Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nol

nol

Nid yw'r anaf i'w ben-glîn wedi gwella'n iawn ond mae e'n disgwyl bod 'nôl yn y tîm ar gyfer y gêm gynta yn y Cynghrair Un-dydd ddydd Sul - yn erbyn Sir Darbi.

Mae mwy a mwy o bobl yn dod nol at faco rhydd," meddai wrth bwyso owns o faco wedi ei dorri'n ffein.

Dos i nol fy het i, Sam.

Dof y nol at y pwynt yna'n nes ymlaen.

Roedd gan yr hen Lloyd y ddawn ddiamheuol o hoelio sylw'i gynulleidfa gyda dywediadau a delweddau cofiadwy, megis "Mae'r diafol fel y clacwydd, pan fyddwch chi'n meddwl eich bod chi wedi ei goncro, mae e'n troi 'nol ac yn eich brathu chi." Ar un achlysur fe gyhuddodd ei braidd o fod "mor gul a whilen racer".

Rwyn blês iawn i fod nôl yn y garfan, meddai Emyr ar y Post Cyntaf y bore yma.

Fe fydde'n wych i Gymru ac i John Hartson petae e 'nôl yn chwarae yn yr Uwch Adran.

Bydd rhywbeth syn dy ddal di nôl ar hyn o bryd er lles i ti cyn bo hir.

'Dach chi'n mynd ati i chwilio am bethau gwahanol yn ei gerddi o a 'dych chi'n cael rhyw bethau arall bob tro 'dach chi'n mynd 'nôl at ei farddoniaeth o.

Ar gefn ceffyl ai i'r dre yn y gaeaf i nol neges gyda "maletas" wrth ei sgîl gan mae dyna'r unig ffordd bosibl i fynd.

Gyda Concorde fe allem gael brecwast adre, cael coffi ganol bore yn America a dod nol i swper.

Aeth e nôl i'w gornel a daeth e mâs i'r rownd olaf.

Ond cyn pen dim roedd Portiwgal wedi taro nôl gydag ergyd wych gan Luis Figo - y chwaraewr yr oedd Bobby Robson wedi rhybuddio Lloegr y byddain rhaid i Loegr ei ffrwyno.

Ond mae problemau gan Wrecsam oherwydd bod Edwards a Sam ar eu ffordd nôl o Trinidad - a byddan nhw'n flinedig.

Roedd hi'n bryd mynd nol yno nawr.

Mi aeth Twm Dafis yn ol i'r ty i nol ei feic.

Roedd e 'nôl yn y gêm, dim ond dwy ffrâm oedd er ar ôl.

Mae hanes Cymru yn ymestyn nôl i'r 6ed ganrif OC.

Mae tîm Cymru nôl yn y Cwpan Dunhill ar ôl cyfnod hir allan o'r gystadleuaeth.

Trueni iddi ddod i'r stapla nawr, grwgnachodd wrtho'i hun - dim ond pum munud arall a bydda fe wedi mynd ar garlam tuag at lethrau Mynydd Llangatog ac fe byddai hi wedi gorfod aros amdano nes y dewisai ef ddod nol ac erbyn hynny fe fyddai'n rhy ddiweddar i gychwyn nol i Benderin.

'Ar ôl sawl anaf a sawl perfformiad digon cyffredin mae Calzaghe 'nôl ar ei ore a wedi llwyddo i droi'r cloc yn ôl,' meddai'r dyfarnwr Wynford Jones ar y Post Cyntaf y bore yma.

Pan ryddhawyd Word Gets Around gan Stereophonics nôl ym 1997, prin iawn oedd y gefnogaeth a roddwyd iddynt, a hynny gan y Cymry hefyd.

'Ond rwyn gwbod bod e'n moyn dod 'nôl i Gymru rywbryd.

A gwneud hynny yn y fath fodd fel nad oedd gan y Saeson y galon i fynd i nôl eu gwobr am ddod yn bencampwyr y tymor.

Nid fel ei frawd bach dair blynedd nol.'

Ac os gall e ddod nôl bryd hynny ei nod fydd creu argraff mewn pryd i daith y Llewod.

Yr oedd y ddau i fod i ymladd yn Detroit yr wythnos hon ond bu raid i'r Cymro dynnu nôl oherwydd anaf i'w benelin.

O '74 hyd heddiw. Y sêr o'r gorffennol licen i weld yn dod nol yw Sean McGurk, Gina, Madog a Dic Deryn.

'Fe gollodd ei le yn nhîm Cymru y tymor dwetha ond fe ddaeth 'nôl a dangosodd e fod cymeriad cryf gydag e.

Cawsom sgwrs dda - a thra yr aeth Randall i nôl peint i Syd Aaron cefais ddeng munud i sgwrsio gyda'r hen wariwr hwnnw.

Ymhen amser clywsom leisiau Mr a Mrs Edmunds, yna daeth mama i'n hystafell i nol rhywbeth o'r bocs mawr.

“Nôl yn y saithdegau bum yn crwydro'r byd - Fiji, Awstralia, Borneo, Sarawak a Florida ac yn Sarawak bu bron i mi orfod priodi merch o lwyth y Dyaks.

Ffurfiwyd Llwybr Llaethog nôl ym 1986 pan ryddhawyd eu sengl gynta, Dull Di Drais, ar label Recordiau Anrhefn.

Unwaith oedd mam yn sâl, a dad yn mynd i nol y doctor gyda deffyl yn arwain i'w gludo.

Ond fe gymerodd yr ERC drueni dros Castres - maen nhw wedi rhoi pwynt nôl i'r Ffrancwyr ar ôl tynnu dau bwynt oddi arnyn nhw am dorri rheolau Cwpan Heineken drwy gynnwys Norm Berryman pan nad oedd o'n gymwys i chwarae yn y gystadleuaeth.

