Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oedran

oedran

amcanion y gweithgarwch, a nodi at blant o ba oedran a gallu y cyfeirir ef nodiadau ar y drefn a ddefnyddiwyd a sylwadau ar anawsterau tebygol wrth ymdrin â'r plant a'u deallusrwydd trefniant a dosbarthiad y cyfarpar sampl o ganlyniadau a gafwyd wedi eu trin yn fathemategol briodol cyflwyniad o luniau, graffiau, sylwadau, etc.

Dylent hefyd asesu ar wahân a yw'r safonau hyn yn cyd-fynd ag oedran a gallu'r disgyblion.

Arferai Mr Roberts weithio fel coitsmon mewn plasty ond erbyn y cyfnod hwn roedd mewn gwth o oedran ac yn gaeth i'r tŷ; a chofiaf Mrs Roberts yn egluro i mi fel yr arferai hi fynd i'r Belle Vue bob nos i geisio peint o gwrw i'w gŵr efo'i swper.

Y mae tueddiad i ni anghofio mai grŵp bychan o blith trwch y gymdeithas yw aelodau'r mudiadau hyn a bod y rhelyw o'r Cymry Cymraeg o gyffelyb oedran yn cymdeithasu mewn cylchoedd gwahanol iawn nad ydynt o'r braidd yn dod i gysylltiad â'r diwylliant Cymraeg o gwbl yn eu cylchoedd hamdden.

Mae'r Ddeddf yn diffinio anghenion addysgol arbennig fel anawsterau ac anableddau dysgu sy'n llawer mwy na'r rhai a brofir gan y mwyafrif o ddisgyblion o'r un oedran.

Yn sicr roedd amrywiaeth o bobl o wahanol oedran yno eleni syn profi apêl yr wyl - gyda'r teuluoedd yn mwynhau gweithgareddaur dydd ar bobl ifanc yn ei rocio hi ar ffarm Morfa Mawr gyda'r nos.

Os oedd pob nod yn gyfres o dasgau cyfathrebu ymarferol, yna byddai pob un yn cyfateb i gyrhaeddiad yn hytrach nag i oedran neu allu.

Mae'n bwysig nodi hefyd bod i bob grwp oedran ganran uchel iawn o ddarllenwyr, e.e.

Onid oedd pawb wedi colli rhywun annwyl erbyn cyrraedd ei oedran ef?

Mae acw wydd, o oedran ansicr, wedi dwad acw o'r Fferam - Huw Huws wedi cael ei daro'n sydyn gan ffit o gariad brawdol, ac fel rhoddwr y wledd mae o'n un o'r gwahoddedigion.

Does dim safonau gwisg, 'does dim rhaid siarad Cymraeg, 'does dim rheol oedran, dim agenda wleidyddol gudd, ac felly dim problemau.

Unwaith yn rhagor mae'r patrwm uchod yn adlewyrchu patrwm y sampl o ran rhaniad oedran.

Bydd Addysg BBC Cymru yn cynnig: cyfleoedd dysgu am oes i bawb yn ogystal â thargedu cynulleidfaoedd allweddol ac anghenion arbennig.rhaglenni ysgolion yng Nghymru - yn ogystal â'r chwe awr ar BBC 2, ar hyn o bryd BBC Cymru yw'r unig ddarparwr rhaglenni addysg Cymraeg ar S4C, gan gynnig tua 30 awr y flwyddyn ynghyd â thua 70 awr y flwyddyn yn y Gymraeg a Saesneg ar Radio Cymru.rhaglenni dychmygus ac ysgogol ynghyd ag adnoddau o'r safon uchaf.ehangu'r ddarpariaeth i gynulleidfaoedd craidd yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd i gynnwys pob oedran.wynebu'r her gymdeithasol a'r her economaidd yng Nhgymru'r dyfodol.ystod estynedig o wasanaethau i gynulleidfa ehangach trwy'r Coleg Digidol gan ffurfio partneriaeth â S4C, cyrff addysgol a hyfforddi ynghyd â diwydiant.

Nid oes categoreiddio na didoli taclus ym maes anghenion arbennig ar gyfer un ystod oedran, un pwnc nac ar gyfer un math o angen.

