Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oddiwrth

oddiwrth

Oddiwrth y meirw cododd ef, Ac esgyn wnaeth i nef y nef, Er achub rhai mor wael â ni, A'n codi i'r uchelder fry.

Fe ddysgais i lawer o betha' oddiwrth Angharad...

A gaf i apelio am newyddion oddiwrth gymdeithasau ac unigolion; dyna'r unig ffordd i wneud papur bro diddorol, waeth heb a grwgnach os nad yw pawb yn gwneud ei ran.

Cyfeiriwyd at y drefn yn y Pwyllgor Cynllunio lle adroddwyd bod sylwadau'r Cyngor cymuned yn cael sylw ym mhob achos ac os nad ydynt wedi ei derbyn, rhoddir caniatad yn ddarostyngedig i sylwadau derbyniol oddiwrth y Cyngor cymuned.

Pwrpas hyn yw i'r mudiadau ddysgu oddiwrth ei gilydd, cyfnewid gwybodaeth a gweld a oes cyfle iddynt weithio ar y cyd.

AH Ond fe ddylai fod yna 'feed back' oddiwrth y canolfannau â'r gweinyddwyr ar lwyddiant cynhyrchiad.

Ond ar ôl pwysau oddiwrth y Cyngor Iechyd Cymunedol, mae'r Ymddiriedolaeth Ambiwlans newydd wedi cadarnhau yr wythnos yma bydd yr arian i wneud y gwaith ar gael.