Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

obeithiol

obeithiol

Ond mae'r aelodau'n parhau'n obeithiol y bydd canllawiau ar gael ar gyfer rhai o adrannau'r Goron cyn diwedd y flwyddyn gynta'.

Yn yr un ffordd ffyddiog, obeithiol, yr edrychodd Elfed ar le'r Gymraeg a'r Saesneg yng Nghymru.

Efallai bod llywodraethau hefyd yn rhy obeithiol bod unigolion a chwmni%au a oedd yn ddigon esgeulus ym maes crefydd, rywsut yn mynd i fod yn barod eu cymwynasau seciwlar.

'Fydd petha'n well 'leni, gei di weld.' Cysurodd Marian ei gŵr yn obeithiol.

Mae straeon synhwyrus a chelfydd harri Pritchard Jones, Ar y Cyrion, y mwyaf cyfoethog ac artistig o'r cyfan, er yn fwy tawel a gobeithiol - crefyddol-obeithiol, mae'n bosib - yn eu hymateb i'r "ddiwethafiaeth" hyn na'r gweddill.

Nid oedd pethau'n edrych yn obeithiol o bell ffordd, yn enwedig wrth i lyngeswyr, a oedd yn barod i fyw yn ôl yn y dyddiau cyn dyfodiad yr awyren, anfon dwy long ryfel fawr gyda'u miloedd o forwyr i gael eu chwythu allan o'r dŵr rywle ym mhendraw'r byd.

Mae'r cwmni'n obeithiol iawn y bydd y fersiwn nesaf yn cynnwys cefnogaeth i'r iaith Gymraeg.

Blêr a gobeithiol oedd hi wedyn ond mi ddangosodd Earnshaw frwdfrydedd, dyfalbarhad a dewrder i erlid pas obeithiol.

Wrth i Mona adael Siop Gwilim gyda llond ei chol o fwcedi, ceir arwydd ffordd yn dynodi stryd unffordd ar lun saeth yn pwyntio'n obeithiol tuag i fyny tu cefn iddi.

Yr ydym yn hynod obeithiol wrth edrych ymlaen at y dyfydol gyda tho ifanc braf iawn yn gweithio'n galed i newid delwedd draddodiadol cymdeithasau Cymreig yr Unol Daleithiau o fod yn glybiau y "Blue Hairs" yn llawn hen bobl sydd heb weld y Gymru gyfoes ac sydd ddim eisiau ei gweld.

Mae Nerys Fullerlove, sydd wedi cwblhau ymchwil ar Rover, yn gweld fod cynnig Mr Towers a chonsortiwm Phoenix yn mynd i fod yn obeithiol am ddau reswm.

Roedd mor dalog obeithiol wrth wynebu'r dyfodol ac mor ddigyfrif o beryglon y presennol ag y gellid dymuno iddi fod.

Ni theimlwn yn obeithiol y bydd y cynllun hwn yn arwyddo unrhyw gynnydd mawr yn yr adnoddau ar gyfer plant o fewn Cymorth i Fenywod yng Nghymru, ond croesawn unrhyw gam newydd sy'n cydnabod anghenion plant yn benodol.

Sugnodd i'w gyfansoddiad yr olygfa wrth syllu ar y clogwyni llwydwyn y tu ol iddo, a rhythu'n obeithiol tua Ffrainc.

Mae Abertawe yn obeithiol y bydd y canlyniad o'u plaid nhw.

Mae Pontypridd yn dal yn obeithiol o gael chwarae yn Ewrop y flwyddyn nesaf.

Gwasgodd ei thrwyn yn obeithiol yn erbyn y gwydr mewn ymgais i weld y tu ôl i'r gegin, ond yn ofer.

'Lle?' gofynnodd Owain yn ddagreuol, ond yn obeithiol.

Ni allaf ond teimlo'n obeithiol ar ôl clywed fod Bart Simpson wedi ei ddewis yn bedwerydd eicon mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif.

'Mi gymerith dipyn o amser i chi ddod o hyd i'r holl bethe 'na,' meddai Delwyn yn obeithiol.

Roedd hyn yn arwydd da ond wedi'r holl anawsterau ni theimlai Rhian yn or-obeithiol.

Aelod Blaenllaw o'r Blaid (yn obeithiol): Beth fuasech chi'n ddeud, Doctor, ydi diod genedlaethol Baconia?