Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oernadodd

oernadodd

Toc oernadodd y cŵn, a deallwyd bod llwynog wedi ei godi.

Digwyddodd pan oernadodd y cŵn fod ffos lydan a lleidiog i'w chroesi, ac ebe Ernest wrth Harri, oblegid hwy oedd y ddau flaenaf: `Yrŵan amdani, Harri, rhaid i chi gymryd y lêd; neidiwch cyn belled ag y medrwch, achos y mae'r ffos yn llydan.' Plannodd Harri ei ysbardunau yn ei geffyl bywiog, a neidiodd ddwylath pellach nag oedd eisiau iddo, a chwympodd i'r llawr gan daflu Harri i'r ffos.