Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nodweddiadol

nodweddiadol

Yn hollol nodweddiadol, ni ddaethai ar fy nghyfyl cyn hyn.

Ar y llaw arall, yr oedd y bobl hyn yn ddigon parod i gyhuddo Ferrar o'r un trachwant am diroedd a chyfoeth ag oedd mor nodweddiadol ohonynt hwy eu hunain.

Ond roedd yr iaith a ddefnyddiodd i gyfleu ei sylwadau beirniadol yn nodweddiadol ddi-flewyn-ar-dafod, yn debyg i bawb o'i gyfoedion o'r un dosbarth.

Nid gweld y cymeriad yn nodweddiadol o'r cyfraniad a wnâi, ond gweld yr hyn a sgrifennodd rhywun yn nodweddiadol ohono.

Ceir toriad effeithiol drachefn yn y goferu rhwng yr wythawd a'r chwechawd, ac y mae cynghanedd sain yn llinell gynta'r chechawd, yn nodweddiadol o'r math o dyndra persain a geir mewn llawer o'r sonedau hyn:

Dyma'r amwysedd nodweddiadol Victoraidd a welir yn narluniau rhybuddiol Richard Redgrave neu Augustus Egg ar y naill law a synwyrusrwydd goludog gwaith artistiaid fel William Etty, Edward Poynter, Frederic Leighton a Laurence Almatadema (i nodi dyrnaid yn unig) ar y llaw arall.

mae'r gân Rowlin Mowlin gan Texas Radio Band yn gwbl gyfarwydd - yn gyn gân sesiwn i BBC Radio Cymru maen gwbl nodweddiadol ou harddull unigryw.

Dyma un hanes vn nodweddiadol ohono:

yr hon oedd yn edrych ar y cwbl trwy ffenestr ei pharlwr.' Rhaid cymharu'r dull awdurdodol, diymhongar hwn, sydd yn nodweddiadol o Hiraethog wrth iddo drin digwyddiadau sydd heb berthynas â'r rhai canolog, â'r dull anuniongyrchol a ddefnyddia i drin mater y briodas:

Mae'r gerddoriaeth yn nodweddiadol o arddull y grwp ac yn sicr yn gan i godi'ch calon.

Nid yw hyn, fodd bynnag, yn amharu ar y gân, gan ei bod yn meddu ar felodi gref iawn sydd mor nodweddiadol o ganeuon Maharishi.

Mynd yno wnes i i weld criw o weithwyr yn gorffen codi pentre' Celtaidd - tri thŷ crwn nodweddiadol o'r cyfnod cyn hanes, wedi'u rhoi at ei gilydd gyda dulliau mor debyg â phosib' i ddulliau'r Celtiaid .

Casglodd ysgub frigog wedi ei chynnull yn dwt, cwbl nodweddiadol o'r awdur." DATHLU PENBLWYDD MEWN YSBYTY: Ie, yn naw deg oed, a'i fwynhau.

Er mai prif lyfr John Addington Symonds ydoedd The History of the Italian Renaissance, ac er bod y llyfr hwnnw ar ryw ystyr yn hollol nodweddiadol o nawdegau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac o ddechrau'r ugeinfed, ei lyfr mwyaf poblogaidd ydoedd Wine, Women and Song: Mediaeval Latin Students', llyfr a dynnodd y llen oddi ar gerddi'r Ysgolheigion Crwydrad, ac, fel y cawn weld, yr oedd eraill wrthi'n dadlennu byd cerddi'r Trwbadwriaid.

Mi wn fod hyn yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o lyfrau otograff, ac y gellid gwneud astudiaeth hir o'r cynnwys a gweld oddi wrtho gymeriadau'r rhai a'u llanwodd.

Ar lawer ystyr mae'r rhain yn nodweddiadol o waith yr impresionistiaid - yn ymdrin â thestun cyffredin, yn dibynnu ar ddabiau o liw.

