Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nwydau

nwydau

Gormes ei nwydau yw hynny.

Mae'r awyrgylch sydd yma'n nes at ysgafalwch canu Dafydd ap Gwilym nac at nwydau tymhestlog Pantycelyn.

mai'r mynach da oedd yr unig ellyll, yr hwn oedd wedi teimlo rywbeth mwy na serch ysbrydol am ferch brydweddol meistr y tŷ; ac wedi chwareu y gamp uffernol hon i foddloni ei nwydau anllad.

Cydgyfranogai'r ddau o'r un nwydau dynol, bid sicr, ond yma eto eu trin a wnai'r naill ūr a'i drin ganddynt a gâi'r llall.

'Roedd y beirniaid wedi cael digon ar barodrwydd y beirdd newydd i drin pynciau fel y nwydau rhywiol, yn enwedig ar ôl helynt 'Atgof' Prosser Rhys, a dyna un rheswm pam y gwrthodwyd cadeirio Gwenallt.

Ond pwysicach na hynny oll, roedd ganddi hi, fel yntau, ei nwydau; merch ei thad oedd, a thuedd ei nwyd hi oedd dianc rhag disgyblaeth.

Rwy'n crefu arnat i ffrwyno dy nwydau.

Roedd hi'n ddau o'r gloch y bore ar y ddau yn mynd i'w caban a chan nad oedd y gwelyau cyfyng yn addas iawn ar gyfer gweithgareddau carwriaethol, rhoes Merêd y syniad o geisio ailgynnau nwydau Dilys o'r neilltu am y tro.

Newyddion gwell ydi fod gwyddoniaeth fodern wedi darganfod nad oedd yr hen AStecs a Sbaenwyr yna ddim yn siarad cymaint â hynny o lol wrth ddweud mai siocled ydi'r petrol sy'n mynd i roi nwydau rhywun mewn ofyrdreif.

Datganai'r ci ei nwydau hir yn druenus ar gefn ambell leuad.

Y tu mewn i'w gylla'i hun daeth i deimlo nwydau'r gwir heliwr yn graddol gorddi.