Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

null

null

Fel y nododd Gruffydd wrth adolygu'r ddrama yn Llenor yr haf hwnnw, ffurf newydd ydoedd na chai'r clod a haeddai er ei bod yn 'ymgais onest i dorri llwybr newydd.' Llwybr ydoedd a wyrai oddi ar gonfensiwn drama'r Gegin Gymreig yn null Beddau'r Proffwydi, o ran plot a hefyd o ran syniadaeth gynhaliol.

Mae'n hysbys iawn fod Goronwy Owen yn ysgrifennu yn null Horas mewn nifer o'i gerddi, megis 'Cywydd y Gwahodd' neu 'Awdl y Gofuned', tra oedd Edward Richard, Ystradmeurig, yn dilyn Fyrsil a Theocritus yn ei fugeilgerddi.

Ni fedrodd yr Esgob Morgan ymwrthod â'r demtasiwn o adael i rai geiriau derfynu yn null iaith lafar ei gyfnod, dull sathredig a thafodieithol.

Yn gyffredinol, gellir dweud yn null y Rhodd Mam mai dau fath o newyddion sydd: digwyddiadau a ddisgwylir, a stori%au annisgwyl na ellir darparu ar eu cyfer ymlaen llaw.

Pryddest gartrefol, werinol hynod o ddarllenadwy yn null Cynan yn y Gymraeg a John Masefield yn Saesneg.

Dichon, fodd bynnag, fod Gwilym Meudwy ymhlith yr olaf, onid yn wir yr olaf o brydyddion y bedwaredd ganrif ar bymtheg a fu'n crwydro o fan i fan, yn null yr hen faledwyr, yn gwerthu cynnyrch ei awen.

Yn lle bod tro confensiynol (yn null arferol Mihangel Morgan) i'w gael yn unig yn y stori, fe geir hefyd, yn y chwedl anacronistig, Sionyn â'r Ddraig, yr awdur, ie, yr awdur, yn ddigon annisgwyl, yn siarad â'r darllenydd.

Peidiwch â chamsynied, chwaith; nid gornest yn null y Barbariaid oedd hi, eithr ymryson ffyrnig gyda hyrddio, rycio a thaclo tanbaid.

Credai Kate Roberts iddi roi gormod o bwyslais ar y diweddglo yn ei stori%au cynnar ac mae'n cyfaddef iddi roi'r 'gorau i dreio bod yn glyfar' a chwilio am ddiwedd trawiadol yn null O'Henry a'i debyg ar ôl darllen ysgrif Saunders Lewis yn Y Faner.

Y mae'r blaid eisiau gweld chwyldro yn null llywodraethu Iwerddon.

Wrth lanhau'r Deml yr oedd yn cyflawni gweithred sumbolaidd yn null yr hen broffwydi i ddwyn i'r amlwg y wedd fydlydanol ar obaith Israel, yr awydd am weld teml ei ffydd yn yr unig wir Dduw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.

Yn null gorau'r cwangos, mae wedi cymryd misoedd i osod patrwm o weithwyr yn eu lle.

Man cyfarfod tri chwm yw Funtauna mewn gwirionedd ac y mae gwastadedd cudd Val Funtauna ei hun yn ymestyn am filltir dda tua'r gorllewin, yn null yr Hengwm ym mlaen Cwm Cynllwyd, braidd.

Etifeddodd y ddau fab y cafodd hi eu magu i oedran gwŷr, Dafydd a Daniel, rannau gwahanol o'i chynhysgaeth, y naill yn datblygu'n adroddwr storiau yn null yr hen gyfarwyddiaid, a'r llall yn datblygu'n nofelydd, ac y mae'n rhyfedd, er nad efalli'n gwbl annisgwl, ei bod hi'n fath o ddolen gyswllt rhwng yr anterliwd neu'r ddrama Gymraeg, ym mherson Twm o'r Nant, a'r nofel Gymraeg ym mherson ei mab Daniel, oblegid y mae gwreiddiau mwy nag un elfen yn y nofel i'w holrhain yn ôl i'r ddrama.

O'r cychwyn dangosodd Gruffydd ei blaid; bedyddiodd syniadau Lewis a Bebb yn gynnyrch 'mudiad' yn null Action Francaise: