Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oblygiadau

oblygiadau

Ymysg yr hyfforddiant allanol cafwyd cyrsiau ar ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol, gwerthuso, cynllunio gofal cymdeithasol, codi arian, cadw llyfrau ac ar oblygiadau'r Ddeddf Plant.

Yn hytrach, cwmpasai holl oblygiadau perchtyaeth yn yr union ffordd y bu i lys y brenin daenu ei warchodaeth dros holl ddeiliaid y deyrnas ac amddiffyn eu buddiannau gorau, sef sicrhau heddwch a threfn a fyddai'n hybu cynnydd a golud gwlad ac yn clymu'r deiliaid hynny'n fwy ffyddlon i'r frenhiniaeth.

Cydnabyddwn oblygiadau'r ffaith fod y Gymraeg, i bob pwrpas, wedi cael ei halltudio o fywyd swyddogol Cymru tan yn ddiweddar iawn.

Roedd i'r newid oblygiadau pwysig o ran trefniadaeth yr ysgolion.

Beth oedd oblygiadau'r 'Llythyr' o safbwynt beirniadaeth lenyddol?

Gallai hwn bara awr neu ddwy, er mwyn rhoi amser digonol i'r gynulleidfa ystyried amryfal oblygiadau'r ddeialog gynnil a myfyrio trostynt.

Dysgu Gwahaniaethol: - Oblygiadau ieithyddol.

Mae i hyn oblygiadau ar ddatblygu economaidd, a cheir dadl gref dros fuddsoddi mewnol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, am ei fod yn dileu rhwystrau ffisegol pellter a all atal buddsoddi.

Un o oblygiadau'r ddeddf hon oedd ordeinio trwy gyfraith mai eglwys ddwyieithog, o leiaf yn ei gwasanaethau cyhoeddus, fyddai'r Eglwys yng Nghymru o hynny allan.

Mae i ddatblygiadau Technoleg Gwybodaeth oblygiadau pwysig o ran cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith Gymraeg.

Bu TH P-W byw drwy'r cyfnod hwn ac fe wyddai'n dda am waith yr arloeswyr uchod a'i oblygiadau mewn cosmoleg.

Mae oblygiadau cyhoeddus a chymdeithasol i ddefnyddio iaith ac i beidio â'i defnyddio.

Mae'n ein pwnio i weld ein bod yn llunwyr hanes, ac y dylem fod yn ymwybodol o oblygiadau'n dewisiadau ni yn y presennol.

Mae i ddefnydd cerrig mâl at greu ffyrdd oblygiadau ar ddefnydd ynni ac ar warchod natur a'r tirwedd.

Fodd bynnag, mae i lawer ohonynt oblygiadau difrifol ar staff ac ar adnoddau.

Y mae'r Gweithgor Ymchwil wedi manylu ym mhob categori ar y projectau y dylid rhoi'r brif flaenoriaeth iddynt yn y tymor byr, (gan gydnabod fod oblygiadau tymor byr a hir ynghlwm mewn rhai ohonynt).

Golygai 'gwladwriaeth', yn ei hanfod, holl oblygiadau dinasyddiaeth dda mewn undod, gwasanaeth a gallu.

CYFLWYNWYD adroddiad llafar y Prif Weithredwr ar ddau gynllun arall, sef Oblygiadau Gofal yn y Gymuned (Tai Eryri) ac Arolwg Hyfforddiant Staff (Prifysgol Lerpwl).

(c) Bod y Trysorydd yn cyflwyno adroddiad i'r pwyllgor perthnasol ar oblygiadau'r penderfyniad i ohirio ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru ar gyllid y Cyngor.

Lledaenu datblygiad dwyieithog plentyn yn sirol ac yn genedlaethol ac oblygiadau polisiau gwleidyddion, addysgwyr a gweinyddwyr addysg i hynny.

Bu Ffeil, y rhaglen newyddion i bobl ifanc, o gymorth wrth feithrin dealltwriaeth ddyfnach o oblygiadau datganoli.

Wel mae 'na oblygiadau wrth gwrs...

Mae gan nifer o'r camau a nodwyd oblygiadau ariannol iddynt, neu maent yn gofyn am ddarparu adnoddau ychwanegol neu am wneud defnydd gwahanol neu fwy effeithiol o'r hyn sydd ar gael.

Mae prblem gynhenid ynghlwm wrth hyn fodd bynnag, sef bod i welliannau ffyrdd mawr oblygiadau amgylcheddol sylweddol sydd yn debygol yn rhan fwyaf o achosion o fod yn annerbyniol yn y Parc Cenedlaethol.

Byddai'n dda gan y Pwyllgor gael cyfle i gyfarfod â'r Gweinidog Gwladol, gyntaf posibl, i drafod oblygiadau'r sylwadau isod.

Ond a ydynt gymaint allan o gyffyrddiad â bywyd pobl gyffredin fel nad ydynt yn sylweddoli cyn lleied ohonom sy'n gallu mynegi barn oleuedig ar ei gynnwys a'i oblygiadau?

Y mae arnynt ôl yr egni, yr hwyl, a'r diffyg gofal am yr oblygiadau, a ddaw o gydgyfansoddi gan rai oedd yn rhannu egwyddorion a brwdfrydedd dros eu lledaenu.

Roedd Gofal yn y Gymuned yn amlwg ymhlith pryderon y sector hon a hyn eto'n ddibynnol ar oblygiadau'r ad-drefnu fel uchod.

Eto, y mae'n werth oedi uwchben geiriau Saunders Lewis, oblegid y mae oblygiadau pellach i'r gwrthgyferbyniad a wnaeth rhwng Williams a'r beirdd traddodiadol.

Y Cwricwlwm Cenedlaethol - y sylw i iaith sydd ymhlyg yn y dogfennau pynciol, ac oblygiadau hynny i'r athrawon pwnc.

dro'n ôl, mi fu+m i'n sôn am grio a holl oblygiadau'r ymarferiad tamp, anghynnes hwnnw sydd, ond inni dderbyn barn yn arbenigwyr, yn llesol i gorff a meddwl.

Y mae i'r newid hwn, sef y gostyngiad sylweddol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd hyn, oblygiadau pellgyrhaeddol sy'n mynnu ein hymateb os ydym o ddifrif ynglŷn â gwarchod buddiannau'r Gymraeg.

Oblygiadau hyn yw y bydd adnoddau refeniw y Swyddfa Gymreig yn cael ei dargedu ar y cyllidebau hyn.

Er hynny, y mae'n gwbl addas fod y llyfr yn gorffen gyda bwrw golwg ar oblygiadau'r digwyddiadau syfrdanol yn nwyrain Ewrob i'n bywyd ni yng Nghymru.