Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oddef

oddef

Mae stori am un o'r pethau ifainc hyn yn actio yn yr un cynhyrchiad a Charles Williams nad oedd yn enwog am oddef ymhonwyr yn dawel ac a oedd wrth ei fodd yn rhoi sbocsen yn eu holwyn.

Ni fedrai Enlli oddef rhagor.

Ni allai oddef gogor-droi mewn ansicrwydd.

Er ei fod yn briod ac yn dad i blant, dim ond rhyw unwaith y mis yr âi adre; roedd yn amhoblogaidd ymysg y dynion eraill oherwydd ei falchder, a hoffent ddweud mewn smaldod na fedrai oddef gadael ei ddefaid.

Ac roedd ei ddirmyg yn anos ei oddef am ei bod hi'n gwybod nad rhyddhad a deimlodd - ond siom!

Yr oedd yn ŵr manwl, fel y dywedais, ac ni allai oddef harum scarum o broffeswr; ond gan nad beth a fyddai colledion a diffygion dyn, os credai Abel ei fod yn onest, cydymdeimlai'n ddwfn ag ef.

Ac y mae hynny'n beth anodd ei oddef yn union oherwydd ein bod mor agos at y cyfnod pan oedd yr eglwysi'n allu mawr yn y wlad.

Ni allai'r method gwyddonol oddef unrhyw docio ar ei therfynau.

Wrth wrando ar y llu o atgofion a oedd gan Mrs Parry 'roedd hi'n anodd meddwl sut y gallwn ni yn Rhos oddef gweld clo ar ddrysau'r Stiwt, a bodloni ar weld canolfan gerddorol yn chwalu, a theatr fendigedig yn mynd a'i ben iddo - 'Dim ond y gorau sy'n ddigon da???'

Ei oddef a wnaeth y Cymry.

Roeddynt yn barod i oddef cerydd am fod yn hwyr gan eu rhieni pe caent rywfaint o oleuni ar y dirgelwch.

Gwelwyd sawl achos yn y blynyddoedd diwethaf lle'r oedd pobl wedi lladd fel ymateb i gamdriniaeth annioddefol neu am na allent oddef yn hwy gweld rhywun annwyl iawn mewn ing dychrynllyd.