Ond fe enillwyd y wobr gan Horroscope a oedd yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o'r ffilmiau hyn.

Nid yw yn dewis dangos i ni ddim o'r golygfeydd godidog sydd yn nodweddiadol o'r mannau hyn, ond yn hytrach bedwar cwt sinc - sydd, efallai, yn eu ffordd eu hunain yn fwy nodweddiadol.

Chwaraewyd Concerto (Torelli) yn nodweddiadol o raenus gan Roger Jacob.

Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl Arwisgo Tywysog Cymru a'r dathlu a'r protestiadau a oedd yn nodweddiadol o'r digwyddiad, bu cyfres o raglenni diddorol yn dadansoddi sefyllfa'r frenhiniaeth heddiw.

Ceir disgrifiad manwl o amaethyddiaeth Epynt, a chilieni yn arbennig, gan Ronald Davies yn ei lyfr, a dengys fywyd fyddai'n nodweddiadol o ardal amaethyddol yng nghefn gwlad Cymru cyn yr Ail Ryfel Byd.

Teulu Lliwgar Mae lliwiau llachar yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o'r Pincod.

Ar un wedd y mae hon yn rhoi camargraff inni, am ei bod yn llawer mwy personol na chrynswth gwaith y clerwr, ond eto i gyd y mae'n gwbl nodweddiadol o'i waith o ran ei hanfod, am fod tynerwch dynol o fewn y teulu yn wedd ar fywyd a bwysleisir yn arbennig yn ei gerddi mawl, ac am fod ei arddull seml ar ei mwyaf effeithiol yma yn cyfleu argraff o deimlad dwfn a diffuant.

Mae'r disgrifiad yn nodweddiadol o agwedd yr artist at chwareli segur yn gyffredinol.

Mae teitl ei gyfrol, Unigolion, Unigeddau yn darlunio'r mŵd yn deg ac mae'r stori gynta' am yr ymdrech i achub rhywbeth o alanas priodas lle mae cariad wedi marw "Stori Linda%, yn nodweddiadol o fŵd stoicaidd ond tosturiol sawl stori ganddo ef.

Nodweddiadol o Idwal.' )

Rhys yw'r prif gymeriad, yn wynebu'r cyfuniad art`erol o waith ysgol a chariad cynta', ac mae'r ysgol yn llawn o gymeriadau nodweddiadol.

Tri thrac i orffen y casgliad - Dear Blue, cân serch;Wake Me Up, ac Ofn Gofyn syn gyfarwydd iawn i wrandawyr Gang Bangor - cân sydd efallain fwy nodweddiadol o ganeuon Topper.

Ac yn drydydd sut orau y gellid osgoi'r ymchwalu sydd mor nodweddiadol o bleidiau lleiafrifol?

Disgrifiad nodweddiadol ddiymhongar R.

Tref ramantus yw Sorrento, cartref y bardd Eidalaidd enwog, Torquato Tasso, yn llawn o hen dai nodweddiadol o'r dalaith - porth mawr gyda chyntedd y tu mewn, a muriau uchel gyda ffenestri yn y mannau mwyaf annisgwyl.

Mae'r cwpled olaf a ddyfynnwyd yn hynod nodweddiadol o Williams.

Writer yn enghraifft nodweddiadol o arddull ysgafnach Stereophonics.

Yn syml mae Connect dipyn yn drymach na'r trac agoriadol, ac yn fwy nodweddiadol o'r Gwacs.

mae'r brif gân yn gwbl nodweddiadol o gerddoriaeth Melys ond hyd yn oed yn fwy electronig na rhai ou caneuon blaenorol.

You're not having a meeting are you?" Roedd y fath ymddygaid yn hollol nodweddiadol o Trevor,~roedd raid iddo fod â'i drwyn ym musnes pawb a doedd e ddim am i unrhyw gyfarfod fynd yrnlaen heb iddo fe wybod amdano fo.

