Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nwyd

nwyd

Ni phwysleisir twymyn y nwyd.

Ond nid rheolwr ei weithredoedd a chrewr ei ffawd ei hun oedd dyn yn awr, eithr creadur nwyd, creawdwr cyffro.

Mae'n wir, fel y dywedodd Dafydd Glyn Jones eto, fod holl 'elfennau confensiynol rhamant yng ngolygfa'r dianc i briodi, ond nid yw hynny, wrth gwrs, yn gyfystyr a dweud mai dehongliad arferol y cyfnod rhamantaidd o'r nwyd ei hun sydd yma.

Ond pwysicach na hynny oll, roedd ganddi hi, fel yntau, ei nwydau; merch ei thad oedd, a thuedd ei nwyd hi oedd dianc rhag disgyblaeth.

Llawer rhy ifanc oeddit i ddeall nwyd y Teulu ac yntau'n methu gweld hynny.

Ymateb y bardd yw fod Iesu'n ddyn o flaen popeth ac iddo yntau brofi 'angerdd ieuanc nwyd':