Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nodiadau

nodiadau

Nodiadau i'r athro a thaflenni gwaith i'w llungopïo ar gyfer CA2.

amcanion y gweithgarwch, a nodi at blant o ba oedran a gallu y cyfeirir ef nodiadau ar y drefn a ddefnyddiwyd a sylwadau ar anawsterau tebygol wrth ymdrin â'r plant a'u deallusrwydd trefniant a dosbarthiad y cyfarpar sampl o ganlyniadau a gafwyd wedi eu trin yn fathemategol briodol cyflwyniad o luniau, graffiau, sylwadau, etc.

Y nodiadau hyn oedd sail y ddwy gyfrol a gyhoeddodd ar hanes llenyddiaeth...

Os bydd y Cynulliad yn methu yn ei dyletswydd, bydd Cymdeithas yr laith yn ceisio trefnu cynhadledd o'r fath. Nodiadau

Cyfieithiad Saesneg o holl gerddi Dafydd ap Gwilym, gyda nodiadau.

Y mae gennyf domennydd o'r nodiadau hyn, a ysgrifenwyd mewn geiriau talfyredig ac mewn pensil blwm.

Awgrymwyd i mi yn ddiweddar gan amryw o garedigion y LLENOR mai da fuasai cael nodiadau bob chwarter gan y Golygydd ar bynciau'r dydd yng Nghymru ac yn gyffredinol.

Mae sylw pellach ynglyn â'r dyfyniadau ar ddiwedd y nodiadau.

Dylai hyn gynnwys gwneud nodiadau ar, er enghraifft, gwaith dilyn, adolygu, perthynas a gwaith arall, etc.

Yn eu plith yr oedd llyfr nodiadau a cherddi, yn cynnwys y cywydd anorffenedig hwn.

NODIADAU DYN DWAD - 'Ryff-geid' Golwg i fro'r Steddfod

Cwestiynau fel 'Gan bwy, wrth bwy, ac o dan ba amgylchiadau y llefarwyd y geiriau a ganlyn - "Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear?" "Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?" "Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar?" neu - 'Ysgrifennwch nodiadau ar Feibion y Proffwydi, Jehofa Jire, Salome, Cleopas.'

Mae nodiadau ymyl dalen ar y llawysgrifau, fel 'ceisir cymhariaeth well' a 'ceisio cael cymhariaeth bwrpasol yma' yn gwrthbrofi hyn, i raddau.

O fewn y rhaglenni a'r nodiadau i'r athrawon cyflwynir storïau newydd sbon ar y themâu uchod yn ogystal â deialogau/dramodigau bychain i gyd-fynd â'r storïau.

Roedd - - eisoes yn ychwanegu nodiadau yn yr Anghenion fel canllawiau ychwanegol.

Nid oes modd osgoi'r cyntaf, ac i ddod dros yr ail, y mae'n rhaid wrth droed-nodiadau dirif, megis a geir yng ngwaith David Jones, a fydd yn andwyo'r effaith, yn enwedig os mai cerdd ydi hi.

Mae defnyddio'r deunyddiau hyn, sy'n aml yn cynnwys nodiadau cyfarwyddyd ar ddulliau gweithio, wedi arwain at godi safonau%;

Yr wyf wedi cywiro cymaint ag a allwn ohonynt ar y teipysgrif, ac eraill yn y nodiadau sy'n dilyn.

Tynnodd Gruffydd ei Nodiadau cyntaf i ben gan broffwydo y byddai'r mater yn cael sylw llawnach maes o law a chyfeiriodd y darllenydd at erthygl R.

'Roedd ymyl dalennau Beibl Genefa yn llawn o nodiadau esboniadol, Calfinaidd eu diwinyddiaeth a gwrthglerigol eu naws, ac fe fuont yn gryn dramgwydd i'r awdurdodau eglwysig pan geisiwyd ym mlynyddoedd cynnar Elisabeth I sefydlu trefn eglwysig Brotestannaidd y gallai Pabydd ei derbyn heb dreisio gormod ar ei gydwybod.

Nodiadau a chywiriadau.

Dim ond ar y bwrdd y sylwais ar fynyddoedd o lyfrau nodiadau mewn llawysgrifen wedi eu gosod yn drefnus.

Nodiadau defnyddiol ar gyfer tiwtoriad sydd yn dysgu Cymraeg i oedolion.

Dangosodd Mr Steffan Griffith mewn pennod ddiddorol o'i eiddo'n ddiweddar fod gan deulu Waldo Williams, o ochr ei dad gysylltiadau agos â'r ardaloedd rhwng Taf a Chleddau.' Ceisiaf innau ddangos yn yr ychydig nodiadau hyn fod gan y bardd gysylltiadau teuluol â'r Wythi%en Fawr ym Mrynaman yn ogystal.

Nid oedd arno ofn troi ei nodiadau golygyddol yn brotest gyson yn erbyn rhyfel a thrais, crogi a charchar, yn enwedig pan garcherid bechgyn a merched oherwydd eu syniadau gonest.

Llyfr oedd hwn a luniwyd ganddynt trwy gyfuno eu nodiadau eu hynain ac eiddo myfyrwyr eraill o ddarlithiau Saussure.

Nodiadau athrawon ar lyfrau hanesyddol Cyfres Corryn.

Rhyw fras nodiadau a fyddai ganddo, ac wrth ei thraddodi y rhoed i'r ddarlith ei ffurf derfynol.

Mae'r Pecyn Adnoddau yn cynnwys wyth casét o'r 30 rhaglen a ffolder gynhwysfawr o nodiadau gan Linda Wyn, Coleg Menai.

