Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oedodd

oedodd

Oedodd Mr Henrickse am eiliad cyn ateb.

Oedodd Priodor Beddgelert a chrafu'n ffyrnig dan ei geseiliau, cyn crychu'i drwyn a chrach boeri.

Oedodd am funud cyn ei agor, ond erbyn hyn aeth ei bryder yn drech nag ef.

Oedodd Manon, ond cyn iddi fedru dweud rhagor, fe dorrodd ar ei thraws.

Wnân nhw fawr ddim ohonyn eu hunain.' Oedodd Morris.

Y diwrnod o'r blaen oedodd dros y gair swsian yn rhywbeth yr oeddwn yn ei ddarllen.

Oedodd Heledd.

Yn ddisymwth oedodd ei law a throi at y ferch a safai'n gwylio'r gwaith.

Oedodd gyda'i llaw ar y bwlyn ac edrych i fyny'r grisiau.

Winston Churchill oedd cocyn hitio pawb wedi i streic y Cambrian ddarfod: 'Oedodd yn rhy hir cyn danfon y milwyr i fewn', meddai perchnogion y pyllau glo; 'buasai'n well iddo ddefnyddio'r fyddin ar bob adeg, yn hytrach na'r heddlu', honnodd ASau Torlaidd a Rhyddfrydwyr asgell-dde.

Oedodd yr Indiad cyn ateb, yna dywedodd.

.' Oedodd y capten a syllu i'r môr a'i dduwch: 'Dyna un o'r petha cynta ddeudodd o wrtha i pan fuo ni'n yfed rhyw noson .

Oedodd y Cyrnol Horton am ysbaid gan edrych draw i gyfeiriad Aberhonddu.

Serch hynny, roedd hi'n nosi'n braf ac oedodd pawb y tu allan ar ol i'r marchlud orffen ysgythru hetiau-dewin pigog y Silvretta yn ddyfnach eto i'w cefndir o ros golau.

Wrth gerdded heibio i un tŷ fe oedodd Jean am sbel.

Oedodd Nantlais ei daith am ddiwrnod er mwyn bod yn yr angladd.

Oedodd pawb ar gwr y wîg gan sbecian rhwng y dail a'r brwgaij ond doedd dim golwg o'r un enaid byw yn unman.

Aeth yn ei flaen yn ddidaro nes dod at garn fach o gerrig llwydion ac yna oedodd yn wyliadwrus a llygadrythu ar rywun a eisteddai fel delw yno.

Oedodd Jabas yn y cyntedd a stagio trwy'r dorau gwydr.

Oedodd am eiliad neu ddwy i roi'r pwyslais dyledus i'w hateb.

Oedodd y ddwy am ennyd ar y gair 'caneri' a gloywodd eu llygaid.

Pan ddaeth at y cyhuddion ynglŷn â glanhau caets y caneri, oedodd y wrach yn hwy nag oedd angen dros y gair caneri, a dyma Mini'n codi'i phen i edrych ar ei chwaer.

Oedodd Ffredi am guriad, a da o beth oedd iddo wneud felly, oherwydd yr eiliad honno tywalltwyd cawod o fudreddi o'r oriel uwchben yn syth o'i flaen.