'Roedd ôl blinder y dydd ar wyneb y Cripil ac er bod hwnnw ddwywaith ei oedran, cododd Elystan y corff hanner diffrwyth a'i fagu yn ei arffed fel magu plentyn.

ysgrifennu ar gyfer cyrff proffesiynol; iv ymestyn ar yr ysgrifennu ar gyfer plant o wahanol alluoedd, oedran a gallu dwyieithog.

Peth ffwrdd-a-hi yw pethynas plant ysgol at ei gilydd, er y gall fod yn boenus o angerddol ar brydiau, a pheth i'w daflu heibio wedi dod i oedran gŵr - neu wraig!

O ystyried mai penodol yw cynnwys Llafar Gwlad, mae'n ymddangos fod y cylchgrawn hwn yn apelio'n eithaf cyfartal ar draws yr holl ystodau oedran - camp yn wir !

Hwn oedd y gŵr hynaf yn y dref, bellach yn grwm ac yn gloff gan ei oedran ond roedd pawb yn ei barchu o hyd.

Yno mae'r ddwy fynwent hefyd, un yn hen a'r llall yn newydd yn ôl oedran beddrodau.

Lewis y glynn i dat ai kant.' Mae pum mlwydd yn oedran amwys, wedi gadael babandod ac eto heb ddechrau datblygu'n oedolyn cyfrifol (ystyrid mai saith oedd yr oed pan fyddai plentyn yn dechrau meddwl ac ymddwyn fel oedolyn).

Bydd digon o adloniant ar gyfer pob oedran yn ystod y noson, gyda llu o artistiaid yn ymuno a'r gynulleidfa yng Nghaernarfon, gan gynnwys Y

Diddordebau/ gweithgareddau'r sampl Dyma brif ddiddordebau'r sampl yn eu trefn : O edrych ar y tabl uchod, gwelir fod y pedwar diddordeb cyntaf yn weddol gyfartal o ran canrannau o fewn y grwpiau oedran a nodir.

Nod BBC Cymru yw defnyddio ei rôl fel addysgwr i annog cymdeithas sy'n annog dysgu ym mhob oedran.

Credwn hefyd bod y rhaniad oedran uchod yn adlewyrchiad teg o'r Cymry Cymraeg yng Nghymru heddiw, ac felly rydym yn hyderus o ddilysrwydd y sampl o ran rhyw ac oedran.

Nôd BBC Cymru yw defnyddio ei rôl fel addysgwr i annog cymdeithas sy'n annog dysgu ymhob oedran.

Buont yn fyw i oedran teg, wedi magu tylwyth o blant, a diolch am y briodas hapus yna.

Roedd y posibiliadau o gael hyd i waith yn dylanwadu'n drwm ar batrwm traddodiadol oedran plant yn aros yn yr ysgol.

Ychydig o flynyddoedd ynghynt roedd newyn dieflig wedi achosi marwolaeth miloedd o Wyddelod, a'r tlodi a'r newyn yma a yrrodd eu cydwladwyr - merched, plant a dynion o bob oedran ar draws moroedd geirwon i geisio byd gwell.

Dewch at ddirwest, dewch bob oedran, dewch i weithio yn gytun.

Rhan o'r gamp oedd rhoi rhannau i oedran eang o blant, a hynny wrth addasu nofel yr oedd John Owen wedi ennill gyda hi yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ddwy flynedd yn ôl.

Dylid ystyried sut y cynllunnir gwaith; cydbwysedd y dulliau addysgu a threfniadaeth y dosbarth; ansawdd cyfraniadau'r athro; cyflymder a phriodoldeb y gwaith ar gyfer oedran a gallu'r disgyblion; y cynnydd a wneir tuag at ddarllen cyson ac ysgrifennu estynedig; darpariaeth ar gyfer drama, addysg y cyfryngau a gwybodaeth am iaith; defnyddio technoleg gwybodaeth a'r llyfrgell.

Yn groes i'r disgwyl efallai, nid oedd fawr o wahaniaeth yn y patrwm darllen cylchgronau Cymraeg rhwng gwahanol grwpiau oedran.