Darllenwch ei ryddiaith, naill ai ei ysgrifau beirniadol neu yn ddiweddarach ei Nodiadau Golygyddol yn Taliesin, a'r hyn a welwch yw eglurder meddwl a mynegiant gŵr gwastad, doeth.

Cai fenthyg nodiadau un neu ddau ohonom fel y gallai Mrs Gruffydd wneuthur copiau ohonynt, a chywiro'n camsyniadau ni lle byddai angen!

Cyffyrddir yn ogystal a strategaethau dysgu gwahanol megis "hunan addysgu cynhaliol," trefnu nodiadau a'u symleiddio ar gyfer plant a phroblemau iaith sydd yn benodol i un pwnc; agweddau cyffredinol a welwyd wrth arsylwi mewn ysgolion sydd yn fwy eang eu hapel ac yn berthnasol i unrhyw athro.

Cyn pen chwarter awr arall o fyfyrio ar y groes o gyswllt gytbwys accenog yn nodiadau sych Wali, roedd Jabas hefyd yn chwyrnu'n braf.

Yr wyf wedi nodi'r rheini hefyd yn y nodiadau sy'n dilyn.

Ond yr oedd o hyd un dewis hanfodol arall i'w wneuthur, a'r wythnos ddiwethaf wrth edrych trwy fy nodiadau, cefais hyd i nodyn a wnaethpwyd gennym mewn cyfarfod arall eto o'r grŵp yng Nghaergrawnt - wrth drafod a ddylai'r Blaid fod yn grŵp gwleidyddol ymwthiol neu'n blaid wleidyddol, ac y mae'r gwahaniaeth yn bwysig dros ben.

JE Caerwyn Williams, yn ei ddull manwl arferol, a sicrhaodd gywirdeb y testun, ac achubodd hefyd ar y cyfle i ychwanegu, o'i wybodaeth hynod eang am lenyddiaeth Cymru ac Ewrop yn y cyfnod canol, doreth o nodiadau tra defnyddiol ar fanylion iaith a chynnwys a fydd yn goleuo'r testun mewn modd amheuthun i bawb a fydd yn ei ddefnyddio.

(Gweler y Nodiadau isod) ii) Os yw'r ddamwain yn fwy difrifol ac os nad oes modd ymdrin â hi yn y gwaith yna fe/ ddylai'r aelod o'r staff fynd ar unwaith i Adran Ddamweiniau yr ysbyty agosaf.

Does dim rhesymeg na thefn i'r nodiadau hyn, dim ond mympwy a phleser.

Llunio nodiadau effeithiol: a.

Hoffwn ei arddull gartrefol, ac aeth i drafferth i ysgrifennu nodiadau ar bapur i mi.

Petai rhywun wedi dod o hyd i'm henw yn llyfryn nodiadau rhyw derfysgwr mi allwn fentro y buasen nhw'n clustfeinio ar fy sgyrsiau ffôn.

Nodiadau: Mae'n amlwg o eiriau'r dau gi o'r Quango Iaith eu bod am ddiogelu eu sefyllfa hwy eu hunain yn unig, ac yn mynd dros ben llestri wrth geisio ddarbwyllo eraill i ymmdiried yn y Bwrdd.

Mae nodiadau yng nghefn y llyfr i gynorthwyo'r darllenydd ddeall cefndir y cerddi a'r awdur ei hun.

Roedd wedi colli ei lyfr nodiadau ac yn anffodus doedd o ddim wedi dysgu'r rhesymau ar ei gof.

Trwy gyf-weld, ar y cyfan, y gwneid y gwaith ymchwil, gan ysgrifennu bras-nodiadau yn ystod y dydd, a'u troi'n adroddiadau ffurfiol yn y diwedydd.

Mae cemegwyr, fel pob gwyddonydd, yn ysgrifennu nodiadau ynghylch eu harbrofion.

Nodiadau

Ysgrifennodd Robin nodiadau ar fy nghyfer ac edrychaf arnynt weithiau pan gofiaf am yr hen amser.

Yn yr un modd,- faint o nodiadau y maent yn eu bwydo i'r dosbarth yn bryd parod a faint y maent yn eu cynnig ar ffurf cynhwysion i'r disgyblion eu hunain eu defnyddio i lunio'u prydau cyn eu treulio'n llawn.

Bum yn meddwl droeon fy hunan am yr un peth, ond ni wneuthum ddim i ddyfod a'r bwriad i ben, gan na thybiwn fod y darllenwyr yn galw am hynny....Erbyn hyn, yr wyf wedi fy mherswadio fod gofyn ymhlith y darllenwyr am nodiadau golygyddol, a'm dyletswydd innau yw ufuddhau i'r alwad.

Cystal i mi ysgrifennu'r nodiadau hyn yn gynnar heddiw.

CANU ANEIRIN, GYDA RHAGYMADRODD A NODIADAU Gol.

Dyma rai nodiadau ar sail sgwrs a gafodd Waldo a minnau ynghylch y cefndir oedd i'r gerdd 'Adnabod'.

Yn y Nodiadau, yn arbennig, y deuwn wyneb yn wyneb a'r dyn, WJ Gruffydd: ei argyhoeddiadau, ei bryderon, ei freuddwydion, ei gas-bethau, ei hoff- bethau hefyd, ei oddefgarwch, ei ddiffyg amynedd, ei droadau barn sydyn a'i safbwyntiau annisgwyl.

Gellid cynnwys nodiadau neu drafodaethau ar:

Gwnaeth Anna nodiadau cyflym yn ei phen ac yn fuan, trwy hynawsedd agored Cathy, roedd yn gwybod cyflymder y cwch, lleoliad popeth o bwys a hyd yn oed pwy fyddai'n arfer criwio i'w thad.

Catalog wedi ei ddarlunio'n llawn, gyda straeon a nodiadau am y casgliad.