Clywais Mam yn dweud lawer gwaith fel y byddai Hannah Jones, a oedd yn byw drws nesa', yn gweiddi arni: 'Jane, well i chi fynd i nol yr hogyn bach 'na.

Ac eto, yn y pen draw, math o degan oedd y plas iddi - i'w fwynhau o dro i dro ac yna blino arno - ac wedyn mynd nol i'w chartref Bodwigiad.

Ni wnaeth Horton sylw pellach ond ar ol ysbaid, cododd ei ben a gyrrodd ei geffyl nol a blaen ar hyd yr heol.

Byddai gwireddu'r cynllun yna heb fynd 'nôl ac edrych ar y sylwadau sydd yn y ddogfen yna - a beth yw blaenoriaethau polisiau'r Cynulliad - wedi bod yn ffolineb llwyr.

ac i nôl cofrestrau o'r adran Saesneg.

Roedd hi wedi dweud wrtho am adael llonydd i hwnna heddi - byddai'r bachgen yn ddigon amharod i fynd nol i Benderin fel yr oedd hi!

Mae'n neis bod 'nôl ar y lefel ucha.

Os na fyddan nhw'n siwr fe allan nhw fynd 'nôl at y pwyllgor mawr.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Mae'n ymddangos bod rheolwr Cymru, Mark Hughes, a'i glwb Blackburn Rovers ar eu ffordd 'nôl i'r Uwch Gynghrair.

Trodd y Cyrnol a galwodd ar i un o'i is- gapteiniaid beri i'r ddau ffariar brysuro; yna aeth yn ei ol at yr heol fawr ac ailddechrau marchogaeth 'nol a blaen yn aflonydd.

Fe a'th y peth trwy'n meddwl i y galle fe ddod 'nôl ac ennill 13 - 12.

Er i drefnwyr yr wyl orfod newid ychydig ar drefn y diwrnod wrth i grwpiau dynnu nôl, ni amharodd hynny o gwbl ar uchafbwynt Gwyl Pendrawr Byd.

Pan gerddai hi allan yn awr i nol neges o siop y bwtsiwr neu'r siop fara, byddai distawrwydd sydyn yn taro'r senedd ben-stryd ar gornel Banc y Midland.

Pan ymddangosodd Teflon Monkey ar raglen Iestyn George –Y Sesiwn Hwyr – nôl ym mis Hydref, 'roedd hi'n amlwg bryd hynny fod gan Rhodri Vine dalent aruthrol a bod ei gerddoriaeth yn syml ond eto yn hynod o effeithiol.

Y mae gan Aberdaron ei gwendidau, ond y mae'n hollol naturiol, tra bydda i'n sgwrsio ag un o'r mân dyddynwyr yno, imi ei glywed o'n troi at ei hogen a dweud, 'Buddug, dos i nol yr oen bach 'na'.

A sicrhau'r dwbwl ar ôl curo Abertawe 1 - 0 ar y Cae Râs 'nôl ym mis Hydref.

Y pedair can sydd arni yw: Ben Fy Hun, Everytime You Smile a Nôl Mewn Awr.

Cofiwch wrando ar Gang Bangor, sydd nôl yn y slot arferol bob nos drwyr wythnos.

'Di bod ar ddrygs 'fyd, 'nôl pob sôn.

Ond ma' rhaid ichi ddod nol nawr am dipyn bach at weddill y wyllys, ac fe ges i'r hanes gan y ficer 'i hunan.

Byddan nhw'n teithio i'r Vetch i 'nôl y triphwynt.

'Bydd yn neis i weld Waqar 'nôl yma eto - mae e'n gricedwr arbennig o dda,' meddai Robert Croft ar y Post Cyntaf y bore yma.

'Roedd perfformiad Rhys Williams, cefnwr Caerdydd, yn galonogol dros ben - mae ei hyder e 'nôl yn sicr.

Ond maen debygol iawn y gall e fod nôl yng Nghymru y tymor nesaf.

Ond yn yr ail hanner doedden nhw ddim yn edrych fel petaen nhw'n mynd i ddod nôl mewn i'r gêm a fe aethon ni ychydig bach yn ddi-ofal.

Golyga hyn fod y cwmni, a sefydlwyd gan Dafydd Iwan, Huw Jones a Brian Morgan Edwards nôl yn 1969, yn barod i droedio i'r Mileniwm newydd gyda chryn dipyn o hyder ac yn gyfrifol am hyd yn oed fwy o grwpiau ac artistiaid.

'Roedd hi'n ymdrech dda gan Abertawe, deg chwaraewr yn dod nôl ddwywaith.

Roedd y ffigurau yn anhygoel ac y mae cyfle nawr i Croft ennill ei le nôl yn nhîm Lloegr, nid yn unig yn y gemau un-dydd ond hefyd yn y gemau prawf.

Daeth Paul Brayson â Chaerdydd 'nôl i'r gêm ddwywaith - peniad a chic o'r smotyn.

Daeth yn rhwyg a brwydr rhwng y Cymry Parchus a oedd am i bobl eistedd nôl am sbel a 'rhoi cyfle' i'r Quango Iaith, a Chymdeithas yr Iaith a fynnodd fod y Quango Iaith yn sefyll yn ffordd cyfiawnder a bod ei aelodau'n cydweithio â'r Torïaid trwy wasanaethu ar eu Quangos gwleidyddol.

'Di bod ar ddrygs 'fyd, 'nôl pob sôn. 'Na pam ma' hi'n byw 'da'r Madog 'na nawr, sbo.