Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nodweddu

nodweddu

Roedd hygrededd yn nodweddu'r oes ac anwybodaeth ynglŷn â gwir hanes y Cymry a'r traddodiad barddol ar y pryd yn rhoi rhwydd hynt i hynafiaethwyr Cymru, Lloegr ac Ewrob chwedleua a rhamantu derwyddol a chynoesol.

Oni bai am y cyfuniad o ddyfeisgarwch ac ystyfnigrwydd sydd wedi nodweddu ei waith tros y blynyddoedd, byddai'r rhagolygon yn dywyllach nag y maent i Gymru.

Petai gyda ni fodd i edrych i lawr ar Gymru i dynnu "llun pum-munud" o blant dan bump yn yr ysgol dros y wlad o Gaergybi i Gasgwent, fe welem mai amrywiaeth sy'n nodweddu'r ddarpariaeth ar eu cyfer.

Defnyddiaf ynni fel esiampl gan yn anad, dim ynni sy'n cynnal cymdeithasau ac mae eu ffyrdd o'i ddefnyddio yn eu nodweddu.

Ac mae'n braf dweud mai mentrusrwydd sy'n nodweddu'n nofelwyr diweddar yn hytrach na cheidwadaeth.

Y nodwedd arall ddylid ei bwysleisio yw'r amrywiaeth mawr sy'n nodweddu pridd a'i ddosbarthiad yng Nghymru.

Mae priddoedd mawnog yn cael eu nodweddu oherwydd y cyfran uchel o ddefnydd organig.

Hefyd, ceir y drysau gwydr dwbl hynny sy'n nodweddu adeiladau a'r fath.

Y mae'r mwyafrif o economwyr bellach yn derbyn bod yr oediadau sydd ynghlwm wrth ymyriant llywodraethol, ynghyd â'r anghywirdeb sy'n nodweddu rhagolygiaeth economaidd, yn gwneud rheolaeth fanwl o'r economi yn hynod o anodd- onid, yn wir, yn amhosibl.

Yn yr oes faterol sydd ohoni, byddai rhai'n galw'r gonestrwydd hwn yn styfnigrwydd, ond dyw'r cwmni ddim heb ragflaenwyr nodedig yn hyn o beth - roedd agwedd debyg yn nodweddu'r cwmni%au Saesneg llwyddiannus a enwyd ar ddechrau'r erthygl.

Ond 'does dim rheswm i fod o'n dal mor ddrwg o hyd; disgwyl i bethau ddwad yn well mae dyn." "Wir, ddaw o ddim," meddai Ann Ifans, gyda'r ysbryd trychinebol hwnnw sy'n nodweddu pobl lawen.

Mae'r dasg yn nodweddu deuoliaeth eu sefyllfa.

Dywed Raymond Williams fod tuedd wedi bod i ystyried yr is-ffurfiant mewn modd cul, fel rhywbeth unffurf a statig, tra bod syniad Marx ohono'n llawer ehangach: Proses yw'r is-ffurfiant, meddai, nid rhywbeth statig , ac mae'n broses sy'n cael ei nodweddu gan ddeinamig y gwrthdaro sy'n dod o wrthddywediadau y cysylltiadau cynhyrchu, a'r cysylltiadau cymdeithasol sy'n deillio ohonynt.

Cyfnod oedd hwnnw pan oedd ymwybod â'r egwyddorion Cristionogol yn nodweddu mwyafrif llethol y boblogaeth.

Ond yr hyn sy'n nodweddu iaith yw ei thuedd, bob amser, i gynrychioli meddyliau'r sawl sy'n ei harfer yn hytrach nag ail adrodd yr hyn a lefarodd person arall.

A siarad yn fras, y mae tri phatrwm i'w nodi, er bod amrywiaeth yn nodweddu pob un ohonynt.

Ac y mae'r rhaniad yma rhwng dau fath o Gymry wedi nodweddu ein bywyd cenedlaethol trwy'r blynyddoedd.

Yn y cyfryngau darlledu, fel ar bapurau newydd, fe dâl i'r golygyddion fod â pheth o'r elfen amheus neu anghrediniol honno sy'n nodweddu'r newyddiadurwr da.