai rhai'n galw'r gonestrwydd hwn yn styfnigrwydd, ond dyw'r cwmni ddim heb ragflaenwyr nodedig yn hyn o beth - roedd agwedd debyg yn nodweddu'r cwmni%au Saesneg llwyddiannus a enwyd ar ddechrau'r erthygl.

Un o'r peryglon pennaf a wynebai'r morwynion alltud oedd 'dyfod i gyffyrddiad a llyfrau o duedd lygredig a drygionus, a ffug-chwedlau, o'r rhai hyn, mae llenyddiaeth y Saeson yn llawn, yn fwyaf nodedig y rhan (sic) a fwriedir i'r merched."ø Sôn am nofelwyr Saesneg y mae 'G' yn yr erthygl ddifrifddwys hon.

Roedd Edna yn nodedig am ei ffydd Gristnogol ddofn a chadarn a amlygwyd ganddi yn ei gweithgarwch yn ei hen gapel Saron am ddeugain mlynedd a mwy.

Ymfalchi%ai'n fawr yn ei swydd: yr oedd cael eistedd yng Nghadair John Morris- Jones a'i olynwyr nodedig yn aruchel fraint iddo.

Yr hyn syn nodedig am y cynhyrchiad hwn yw'r modd y mae'r gynulleidfa yn llygad dyst mor agos i'r hyn sydd yn digwydd drwy ddilyn yr actorion o amgylch yr adeilad ar gwahanol olygfeydd.

Bu lladdfa fawr a buddugoliaeth nodedig.

Disgrifir ef gan Richard Prise fel 'y daearyddwr nodedig Humphrey Llwyd, sydd bellach wedi marw, ond a haeddai gael byw'n hwy ar gyfrif ei eiddgarwch diflino yn nisgyblaethau hanes a mathemateg'.

Fel y mae'n digwydd, dim ond ychydig yn llai nodedig fu 1998/99: ymweliad Cyngor Gweinidogion Ewrop â Chaerdydd, ymddiswyddiad Ron Davies AS o'r cabinet, y gystadleuaeth am arweinyddiaeth ei blaid, penderfyniad y BBC i wneud buddsoddiad enfawr ym maes newyddion a materion cyfoes yng Nghymru mewn ymateb i'r Cynulliad Cenedlaethol newydd, BBC Cymru yn lansio ei wasanaeth digidol cyntaf - BBC CHOICE Wales - y gwasanaeth cyntaf gan BBC Cymru i fod ar gael drwy'r DG.

Mae'r wobr gan Gyngor y Celfyddydau yn mynd i'r llyfr a ddewisir gan banel o feirniaid yn llyfr mwyaf nodedig yn y Gymraeg ac yn y Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn 2000.

Aelodau Evans ydy Alex Philp, llais, Rhys Elis, gitar, Dylan Evans, gitar, Aled Williams, Bas a Dewi Jones, drymiau ac ar Hydref 16 mae'r grwp yn rhyddhau eu Ep cyntaf o'r enw Evans ar label nodedig Sylem o Fetws y Coed.

Gwelodd Coleg Bala-Bangor gyfnod nodedig iawn yn ei hanes yn y blynyddoedd hyn gyda myfyrwyr yn cael hyfforddiant ynddo a oedd maes o law i ddod yn amlwg iawn ym mywyd Cymru.

Natur o bosibl yw'r cemegydd gorau; yn sicr, mae'n tyfu'r crisialau hyfrytaf a mwyaf nodedig.

Pregethu Yr oedd y cyfnod hwn yn nodedig am ei bregethu.

Er inni gael ein creu, yng ngeiriau'r Salmydd, 'ychydig is na'r angylion', er inni gael ein cynysgaeddu â meddwl rhyfeddol a doniau nodedig, pobl ydym o gig a gwaed, llestri llawn craciau, yn dyheu beunydd am angor, am gysur a sicrwydd.

Ers ei gyflwyniad nodedig ym mis Medi 1998 mae BBC Choice Wales wedi ymsefydlun eithriadol.

Yr ydym yn gytun bellach mai yn y dilyniant 'Sonedau y Nos' y ceir ganddo ei gyfraniad mwyaf nodedig.

Mae nifer o ffactorau yn gyfrifol am hyn ond un dylanwad pwysig fu'r llwyddiannau nodedig sy wedi arwain at ddisgwyliadau gwahanol ac uwch gan ddysgwyr wrth iddynt gofrestru ar gyfer dosbarthiadau.

Ond yr oedd un prydydd pur nodedig yn canu yn nyffryn Aman yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a oedd yn un o'r ychydig Gymry a fu byw ar gynnyrch ei awen, sef William Owen (Gwilym Meudwy; Gwilym Glan Llwchwr; Professor Owen).

O ganlyniad y mae'n addas ailgloriannu'r dystiolaeth a rhoi'r cymeriad nodedig hwn yn y fantol unwaith yn rhagor.

Bu 1998/99 yn flwyddyn arall o ddigwyddiadau nodedig - ymddiswyddiad Ron Davies a'r gystadleuaeth ddilynol am arweinyddiaeth ei blaid, ymweliad yr Uwch-gynhadledd â Chymru, lansio BBC CHOICE Wales a'n cynlluniau ein hunain ar gyfer datganoli.

Ers ei gyflwyniad nodedig ym mis Medi 1998 mae BBC Choice Wales wedi ymsefydlu'n eithriadol.

Mae cynnwys y deunydd a osodwyd ar hysbysfwrdd yr eglwys nodedig hon yn llefaru cyfrolau.

Mae'r llyfr bach hwn yn cynnwys nifer o enghreifftiau o'i waith fel cyfieithydd emynau, yn eu plith gyfieithiad nodedig o dda o 'Dyfroedd Bethesda' Thomas William.

Y mwyaf nodedig ohonynt yw Pont yr Ymherawdwr Charles.

Y maent yn cyffwrdd â phob gwedd ar yr athrawiaethau Beiblaidd ond y maent yn nodedig oherwydd y canolbwyntio diflino ar Iesu Grist.

Ond heno, fel Neuadd enwog y Dre', Gorsaf yr Heddlu ar geg New Street ac ambell un o adeilada' nodedig er'ill y Port, 'ei le nid edwyn ddim ohono ef mwy.' Er y gellir dod o hyd i rai o'i weddillion yn nhafarn y Ship hefyd!

Teulu nodedig ac anghyffredin oedd teulu Sulien; roedd ei feibion Rhigyfarch, Arthen, Daniel ac Ieuan yn ysgolheigion o radd uchel.

bu'r ail gynhadledd mor llewyrchus â'r gynhadledd gyntaf a phan ddychwelodd henry richard o ffrainc cynhaliwyd nifer of gyfarfodydd cyhoeddus drwy brydain, a'r rhai mwyaf nodedig ohonynt ym manceinion a birmingham, i ategu a gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed ym mharis.

Roedd y fenter aml-gyfrwng nodedig hon yn coffaur 20fed ganrif fel yi hadlewyrchwyd gan ddigwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'r un ar Abaty Nedd yn casglu at ei gilydd y briwsion gwybodaeth sydd ar gael yma ac acw am y sefydliad nodedig hwnnw.

A mudiad nodedig am ymlyniad ei ddilynwyr wrth Eglwys Loegr a'u serch tuag ati.

Un cymeriad nodedig o linach y Plemings oedd Francis, saer maen a weithiai yn y chwarel.

Ceid enghraifft nodedig ymhlith y Waldensiaid, rhai o hereticiaid y ddeuddegfed ganrif.