Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nyddiau

nyddiau

Ac yn nyddiau cymwynasgarwch ac ewyllys da, 'doedd dim eisiau iddi fod.

Dianc cyn dyfod yr oerni yw hanes yr adar a fu yma yn nythu ac yn magu yn nyddiau hir, llawn pryfed, yr haf.

Roedd llechen ar wal yr ysbyty yn cofnodi'r hyn a ddigwyddai ar y safle yn nyddiau'r tlodi mawr.

Er mor gyffredin yw cynnwys rhai o'r tudalennau, ni ddioddefodd erioed oddi wrth y ffasiynau o gyfraniadau otograff a welid o bryd i'w gilydd fel y byddai gennym ni yn nyddiau ysgol.

Wrth feddwl ei bod yn adeg y Pasg unwaith eto, mi gofiais am fy nyddiau yn Ysgol Llangoedmor.

Nid syn felly eu bod yn ganolfannau nawdd o nod, yn enwedig yn nyddiau abadau llengar.

I egluro'n fwy manwl y defnydd yma o radio-isotopau gadewch i ni ystyriad y cemegyn a ddefnyddiwyd fwyaf yn nyddiau cynnar meddygaeth niwclear - ffurf ymbelydrol o iodin (I), sef radio-iodin.

Yn nyddiau'r Ymerodraeth Brydeinig gallai Cymro a oedd a digon o fynd ynddo gychwyn bywyd newydd ymhle bynnag yr oedd y faner Brydeinig yn cyhwfan, nid fel ffoadur nac fel ymfudwr, ond fel dinesydd o'r iawn ryw.

Wedi'r holl dreialon, y morloi, llamyddion, rhwydi, creyr glas, a glas y dorlan yn nyddiau mebyd potsiars a gwenyn Cymag - mae dy rawd wedi ei redeg, a rhaid i eraill fynd dros grych pwll y bont eleni.

Y rhain oedd y mwg a ddihangodd o ffwrnais y diafol yn nyddiau hygoelus ei phlentyndod.

Y mae llawer o'r bobl hynny y meddylir amdanynt fel Cymry - glowyr y de er enghraifft - yn ddisgynyddion i Saeson a ddaeth yma i weithio yn nyddiau'r chwyldro diwydiannol.

Yn wir, 'roeddwn yn y coleg diwinyddol yn Llandaf cyn magu digon o ddiddordeb i fynd i wrando ar Fritz Kreisler a oedd yn ymweld a Chaerdydd ar y pryd; ac nid tan fy nyddiau yn gurad yn Y Waun, Sir Ddinbych, y dechreuais wrando o ddifrif ar symffoniau a phedwarawdau Beethoven, Mozart a Schubert.

Yn nyddiau'r Gwlff unwaith eto, fel y gwelodd y gohebydd Cymraeg Guto Harri, roedd adroddiadau'n aml yn ymwneud â hynt a helynt y newyddiadurwyr ac yn codi o'u cynnwrf nhw ynglŷn â'u rhan yn y digwyddiadau.

Yn nyddiau Haile Selassie, roedd yr Unol Daleithiau'n cefnogi'r ymerawdwr, tra bod y Rwsiaid yn cefnogi'r gwrthryfelwyr.

Dwin meddwl bod nhw fel Tottenham yn nyddiau Ardiles - sgoriwch chi ddwy a fe sgoriwn ni dair.

Yn nyddiau ei fri yr oedd yn abaty cefnog a dim ond Abaty Margam yn gyfoethocach nag ef.

Ac y mae'r cyfleusterau wedi gwella a chynhyddun aruthrol ers fy nyddiau i.

Gan amlaf, mae'r de nyddiau cemegol yn cael eu gwerthu yn ôl yr enw a roddir arnynt gan y cwmni%oedd masnachol, felly gwell i chwi egluro beth yn union sydd yn eich meddwl cyn prynu unrhyw ddeunydd cemegol ag iddo enw masnachol.

Clywais am gyfraniad cofiadwy Ieuan Evans, Rhydymain yn portreadu'n effeithiol mewn Rali yn nyddiau cynnar y mudiad pan yr oedd y Rali yn unig faes gweithgareddau o'r natur yma.

Gwir fod ei feiddgarwch ymadrodd yn nyddiau Caerdydd wedi peri i Laud ei ddisgrifio fel "bold, ignorant young fellow% ond, wrth gwrs, ni wyddai Cradoc ddim am y feirniadaeth ac ni newidiodd ei ddull.

Yn fy nyddiau cynnar ychydig iawn a wyddwn amdano - dim, am wn, i ar wahân ei fod yn labrwr ac yn englynwr.

Yn nyddiau bwledi'r Dwyrain, mae rhywbeth yn eironig mewn canu am 'dawel ddinas Bethlehem' Daw i'm meddwl y cyfnod yn ein bro pan oedd fisitors yn fodau pur eithriadol.

Yn nyddiau bore'r byd pan oedd aroglau da ar wair yn cynaeafu, a thail yn gynnyrch porthiant o'r das, yr oedd ambell i ddiwrnod yn rhoi lle o anrhydedd i'r ferfa yng nghynllun gweinyddol economi ffarmio tyddynnod Eryri.

Mae'n debyg y byddai 'na rai o drigolion Gwlad yr Ia a fyddai'n eu cyfri eu hunain yn Ddaniaid yn nyddiau'r oruchafiaeth Ddanaidd.

'Does dim mynyddoedd ffordd hyn.' 'O,' meddai'r plant i gyd, 'ry'n ni bob amser yn cael marc ychwanegol os rhown ni fynydd i mewn.' Faint sy'n cofio mwyach amdano yn nyddiau'r Coleg?

Dyna oedd fy nymuniad yn ystod fy nyddiau cyntaf yn y Cae Gwyn, fy nghartref newydd.

Gan nad wyf yn dal iawn ac yn rhy araf i chwarae ymysg y cefnwyr, bu+m yn chwarae fel bachwr er fy nyddiau ysgol.

Dyffryn cul yw Cwm Garw, a thai gl**owyr wedi'u codi yn rhesi ar hyd bob ochor; yn wir, yr unig le fflat yw'r ffordd fawr sy'n arwain at bentref Blaengarw ym mhen ucha'r cwm, y rheilffordd a'r afon a oedd, yn nyddiau fy mhlentyndod, yn ddu, ddu o lwch y glo.

Fy nyddiau cynnar yn y Chwarel Rydw i'n cofio dweud wrth fy athrawes:

Gwendid o fewn pob menter wirfoddol yw y gall y diddordeb bylu ar ol y brwdfrydedd cyntaf, a chlywid y wireb honh yn aml yn nyddiau sefydlu'rpapurau bro cyntaf.

Ond yn ddiau coron y canu i fynachlog Nedd yw'r awdl a gyfansoddodd Lewys Morgannwg iddi yn ei ieuenctid ar y pedwar mesur ar hugain - yr oedd hyn yn nyddiau Lleision Tomas, yr abad olaf.

Hyd yn oed yn nyddiau cynnar radio a theledu Cymraeg, gweinidogion yn gwneud gwaith gohebu yn eu hamser sbâr oedd J.