Oherwydd diffyg ffydd yr Eglwys yn ei grym nodweddiadol, try'r byd ei gefn arni, a cheisio gweithio allan weledigaeth yr Eglwys yn ei nerth ei hun ond methiant fydd hynny hefyd.

O'r wyth soned a restrais uchod nid dyma'r orau na'r bwysicaf o ddigon, ac eto y mae'n bur nodweddiadol ei thechneg.

Wrth gwrs, fe geir y straeon byrion hynny sy'n nodweddiadol o Fihangel Morgan gyda thro yn nghwt y stori.

Mae'r pedair cân yn nodweddiadol o'r grwp, ac o dan dri munud o hyd yn ogystal.

O'r diwedd, wedi'r filfed smôc, fe gododd Jock ei ysgwyddau'n awgrymog, a rhoi pen ar y mater trwy ddweud yn ei Saesneg nodweddiadol,

Fel y gwyr y rhan fwyaf, pethau tebyg i flew yw silia a fflagela, yn nodweddiadol yn symudol gan weithredu i yrru'r organeb drwy'r dwr neu i yrru'r dwr heibio i'r organeb, ac maent ers amser maith wedi denu sylw biolegwyr.

Can ffynci sydd â chytgan bywiog sydd mor nodweddiadol o'r hwyl sy'n cael ei greu gan y grwp.

Croeso cynnes a chyfeillgar mewn ty nodweddiadol yn dyddio o'r ganrif ddiwethaf wedi'i leoli yn y stryd fwyaf traddodiadol yn Y Gaiman, Patagonia.

Fel y mae y pedwar cwt yn nodweddiadol o'u broydd a'r eglwys yn nodweddiadol o 'Wlad Llŷn', y mae'r portreadau hyn o Lydaw hefyd yn nodweddiadol.

O sylwi'n fanylach ar sefyllfa'r Gymraeg mewn ysgolion cynradd gwledig yng Ngheredigion, sy'n nodweddiadol o rannau gwledig eraill o Gymru, gwelir effeithiau'r newidiadau a grybwyllwyd yn glir, a hynnyn sicr yn achos pryder.

Dialog sy'n nodweddiadol o'r ffilm.

Tra'n cydnabod fod gan y gwahanol wledydd eu cyfraniad nodweddiadol eu hunain i ddiwylliant y byd, a bod i bob cenedl ei chenhadaeth arbennig yn y byd, rhaid sylweddoli fod hyn yn gwbl wahanol i'r syniad o etholedigaeth Israel.

YMHLITH YR ANIFEILIAID: Raymond B.Davies yn pori ymhlith cyhoeddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid: Amaethyddiaeth fu diwydiant pwysicaf Cymru erioed ac yn ystod canrifoedd o ffermio'r tir datblygodd ein hamaethwyr nifer o fridiau a ystyrir heddiw yn nodweddiadol Gymreig.

Mae ffurf a lliwiau hynod y blodyn yn nodweddiadol o'r teulu, er bod gwahaniaethau rhwng blodau y gwahanol rywogaethau.

Rhai blynyddoedd yn ôl fe gafodd claf yn yr ysbyty boen a thrwch o bothelli ar ochr chwith ei wddf yn ymestyn i'r fraich, a'r ymddangosiad yn nodweddiadol o'r Eryrod.

Yr oedd cryfder corff a meddwl yn nodweddiadol o Phil, a deuai hyn i'r golwg o bryd i'w gilydd.

Cwbl nodweddiadol o fyrbwylltra Pedr yw ei gais, yn yr Efengyl yn ôl Mathew: Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau, ac iddo, wedi cael caniatâd, ddechrau cerdded ar y tonnau nes iddo edrych ar rym y gwynt yn lle ar ras y Gwaredwr ac o ddechrau suddo, gweiddi: A Arglwydd, achub fi.

Yr oedd ei hystum wrth wadd yn gwbl Siapaneaidd (neu'n nodweddiadol o Korea).