Gwelwn fod patrwm darllenwyr a phrynwyr Barn fwy neu lai yn dilyn patrwm rhaniad oedran y sampl.

Tarian Gwilym Humphreys i'r oedran iau, Tarian Evie a Heulwen Jones i'r oedran canol, a Tharian Twynog Davies i'r oedran hŷn, a chalondid calon yw gweld rhywle rhwng trigain a phedwarugain o'r aelodau yn cyfranogi yn y cystadlaethau hyn, y naill flwyddyn ar ôl y llall.

Mae'n bosibl hefyd bod y tabl hwn yn adlweyrchiad o beth yw oedran y rhai hynny sy'n bwrw ati i ddysgu'r iaith.

Etifeddodd y ddau fab y cafodd hi eu magu i oedran gwŷr, Dafydd a Daniel, rannau gwahanol o'i chynhysgaeth, y naill yn datblygu'n adroddwr storiau yn null yr hen gyfarwyddiaid, a'r llall yn datblygu'n nofelydd, ac y mae'n rhyfedd, er nad efalli'n gwbl annisgwl, ei bod hi'n fath o ddolen gyswllt rhwng yr anterliwd neu'r ddrama Gymraeg, ym mherson Twm o'r Nant, a'r nofel Gymraeg ym mherson ei mab Daniel, oblegid y mae gwreiddiau mwy nag un elfen yn y nofel i'w holrhain yn ôl i'r ddrama.

Mae proffil oedran Prentis yn wahanol i'r gweddill, oherwydd ei fod wedi'i seilio ar y rheini sy'n dysgu Cymraeg.

Mae'r amrywiaeth angen i'w gael ymhob cyfnod addysgol ac ymhob oedran.

Roedd mewn oedran teg, bryd hynny; yn hen ŵr gwargam, gweddol dal, ac yn gwisgo capan bychan du - tebyg i'r rhai a welir gan Iddewon.

Mi gawsom i gyd hefyd brawf ffitrwydd, a'n dosbarthu o ran oedran.

ehangu'r ddarpariaeth i gynulleidfaoedd craidd yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd i gynnwys pob oedran.

Mae gwledydd eraill sydd yn cymryd normaleiddio eu hiaith o ddifrif bellach yn gweld twf yn y niferoedd sy'n medru'r iaith ar draws y sbectrwm oedran er gwaetha'r pwysau cynyddol oddi wrth ieithoedd dominyddol y byd.

Yr oedd angladd i mi yn yr oedran hwnnw, tua phum mlwydd oed, yn beth i'w ofni.

Fel bod y problemau arbennig sydd yn wynebu ieuenctid heddiw yn cael eu datrys ac fel bod mynegiant mwy positif ac adeiladol o'u dyheadau, eu hofnau a'u hansicrwydd yn cael ei ddarparu, braf fyddai meddwl y gallasai pob Cyngor Bwrdeistref a Dosbarth yng Nghymru benodi Swyddog ieuenctid i fod yn gyfrifol am weithgareddau'r grŵp oedran hwn.

Dan fwngial awgrymodd rhai gwyr oedd a gwragedd ifanc y dylid ei ysbaddu, ond roedd hynny'n rhy beryglus i un yn ei oedran ef ac ni allent fforddio ei golli Chwerthin am ben yr awgrym a wnaeth hynafgwyr y llwyth Y gwir oedd nad oedd yr un o'r gwragedd ifanc y daeth Hadad yn agos atynt yn ddeniadol iawn yn ei farn ef, a byddai'n rhaid iddynt hwy dalu â'u bywyd pe baent yn dangos ffafriaeth tuag ato.

Ceir cadarnhad pellach o'r patrwm yma wrth ddadansoddi canrannau darllenwyr Cristion fesul grwpiau oedran unigol: Sylwer yma fod proffil darllenwyr Dan Haul yn gogwyddo tuag at oed iau.

Nid oes ffigurau ar gael i roi darlun manwl o fframwaith oedran y stoc dai.

Bydd yr 8 rhaglen 15 munud yn cynnwys 4-6 o sefyllfaoedd perthnasol i oedran a diddordeb y disgyblion.