Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oeri

oeri

Dewch, mae'n oeri fan hyn, ac mae'n bryd swper beth bynnag.

Dringodd yn flinedig i fyny'r stepiau gan gludo siwrnai o ddwr berwedig, wedi oeri, i'w ganlyn.

Os oedd hi'n ddydd gŵyl arnom a'r haul yn tywynnu ar bob anturiaeth, yn sydyn - chwim cyrhaeddai Talfan fel cwmwl yn taflu'i gysgod i oeri'n brwdfrydedd ac i dywyllu'n sbri.

Cofiai hefyd am ddefaid ac žyn yn gorwedd i farw tan berthi'r meysydd a'r pryfed sydd yn ymbesgi ar lygredigaeth y cnawd yn ymgasglu tan y gwlân cyn i'r corff oeri.

Ac, wrth gwrs, os gadewch i wy wedi ei ferwi oeri nid yw'n troi'n ôl yn hylif.

Mae'r hin wedi oeri'n arw a'r ddaear wedi rhewi'n gorn.

Petai'r haul yn sydyn yn ffrwydro, buasai'n planed ni yn dywyll fel y fagddu wyth munud yn ddiweddarach, a buan iawn y byddai'r tir a'r mor yn oeri.

Mae'n wynebu croesffordd yn ei fywyd, ei gydwybod yn dechrau ei boeni ynglŷn â digonedd ei deulu, ond yn bwysicach fyth mae wedi syrffedu ar y syniad o fyw fel gwr bonheddig, ac mae ei gariad at Lisabeth yn prysur oeri.

Mi fydd hi'n ffresio cyn bo hir," proffwyda gwraig leol gan ddefnyddio'r gair Cymraeg lleol am oeri - ond mae'n anodd credu hynny mewn gwres sy'n lladdfa i'r aelodau o'r côr sy'n gwisgo ponchos.

O feddwl, onid yw'r gwaed yn oeri?

Hen westy oedd wedi'i baratoi ar ein cyfer ni, a doedd dim system oeri yn agos i'r lle.

Heno, wel, mae hi am oeri gryn dipyn dros y rhan fwyaf o'r wlad, yn enwedig yn y fan yne dros Fae Ceredigion.

Fel arfer pan fyddwch yn cynhesu solid mae'n troi yn hylif, a bydd yr hylif yn troi yn ôl yn solid wrth ei oeri.

'Mae wedi oeri yma, beth bynnag,' meddai.

'Di colli 'nghysgu rydw i.' 'Wel ewch â'r hwch ato fo lle bod hi'n oeri.