Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ochor

ochor

Ond er bod y briodas yr ochor arall i Fôr Iwerydd, doedd pobol Y Mwmbwls ddim am gael eu anghofio chwaith ac mi fuon nhw hefyd yn dathlu priodas un o'u merched enwaoca.

Yn Llanrug roeddwn yn byw ym Mryn Tirion wrth ochor ffarm Minffordd.

Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, yn trefnu i gyfarfod y ddwy ochor ac yn gobeithio y gall llu rhyngwladol gadw golwg ar y sefyllfa.

Mae ongl yr eglwys ychydig yn wahanol yn yr un ffordd - cornel dywyll y tu ôl i'r eglwysi yn goleuo at yr ochor arall a gwyrdd llachar y gwellt o flaen y ddwy.

Ac mi fyddai'n siwr o gyrraedd bob tro o ochor i ochor a'i holwyn yn llac.

Clywais rywun yn dweud unwaith fod llethrau'r cwm lle saif Pontycymer mor serth nes bod modd i drigolion y naill ochor ysgwyd llaw â phreswylwyr y tai ar yr ochor arall.

Ugain milltir ymhellach dyma aros mewn caffi ar ochor y ffordd - caffi llawn pryfed oedd hwn, yn ôl arfer y wlad honno.

Allwn ni wrth reddf ddim gadael i ysgolion mewn ardaloedd tlawd a difreintiedig 'gardota' ar ochor priffyrdd addysg.

Dreif on.' 'Ella ma' trio rhoi ar ddallt i ti roedd hi ma' boddi 'nath y Captan.' 'Nid boddi 'nath o.' 'Dyna ddeudodd Timothy Edwards pan ddaeth o yma hefo'r stori - syrthio dros ochor y llong, medda fo, pan oedd o'n homward bownd o'r gwledydd pell 'na, a boddi yn y dyfnfor.'

'Rşan y plismon plant ichdi,' ysgyrnygodd Nel yn sefyll a'i thraed un bob ochor i ben PC Llong a lledr ei sgidiau sodlau uchel yn cochi'i glustiau, 'tydi Vatilan heb ladd neb yn naddo?'

Ac ar 'sgwydda Sioned y bydd ochor weinyddol y sioe o hyn ymlaen p'run bynnag.' Cymerodd Sioned lymaid bychan o ddiod.

Fe dreulies i lawer o'm amser yn ymarfer ar y traeth bach oedd yr ochor arall i'r hewl i stad Glan-yr-ystrad, ac wrth gwrs, roedd un o'm ffrindie gore, Wyndham Morgan, a'i wraig Millie, yn byw ar yr un stad--ynte yn chware erbyn hyn i'r tîm ifanc lleol.

Hoffwn i chi ddod gyda mi ar ochor y mynydd rhyw filltir oddi yma.

O fewn eiliade i ddechre'r ail hanner, bylchodd Roy Bergiers drwy amddiffyn Montreal, a hanner can llath o gae o'i flaen, a finne'n rhedeg nerth 'y nhraed wrth ei ochor yn barod i dderbyn pas pe bai angen.

'Mae yna rywun arbennig yn chwarae wrth ei ochor e, hefyd.

Ifan Parry, Eil O Man, dau o'i hogiau mewn ffrae, ac un yn dweud wrth y llall 'y mwnci diawl' aros meddai Ifan Parry 'os mwnci yw dy frawd, mwnci wyt titha ac wn i ddim o ble daeth y diawlyn os na ddaeth o ochor dy fam.

Dyffryn cul yw Cwm Garw, a thai gl**owyr wedi'u codi yn rhesi ar hyd bob ochor; yn wir, yr unig le fflat yw'r ffordd fawr sy'n arwain at bentref Blaengarw ym mhen ucha'r cwm, y rheilffordd a'r afon a oedd, yn nyddiau fy mhlentyndod, yn ddu, ddu o lwch y glo.

'Roedd ochor mor neis iddo fe a fe gredodd sawl un y gallen nhw achub mantes arno fe oherwydd hynny.

Ein tŷ ni, wedyn, yn dŷ cerrig, a dau dŷ llai yn pwyso arno o'r ochor.

Os bydd eisio mwy na hynny, mi fydda i yno wrth d'ochor di.

Roedd Y Ddraig Goch i'w gweld yn chwifio ochor yn ochor â baner America y tu allan i'r gwesty cyn y briodas a hynny i gynrychioli gwledydd genedigol y ddau.

Peidiwch a thaflu carag i mewn i'r twll neu cewch eich taflyd ochor arall.

Wedi hen wyntyllu'r mater penderfynwyd mynd i fyny ochrau Mynydd Elgon, sydd ag un ochor iddo yn Kenya a'r llall yn Uganda.