Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofalu

ofalu

Pwy wyf i i sefyll ar dy ffordd Di?" Dechreuodd ofalu am Neuadd Whitechapel yn ogystal â'i chartref.

Roedd o yno i ofalu bod pawb yn mynd i'r seremoni yfed.

Symudodd ymlaen gan ofalu cadw i'r un cyflymdra â'r dorf, er ei fod o'n teimlo fel rhedeg a rhedeg er mwyn cyrraedd ei gartre a'i daid a'r llyfrau.

Merfyn Jones wrth fy nghroesawu yn dweud wrtho i am ofalu beth fyddwn i'n dweud ar adegau, 'Oherwydd mae'r lle 'ma fel perfedd mochyn' meddai fe yn ei ffordd ddihafal ei hun.

Os wyt ti'n fodlon, fe ddof i draw yr wythnos nesaf, gan ofalu gwneud hynny'n ddi-lol wrth gwrs, rhag iddyn nhw amau dim.

Rhaid oedd cytuno a'r ficer pan ddwedodd e ma rhodd o'r galon oedd hon ac y gellid codi eglwys newydd, bron, gyda'r arian - codi wal newydd sbon o gwmpas y fynwent, a thalu i ddyn am ofalu ar ol y bedde.

A daeth cyfle yn awr i wraig y tŷ fod mewn gwaith arall, rhan amser neu lawn amser, a gall fforddio talu i arall ofalu am ei phlant.

'Ond mae o'n werth 'i bwysa mewn aur er hynny, er 'i fod o mor dew a thrwm.' 'Mae'n biti na fasa fo wedi priodi a chael rhywun i ofalu amdano fo,' sylwodd Mrs Richards.

Wedi i'r swyddog oedd yn mynd i ofalu am y British Monarch am y pedair awr nesaf ddod ato i gymryd ei le, aeth Douglas i gyfeiriad ei gaban.

Un naw chwe tri oedd blwyddyn f'ordeinio'n weinidog yn Ebeneser Trawsfynydd, i ofalu am yr eglwys honno yn ogystal â Phenstryd a Jeriwsalem - Jeriw ar lafar gwlad.

Doedd dim diben dweud na allai'r un joci ar wyneb daear ofalu bod pob ceffyl yn neidio'n berffaith bob tro ac yn enwedig hen gythraul croes a oedd wedi ei ddysgu'n wael.

Prynid un hefyd gan bob eglwys a a threfnid i un o'r blaenoriaid ofalu amdano - hwnnw, wrth gwrs, oedd y dyn llyfr bach.

Roberts ymlaen at fedru gosod Hridesh i ofalu am yr eglwys yn nhref Sylhet.

Doedd neb i ofalu a oedd pethau'n gweithio'n iawn ai peidio.

'Roedd yn rhy wael i ofalu am y seremoniau.

Fe arhosodd y gwas suful Huw Onllwyn Jones i gymryd cyfrifoldeb am y sector preifat; fe ddaeth Rhys Dafis o Tai Cymru i ofalu am y sector cyhoeddus a Meirion Prys Jones o Orllewin Morgannwg i daclo addysg.

Gan fod cymaint o blant yn marw'n ifanc, mae rhieni Ethiopia yn tueddu i fagu teuluoedd mawr er mwyn gwneud yn siwr fod rhywun ar gael i ofalu amdanyn nhw yn eu henaint.

Cytunodd Pengwern i fynd am chwe mis o seibiant ar yr amod fod trefniadau'n cael eu gwneud i dalu'r ddyled oedd ar y capel lleol a hefyd i ofalu am y plant amddifaid.

Bu ychydig achlysuron wedyn pan fedrid cael gafael ar fferm trwy ofalu bod ar yr ochr iawn mewn rhyfel cartref.

Roedd Madog wedi cal stroc ac wedi marw yn y fan a'r lle - a Luned am i ni'n dau ofalu am drefniade'r angladd.

Ond wrth fynd drwy'r rhes negeseuon ar y peiriant ateb wedi dychwelyd i'm gwaith clywais lais Ffrengig Claudie Moyson yn fy atgoffa imi gytuno i ofalu am ‘gynrychiolaeth' o Lydaw fyddai'n dod i Gaerdydd i ddysgu popeth am deledu lleiafrifoedd.

Mae gan y Gymdeithas grwp arbennig i ofalu am agweddau gwahanol o'r gwaith (Grwp Addysg, Grwp Statws, Grwp Adloniant ayyb). Cewch ddod yn aelod o'r grwpiau hyn yn syth, dim ond i chi nodi hynny ar y ffurflen ymaelodi.

Gosodais y gwely i lawr yng nghanol y cwt a rhoddais f'enw arno, ac yna brysiais yn ôl i ofalu am y gwelyau eraill a nifer o baciau a safai gerllaw.

Yr oeddwn hefyd yn ysgrifennydd i isbwyllgor brys bychan benodwyd i ofalu am y gwaith o ddydd i ddydd a bu hwnnw yn cyfarfod mor aml ag yr oedd yr angen drwy'r ddwy flynedd.

Wedi inni gyrraedd gwersyll Argyle Street ar Ynys Hong Kong dadlwythwyd ein holl baciau ar faes y parêd a chefais orchymyn i ofalu am tua dwsin o welyau.

Os bydd eich gwrthwynebydd yn dwyn un o'ch darnau yn yr agoriad fel sy'n digwydd yn aml) - yna rhaid i chi ofalu eich bod yn dwyn darn o'r un gwerth yn ôl o'i fyddin yntau.

Cymerodd arni adael y llofft a chychwyn i lawr y staer, gan ofalu gadael y drws yn agored.

Allan a Bholu ac Akram a thros y clawdd - ond gan ofalu mynd â'r sach hefo nhw.

Roedd yn rhaid i wraig fonheddig ofalu am ei phlas, gan archebu bwyd, gofalu am yr arian a rhoi gorchmynion i'r gweision wrth iddynt baratoi bwyd.

* bod cyfrifoldeb arbennig ar yr oedolion sy'n ymwneud â phlant dan bump i ofalu amdanyn nhw a'u diogelu.

Rhaid i mi, bob amser, ofalu bod aerwy neu raff am wddf y fuwch cyn mentro i ddal ei phen.

Bernid mai'r tad a ddiogelai les ei deulu mewn cyfnod pan na cheid gwladwriaeth oleuedig ddemocrataidd y deuai i'w rhan ofalu am fuddiannau materol ei deiliaid fel y gwneir yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Fe wydde pawb 'i fod e'n talu'n dda, ac roedd y gwaith yn gyfleus iddi hi, a'i mam yn gorfod cadw i'r gwely a neb arall i ofalu ar 'i hol hi.

Llyncai Rhys bob gair a glywai gan ei fod o am ddysgu'n iawn sut i ofalu am gi.

Gwyrai'n ddistaw gan ofalu bod y nyrs arall a edrychai ar ôl y ward yn ddigon pell.

Rydw i wedi bod yn cael cais yn aml o'r blaen i wneud y math hwn o waith ond dim yn Ne Affrig, felly roeddwn i'n falch i fi wneud trefniadau i rywun ofalu am fy musnes yn Aberogwr yn fy absenoldeb.

Roeddynt yn well eu byd yn awr, gyda'r Gwarchodwyr i ofalu am bopeth.

'Rwy'n cofio edmygu ei dawn i blygu popeth, ac wedi i mi ei phriodi, 'rwy'n dal i edmygu'r ddawn arbennig hon o ofalu am bob dernyn o ddillad a'i blygu'n berffaith.

i ofalu eu bod yn diogelu'r llinell fain, frau, a gwan i'r golwg, sy'n gwahanu amddiffyniad oddi wrth drais, a'u rhybuddio mai gwladgarwyr ac arwyr ydynt tra byddont ar y naill ochr i'r llinell ond eu bod yn troi'n llofruddion unwaith yr ânt drosti i'r ochr arall ?

Maent i ofalu am y ddaear a'i meithrin hi.

Morris yn barod i symud yno o Sylhet am gyfnod mor fyr â chwe mis; y drwg oedd bod Pengwern yn gohirio'i ymadawiad nes bod trefniant pendant wedi ei wneud i ofalu am ei orsaf.

Ond arswyd y byd = heddiw bu'n rhaid iddo fynd nôl i edrych yr eilwaith i ofalu nad oedd yn dychmygu pethau.

Roedd yn gyngor buddiol, ac fel rheol ni châi unrhyw drafferth i ofalu bod ei phen yn rheoli'i chalon.

Wel, dewch i mewn i gyd." Cawsant wahoddiad i aros yn y cartref hwnnw a gofynnwyd i Pamela ofalu ar ôl y ferch, gan nad oedd yn mwynhau'r iechyd gorau.

Ond yn y cyfamser trefnodd Pengwern ei hun i Lewis Evans ofalu am y lle a chadarnhawyd hynny.

Falle y gall hi gael rhywun i ofalu am Dilys a'r plant." Adroddodd y plant holl hanes yr ynys, oddi wrth yr anffawd i'r cwch.

Mae gan PDAG rôl o gadw golwg ar y gwaith a gyllidir, a hefyd o ofalu y bydd defnyddio priodol ar y cynnyrch.

Ceisiwch wneud pob aseiniad mor eglur ag y bo modd drwy ofalu am y canlynol: