Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

noeth

noeth

A dyna'r siaced law ddibwrpas, ddiystyr honno, y math a wisgai pobl o'i oed e, mae'n siŵr, er mwyn peidio teimlo'n noeth allan ar y stryd.

Er enghraifft, gwelir llawer o graig noeth yn y golwg, ac y mae'r llethrau i gyd yn reit serth.

Y gwir yw mai disgrifiad noeth ydynt, haniaethol iawn eu gosodiadau hefyd: nid oes un llun diriaethol ar eu cyfyl bron.

O dan yr amgylchiadau, yr unig beth caredig i'w wneud fyddai bod wedi ei gadael hi ar ei phen ei hun i lyfu ei chlwyfau ac nid ceisio esmwythau cydwybod, a dangos i'r byd ein bod ni'n bobl 'neis' yn y bon drwy arllwys ein cydymdeimlad nawddoglyd ar ei phen." "Doedd dim rhaid iddi dderbyn ein croeso..." "Ond roedd y ferch yn dal i'n caru, er ei gwaethaf hi ei hun, ac yn cael ei thynnu fel gwyfyn at fflam noeth.

Er bod angen telesgop mawr i weld y rhan fwyaf o'r galaethau hyn, mae yna un alaeth (heblaw ein galaeth ni) y gallwn ei gweld o Gymru a'r llygad noeth.

Mae'n codi arswyd arnom eto gyda'r llun o ferch fach yn rhedeg yn noeth i lawr llwybr o'i phentref yn Fietnam a'i chroen yn friw gan y napalm yr oedd awyrennau bomio yr Unol Daleithiau wedi eu gollwng ar ei chartref.

Mini bach." Fedrwn i ddim dweud celwydd noeth hyd yn oed wrth Emli Preis.

Canodd y ffôn yn y cyntedd a rhedodd Ifor yn noeth i'w ateb.

I ddarganfod faint o ser y gallwn eu gweld trwy ddeulygadion o'i gymharu a'r nifer a welwn a llygad noeth, gallwn wneud y cyfrifiad canlynol.

O'i flaen, cyn belled ag y gallai weld, ymestynnai anialwch hirfaith, heb fod yno na phren na llwyn nac afon na llyn na diferyn o ddŵr - dim o gwbl ond tywod melyn a chreigiau noeth.

Son yr oedd pen chwaraewraig tenis Cymru am lun a gafodd ei dynnu ohoni hi a chwe chwaraewraig arall o Brydain yn sefyll yn noeth y tu ôl i Iwnion Jac fawr.

Lawrence yn creu cynnwrf drwy ddisgrifio dau ddyn yn ymladd yn noeth yn ei nofel Women in Love.

Erica Rowe yn rhedeg yn fron-noeth yn Twickenham.

Nodwedd amlwg ein gaeaf ni, yw brigau noeth y coed a'r llwyni, fel y dderwen a'r ddraenen.

Sylwch fel y mae'r holl graig noeth a welwch wedi ei llyfnhau a'i gwneud yn grwn fe pe tai wedi cael ei rwbio â phapur tywod.

Mae hynny'n anodd i ni ei gredu heddiw mewn dyddiau pan yw cyplau ifanc nid yn unig yn cael cyfathrach rywiol - neu secs fel y bydda i'n i alw fo - ar ein teledu bob nos ond yn comowtio'n noeth ar rowndabowts hefyd gan beri pob math o dagfeydd traffig.

Arwynebol yw eu sgwrs, y tywydd yw'r prif bwnc, ac mae'r hyn a ddywedant yn ystrydebau noeth.

Williams Parry yn ei soned iddo, gellir ystyried chwechawd clo honno yn ddisgrifiad cyffredinol o'r dyn: Hen arglwydd ansoddeiriau a thwysog iaith, Pa fath wyt ti, neu o ba gymysg dras Pan yw pob dychan a phob can o'th waith Yn llawn o ryfel ac yn llyn o ras, O saint a phariseaid, moelni a moeth Llesmeiriol ymchwydd ac uniondra noeth?

Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.

O faes awyr Belem yng nghar y Weinerts, yna i Ogledd y dref ar hyd ffyrdd di-darmac, drwy resi dirifedi o gabanau unllawr, drwy heidiau o blant mewn trwsusau llac a festiau, a rhywle yn y fan honno, rhwng cūn a chymdogion hanner noeth, tywyll eu croen, y dyn yn y siaced law, DR.

Arweiniodd Marie y ffordd i fyny grisiau culion di garped, a'r lleithdra'n llifo hyd y pared noeth.

Wedi i'r Beirdd ymgynnull wrth y maen, gweiniwyd y cleddyf ganddynt ac eglurodd y 'datgeiniad', sef llywydd y seremoni, Iolo Morganwg, na fyddai'r Beirdd yn arfer cario cleddyf noeth yng ngŵydd neb ac na fyddent yn caniata/ u i neb gario un yn eu gŵydd hwythau ychwaith.

Moethusrwydd noeth ydi bywyd i hwn, yn cael treulio'i amser i gyd yn edrych ar ôl ochr ymarferol y blanhigfa.

Merched bron-noeth oedd y ffasiwn mewn dillad am gyfnod byr.

Tro dy wyneb tuag at warchae Jerwsalem, ac â'th fraich yn noeth proffwyda yn ei herbyn.

Rhaid i'm henaid noeth, newynllyd Gael yn fuan dy fwynhau; Rho dy wisg ddisgleirwen, olau, Cuddia'm noethni hyd y llawr, Fel nad ofnwyf mwy ymddangos Fyth o flaen dy orsedd fawr.

Mae'r ser hynny y gallwn eu gweld a'r llygad noeth yn rhai disglair iawn - llawer mwy disglair na'n Haul ni.

'Yn noeth y daethom i Hartisheik.

Aeth i fyny'r grisiau simsan, noeth, yn bryderus a churodd yn wylaidd ar y drws.

O gamu ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol Nedd ym 1994, mae Gerwyn Williams yn un o gerddi'r dilyniant 'Dolenni' hefyd yn sôn am un o ddelweddau mwyaf dychrynllyd rhyfel Fietnam yn ei gerdd 'Washington'. Mae'n mynd â ni yn ôl at y llun o'r ferch fach Phan Thi Kim Phuc yn ffoi, dan lefain, o gyfeiriad ei phentref, ac yn rhedeg yn noeth, a llosgiadau'r napalm i'w gweld ar ei chroen.

Yn achos rhywun fel efo, genir profiadau nid yn noeth, megis, ond wedi eu hanner gwisgo mewn geiriau, eithr yn achos y rhelyw ohonom genir llawer profiad yn erthyl ac ni chaiff byth gerpyn geiriol yn ddiwyg.

Ac fel yr oeddwn yn cydyfed gydag eraiU mewn un ty tafarn, cynigiodd un o'r cwmpeini sofren i oferddyn a elwid Ifan y Gof, os aethai allan drwy y dref yn noeth; ond nacaodd hwnnw fynd.

Ond gyda'r mewnlifiad priodasau cymysg, trai ar grefydd ac ymyrraeth sefydliadol yn bygwth chwalu'r peuoedd cynhaliol hyn y mae perygl i'r Gymraeg, onid ail sefydlir y peuoedd hyn a'u hymestyn i feysydd newydd, gael ei gadael yn noeth yn nannedd y ddrycin.

Fe gwrddais â'r pothelli â'm bysedd noeth er mwyn dangos eu nodweddion.

Ymhen rhyw ddwy filltir o Abergwesyn daw terfyn ar y coed gleision yr ochr draw i'r afon a daw llechwedd noeth Cein Alltwinau, a'r gwrychyn o graig ar ei war, i'r golwg.