Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofal

ofal

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf daeth rheidrwydd i uno rhai gofalaethau, ac erbyn hyn aeth y nifer i lawr i bump yn yr Henaduriaeth, gydag un ofalaeth gyd-enwadol o dan ofal y Parchedig WJ Edwards, Llanuwchllyn.

Rhyw "Cymer ofal - a chadw draw% wrth gwn eraill.

Fel y dywedodd Golygydd Y Cymro mewn cyswllt arall, "Yr eliffant a'r morfil yn unig o holl greaduriaid Duw sydd i'w cadw, fe ymddengys." Yr oedd y dwr llwyd yn fy mhiser yn dechrau gloywi tipyn erbyn hyn; dechreuwn sylweddoli nad diben coleg diwinyddol oedd wynebu problemau trydanol yr oes, ond rowndio'r traddodiad fel llechgi, "heb ofal am y defaid"; un o ddyfeisiadau'r Ffydd i ffoi rhag ffaith, mewn gair.

'Cymer di ofal o hwnna,' meddai Mr Williams gan droi a rhoi cip ar Dilwyn yn y cefn.

Mi gymerais i ofal o Deilwen.

Treuliwyd dau fore yn yr ystafell gyfrifiaduron dan ofal Mr Osian hughes.

Cafodd ofal tyner gan ei chwaer Edith a chymorth gan ei chwaer Peggy.

Diolchwyd i Gangen Rhiwlas am wneud paned o de, bydd y te dan ofal Cangen Rhosgadfan y tro nesaf.

Nes i mi, oedd yn dod o gwm diwydiannol yn y de sylweddoli fod tymor wyn bach yn galw am ofal a bugeilio ymroddedig, ac wedi'r wyna, oedden, roedden nhw nôl yn eu seddau.

Rhoddodd ofal y llywio i Gwil a chau'r injan fel nad oedd ond prin droi drosodd.

'Cymrwch chi ofal yn y fan honno.

'Cymer ofal' meddai'i ewyrth, 'cymer ofal nad ei di ddim yr un ffordd â nhw!'

Estynnodd Seimon dennyn Cli%o i Rhys a chymerodd Mrs Huws ofal o'r bygi.

plentyn ag arafwch darllen sydd yn derbyn cymorth penodol, dros dro; plentyn eithriadol galluog sydd dan ofal y gwasanaethau cymdeithasol oherwydd camdriniaeth;plentyn sydd ag anhawsterau dysgu oherwydd problemau ymddygiad.

Fel yn yr ysgol rad yn ôl Ieuan Glan Geirionydd, y tebyg yw mai 'Cerddi Homer a Virgil geinber' a bynciai Morgan ym mhorth plasty Gwedir dan ofal y caplan, neu o leiaf gerddi Virgil, gan ei bod yn bur sicr mai ar ramadeg a llenyddiaeth Ladin y byddai prif bwyslais yr addysg a geid yno - er ei bod yn debygol fod Saesneg ac egwyddorion y grefydd newydd Anglicanaidd yn cael eu dysgu hefyd.

cynnal (hynny yw, offer technolegol megis cadair olwyn, neu ofal personol megis helpwr) fe allwch ennill annibyniaeth.

Bu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Ebenezer dan ofal y Parch O.

Gwyddai na allai Dad redeg ar ei ôl, ddim â'r bygi yn ei ofal a'r pecyn sglods dan ei fraich.

Ar adeg newyn fe orchmynnodd Eliseus i'w was baratoi llond crochan o gawl i'r proffwydi oedd yn ei ofal.

Casglwyd cannoedd o bunnau, digon i gadw Sarah Owen a'i chydanffodusion uwchlaw angen, ond torrodd y banc yr ymddiriedwyd y gronfa i'w ofal.

Pan sefydlwyd y gwersyll dair blynedd yn ôl, y bwriad oedd ei drosglwyddo i ofal y bobl leol, ond mae'r argyfwng eleni wedi newid y sefyllfa.

Dydi pethau eraill y mae rhywun yn eu darllen yn y papurau ddim yn awgrymu rhyw ofal mawr och pobol gan y sefydliad hwn.

Roedd y noson dan ofal Mrs Ann Roberts.

Syniwn os arhoswn gyda Miss Hughes y byddai holl ofal y fasnach yn disgyn arnaf, oblegid nad oedd Jones ond mater o fixture defnyddiol.

'Os ydych chi'n cymryd cymaint o ofal ac o amser gyda phawb a chyda fi 'dych chi ddim yn medru gwasanaethu llawer o gwsmeriaid mewn diwrnod,' meddai, a hynny'n hollol wir - mor wir fel y sylwasai'r goruchwyliwr ar hynny a phenderfynu gwahodd Hector i chwilio am waith gyda rhywun arall.

Does gan neb ar staff y Gymdeithas ofal penodol am y tîm.

ii cynnal gwaith ysgolion unigol, ...rhoi ôl ofal...

cymerwch ofal, " meddai fe.

Rhagor o ddatganoli wrth i fasnach a diwydiant gael eu trosglwyddo i ofal y Swyddfa Gymreig.

Yn sicr, fe ddaw i'th ofal ryw ddydd a gobeithiaf y bydd o gymorth i ti.

Ac fe â Paul ymlaen i sôn am ofal Duw amdanon ni yn yr adeilad hwnnw.

Llwyddodd hefyd i ddiwygio cryn lawer ar wasanaethau crefyddol yr eglwysi a oedd dan ei ofal.

* cwmni%au preifat sy'n darparu lleoedd masnachol mewn meithrinfeydd dydd, mewn mannau gwaith, dan ofal gofalwyr unigol (weithiau ar gyfer plant dan ofal adran gwasanaethau cymdeithasol);

Yno, wrth gwrs, y byddai'r myfyrwyr yn cwbwlhau eu cwrs ar eu blwyddyn olaf, ac, yn wahanol i heddiw, byddai rhai o'r myfyrwyr am beth amser cyn derbyn galwad i ofal Eglwys.

Wrth i honno gael ei throi, byddai'r plant yn disgyn i ofal y lleianod y tu mewn.

Yr oeddwn wedi mynd i lawr yn hamddenol braf y prynhawn dydd Gwener, ac ar ôl bwcio fewn i'r gwesty yn siarad gyda ffrindiau cyn cinio ym mar y Belle View Royal Hotel ar y nos Wener heb ofal yn y byd.

Gwyddent am ei ofal a'i waith dros y dref ar hyd y blynyddoedd ac roeddent yn barod i wrando ar ei brofiad a'i ddoethineb.

Roedd hefyd yn berson bucheddol a chyfrifol, mawr ei ofal am dynged iaith a llenyddiaeth, diwylliant a moes y genedl.

* awdurdodau iechyd lleol sy'n darparu gwasanaeth asesu datblygiad plant a gwasanaeth ymgynghorol i deuluoedd ar ofal plant;

Nes ymlaen, cafodd fynd i aros i le Richard Williams ar lechwedd Mynydd Llwyd i ddod a'r eneth fach wrth ei sgîl ar gefn ceffyl i'r ysgol fach to gwellt o dan ofal yr athro Owen Williams o Gymru.

Cymerid yn ganiataol fod cyfnod Cristionogaeth ar ben, ac ategwyd y farn honno gan un o'r caplaniaid a adnabu pan ddywedodd fod wyth deg a phump y cant o'r bechgyn dan ei ofal heb un arlliw o gysylltiad â chrefydd.

Bydd pob chwaraewr yn cael adroddiad personol gan Graham Henry a bydd y rhan fwya - os nad pawb - yn cael eu gwahodd i ymarfer gyda'r brif garfan dan ofal Peter Herbert yn hwyrach yn yr haf.

(Teg yw dweud i helynt y cefn gilio'n llwyr o dan ei ofal.) A dyna'r canol bore hwnnw gartre, a ninnau'n cael te ddeg.

Ond yn yr ail hanner doedden nhw ddim yn edrych fel petaen nhw'n mynd i ddod nôl mewn i'r gêm a fe aethon ni ychydig bach yn ddi-ofal.

Ni bu dim plant o'r briodas, a'r bachgen a gafodd ofal tadol Morgan oedd ei nai, Evan Morgan, mab ei frawd hynaf.

Mae'r lle o dan ofal Miss Sulwen Jones ar hyn o bryd.

Felly y mae hyn yn agwedd ar ofal a thynerwch bugeiliol Duw nas ceir yn gyffredinol ymhlith y proffwydi.

Y cam nesaf oedd uno Peniel, Saron, a Phrion yn un ofalaeth gyda Llanrhaeadr a'r Glyn dan ofal cydwybodol y Parchedig Arthur Jones.

Cymerodd ofal i ddewis yr un nifer o bobl o'r tair urdd uchaf yn nhrefn yr Eglwys, hynny yw, yr offeiriadaeth, y ddiaconiaeth a'r is-ddiaconiaeth.

Bydd angen inni weithio gyda'r Cyngor uchod i sicrhau bod llais effeithiol Gwynedd gyfan yn cael ei gyfleu i sylw gwneuthurwyr penderfyniadau cenedlaethol ar Ofal yn y Gymuned, y Ddeddf Iaith a'r Ddeddf Elusennau.

Yr oedd ganddo ofal mawr tros blant a phobl ifanc.

Yna, ildiodd yr handlen i Rhys, 'Cofia beth dw i 'di deud wrthot ti a chymer ofal ohoni.' Anwesodd Mali cyn camu'n ôl i'r tŷ a sefyll yn y drws.

Yn anarferol iawn nid oedd ganddi deulu agos ond cafodd ofal gan gylch bach o gyfeillion.

Wrth syllu ar yr holl fLodau sy wedi cael eu trefnu mor ofalus mewn Cloc Blodau fe gewch eich synnu gan yr holl ofal a gweithgarwch sy y tu ôl i'r cyfan.

Cymerwch ofal." Clymodd Douglas y rhaff o ddillad yn sownd wrth un o goesau ei wely pan oedd pob man yn dawel y noson honno.

Gan hynny, fe'n cyflwynwn ein hunain i'th ofal.

"Cymer di ofal na cheisi di ddim croesi'r ffordd," meddai.

'Yr oedd cant namyn un o'r praidd mewn hedd/Dan ofal y bugail o hyd...'

Abraham yn ei hen ddyddiau, yn planu coed, nid blodau....., Abraham yn planu coed, ac yn eu gadael i ofal Duw.' Dyna bennau'r pregeth: pregeth haws ei llunio yn awyrgylch nawdegau'r ganrif ddiwethaf nag yn nawdegau'r ganrif hon.

Rwyt yn symud yn ofalus o gysgod i gysgod, ond er gwaethaf dy ofal mae rhywun yn dy weld.

Ond fel pe bai dan ofal rhyw bwpedwr medrus, llwyddodd i godi'r darian mewn pryd, er go brin y dysgwyliai Meic i'r darian ei amddiffyn.

Croeswyd hwnnw allan gan un mawr ei ofal dros y rhyw deg gan ychwanegu 'Hilydd'.