Ceid ynddynt gadarnhad o'r hyn a wyddai'r Dirprwywyr dros Godi Eglwysi a'r Gymdeithas Adeiladu Eglwysi, bod diffygion argyfyngus yr eglwys a'r ysgolion yn nodweddiadol nid yn unig o ardaloedd dinesig, ond yn gyffredin trwy ardaloedd gwledig Lloegr a Chymru.

Mae wedi'i fynegi mewn termau a oedd yn gwbl nodweddiadol o'r dosbarth yna yng nghymdeithas oes Victoria yr oedd ei addysg a'i gefndir wedi ei ragbaratoi i fod ar y brig yn feddyliol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.

Yr oedd hyn yn tueddu i fod yn nodweddiadol o'r hen drefn babyddol pan oedd uchel swyddogion yr Eglwys hefyd yn weinyddwyr yn y llysoedd ac yng ngwasanaeth y Goron.

Ffydd yn y Galon Pwyslais mwyaf nodweddiadol y Diwygiad oedd fod yn rhaid profi'n bersonol waith yr Ysbryd Glân yn y galon.

Fe'i perswadiodd ei hun ei fod wedi mwynhau pryd o fwyd nad oedd, mewn gwirionedd, yn ddim ond pryd nodweddiadol, o unrhyw westy eilradd.

Y parch a delid i'r etiquette moethus - y patrwm ymddygiad - a'r cwrteisi bonheddig, nodweddiadol o'r dosbarth tirol, yw'r brif allwedd i ddeall agwedd meibion Gwedir tuag at eu cymdeithas gartref ac oddi cartref.

Lle byddai ambell i awdur yn gwahardd cwestiynau ar ôl-strwythuraeth, neu un arall efallai'n cau'r drws yn glep ar grefydd, mae'n gwbl nodweddiadol o Wil Sam i fwrw iddi yn syth trwy sôn am beth yn hytrach na haniaeth.

Er i grefydd a chrefft yr India ddylanwadu ar wareiddiad Cambodia, mewn amser tyfodd y gwareiddiad hwn i fod yn arbennig o nodweddiadol o'r genedl ei hun yn Angkor.

yn raddol, wrth gwrs, datblygwyd yr offeryn i fod yn llawer iawn mwy dibynadwy, trwy ddoniau george phelps, i raddau helaeth, ond yn y dyddiau cynnar, hawdd iawn fyddai credu fod agwedd geidwadol y peirianwyr seisnig yn ei gwneud yn anodd iddynt dderbyn yr agwedd nodweddiadol americanaidd, sef fod yna ddatrys ar bob problem.

Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl Arwisgo Tywysog Cymru ar dathlu ar protestiadau a oedd yn nodweddiadol o'r digwyddiad, bu cyfres o raglenni diddorol yn dadansoddi sefyllfar frenhiniaeth heddiw.

Y mae'r albym yn ddatblygiad o'r un flaenorol a mae'n dilyn yr un traddodiad o greu caneuon gafaelgar sydd mor nodweddiadol o gerddoriaeth Maharishi.

Felly, peidiodd yr ymchwilydd gwyddonol â bod yn bechadur ac aethpwyd i fawrygu'r bersonoliaeth sofran a rhydd a allai astudio byd Natur heb gyfeirio at Dduw na dim o'r athrawiaethau nodweddiadol Gristionogol.

Dywedir iddo gael ei addysgu'n breifat ac nid oes son iddo fod mewn prifysgol, ond y mae ehangder ei ddiddordebau'n ei osod yn enghraifft nodweddiadol o ddiwylliant gwyddonol yr ail ganrif ar bymtheg, oblegid yr oedd yn hanesyddol, yn archaeolegydd ac yn ieithegydd a ymddiddorai'n fyw iawn mewn dacareg ac amaethyddiaeth ac a wyddai gryn dipyn am wyddoniaeth ddiweddaraf ei ddydd.

Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .