Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nyled

nyled

'Yng nghapel Bethesda yn y Wyddgrug ges i'r cyfle cynta', a mae'n rhaid i mi gyfadde bod fy nyled i i'r gweinidog, Eirian Davies, yn enfawr.

Byddaf cyn hir yn ysgnfennu rhywbeth ar Islwyn ac wrth gwrs cydnabyddaf fy nyled i chwi am y wybodaeth.

Fel yr wyf wedi disgrifio mewn pennod flaenorol, yr oedd Miss Hughes wedi bod yn hynod garedig ataf, hyd yn oed pan oeddwn yn fachgen drwg direidus, ac yr oedd fy nyled iddi yn fawr.

Wrth gwrs, ac yn naturiol, yr oedd rhai Cymry a hoffai gredu nad oedd Dafydd nemor yn nyled neb, ac yr oedd eraill yn barotach i gredu ei fod yn ddyfnach ei ddyled i'w ragflaenwyr nag i neb estron.

Cyfaddefaf fy nyled i'r pysgotwr/naturiaethwr enwog - mae fy helfeydd wedi cynyddu ers i mi astudio ei lyfr a'i addasu i'r afonydd lle y pysgotaf am sewin.