Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oerfel

oerfel

Mam yn ceisio dianc o galedi ac oerfel Trefeca, o'r llafur a'r ddisgyblaeth ddiderfyn, gan adael un bach yn crio yn ymyl y lan a'r llall yn farw yn ei chôl.

Bu raid i dri o aelodau tîm Libanus gael triniaeth am oerfel ar ôl eu gêm yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerloyw.

Er i'r teimlad yma o fod allan yn yr oerfel fod yn gyffredin, bu cryn gefnogaeth i athrawon meithrin o du argyhoeddiad ymgynghorwyr ac athrawon ymgynghorol yr Awdurdodau Addysg Lleol.

Ymddengys y medrai'r halen wella dyn hefyd, oherwydd credai fy nhad yn gryf iawn yn yr halen Epsom, ac fe gymerai Iwyaid ohono cyn gynted ag y teimlai'r oerfel yn disgyn arno.

Cawsom ein cinio ar yr ochr draw, cyn i'r haul ddiflannu tu cefn i Lliwedd ac i'r oerfel ddechrau gwasgu.

Gwir y gair, roedd pawb yn perthyn i bawb, ond ches i ddim munud o drafferth, chwarae teg John Jones, Bron Aber, wedyn, y bugail, a phencampwr y treialon cŵn defaid, ynte'n dweud - 'Pobl y mynydd ydyn ni' roedd hynny'n berffaith wir, ond doedd dim o oerfel y mynydd yn perthyn iddyn nhw chwaith - cynhesrwydd ges i ar bob llaw.

Byddai canolfan felly'n fwy lleol, ac efallai y gellid bod wedi cadw'r ysgol honno'n agored yn nannedd yr oerfel.

Bob tro y'i gwelaf yn y llyfr Emynau 'rwy'n cofio fy nghyfaill a finnau yn ei ganu, ganol nos, yn yr oerfel, o flaen rhyw dy neu fferm yn y wlad.

Dwi'n wlyb at fy nghroen ac mae'r carpiau bratiog yma sgynnai'n llac amdanai, yn da i ddim yn erbyn yr oerfel sy'n gafael ym mêr fy esgyrn, waeth gen i pa mor hudol bynnag ydyn nhw, ac mae hi'n mynd yn hwyr.

Roedd y gaeaf yn agosÐu, a bwriad Saddam oedd gyrru'r Kurdiaid i'r mynyddoedd unwaith eto; os na fyddai'r gynnau yn eu lladd, bydden nhw'n siwr o farw yn yr oerfel.

Pan ddechreuodd Seasons roedd Twi yn dioddef yr oerfel ar glaw ar strydoedd Caerdydd; erbyn y diwedd cynigiwyd cartref parhaol iddo gan wrandäwr hael.