Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofer

ofer

Ymleddaist yn ddewr ond yn ofer.

A phan glywodd Rondol fod Pitar Wilias yn gwneud montibag ohono ar lwyfannau'r wlad, y cyfle cyntaf a gafodd fe ddwedodd wrtho, 'Weli di Pitar - ma'n nhw'n dweud wrtha i dy fod yn cymryd fy enw'n ofer am fy mod yn cymryd ambell i lasiad o gwrw, ac na fyddi byth yn son am dy ffrindia sy'n llyncu wisgi.

Oherwydd mai proses yw, ofer felly yw edrych am nodweddion pendant o'r economi y gellir ceisio eu darganfod yn yr uwch-ffurffiant.

Ond ofer fu fy ngwrando i, ef yn unig a glywai lais Duw yn Nhrefeca Mor dda fyddai cael gair oddi wrthyt.

Ofer i'r beirniaid ddweud nad yw'n iaith ddefnyddiol gan mai hi yw iaith bywyd beunyddiol.

Yn ofer y disgwyliai'r un Dirprwywr i'r aelwyd honno wadu'r famiaith:

Dyheu'n ofer am ei atgyfodi fel yr oedd sydd yn y trydydd, ond ar ddechrau'r paragraff nesaf mae'r bardd fel petai'n derbyn fod y bedd wedi'i gau, ac wrth ystyried beth roedd Siôn yn ei olygu iddo mae'n ei fewnoli'n rhan ohono'i hun.

Eithr ofer fu pob amddiffyn.

Mor ofer oedd disgwyl i Tegla ddal ati i sgrifennu rhagor o storiau plant ar ôl hyn: fel petaem yn gofyn i awdur cainc Branwen sgrifennu cofnodion pwyllgor !

Yn ofer y ceisiai Cynnydd ei dileu:

Fel y bydd mis Ebrill yn tynnu at ei derfyn fe fydd pawb yn ceisio cau'r sŵn allan o'u tai ac yn stwffio wadin i'w clustiau, ond y mae'r cwbwl yn ofer bob blwyddyn.

Ofer yw i ni yn awr ddannod i Iraq eu bod yn defnyddio yr arfau a ddarparwyd ar eu cyfer gan wledydd y gynghrair!

Ar ei dystiolaeth ei hun bywyd digon ofer a fu ei hanes am ran helaeth o'i oes, ond daeth i brofiad trwy droedigaeth o'r Crist yn gwaredu, a threuliodd y rhan olaf o'i oes yn tystio i ddawn yr efengyl yn achub hyd yr eithaf.

Os yw meddwl, teimlo ac ewyllysio i'w hesbonio, fel cylchdro'r planedau, yn ôl deddfau haearnaidd y method gwyddonol, yna ofer sôn am bersonoliaeth rydd.

'Nid yw gweithred o dosturi byth yn mynd yn ofer.

Chwifiodd y lamp fechan oedd ganddo yn ôl ac ymlaen, ond roedd y cwbl yn ofer.

Gwasgodd ei thrwyn yn obeithiol yn erbyn y gwydr mewn ymgais i weld y tu ôl i'r gegin, ond yn ofer.

Ni chlywodd neb erioed Francis Plerning yn cymryd enw Duw yn ofer, nac yn arfer llwon neu iaith anweddus.

Ni chaniatê i Bryderi ladd y crefftwyr cenfigennus, 'y taeogion racco', oherwydd fe rybuddid Caswallon a'i wŷr ac fel canlyniad fe geid galanas ofer.

"Mae'n rhaid i mi gadw fy nerth," meddai'n sydyn, gan roi heibio nofio'n ofer ar ôl ei long.

Y meddwl oddi tan y gofyn yw mai ofer brwydro heb obaith.

Gwyddai mai ofer fyddai gwrthwynebu'i fam ar hyn o bryd.

Ni all Glyn Ebwy fforddio gwneud siwrne ofer oherwydd maen nhw mewn trafferthion ariannol dybryd ar hyn o bryd.

Mae'r Gweinidog Materion Cymreig yn gwneud a fedro gyda chymorth adrannau o'r gwasanaeth sifil i hybu'r polisi hwn; nid yn ofer chwaith.

Sawl blwyddyn yn ôl bu yn y newyddion o ganlyniad i'w ymdrechion ofer i gyrraedd Awstralia mewn cerbyd glanio tir a môr.

Ond erbyn hyn ofnwn fod yr holl drafferth a gymerai ef gyda mi wedi mynd yn ofer, a bod fy holl ymdrechion innau wedi mynd gyda'r gwynt.

Twyllo ofer!

Daw rhyw hiraeth anesboniadwy drosof weithiau wrth geisio amgyffred treigl y canrifoedd: Fel ewyn ton a dyrr ar draethell unig, Fel can y gwynt lle nid oes glust a glyw, Mi wn eu bod yn galw'n ofer arnom - Hen bethau anghofiedig dynol ryw.

Fel pe bai hynny'n arwydd bod cyfnod wedi dod i ben, fe fu'n rhaid i Brydain, ar ôl ei hymdrechion ofer i sleifio allan o bob cytundeb rhyngwladol, fynd i ryfel.

Gwelwyd yn ystod dyddiau cynnar Menter Cwm Gwendraeth fod unrhyw sôn am achub iaith yn ymarfer cwbl ofer oni chyplysir yr iaith â'r gymdeithas sydd yn ei chynnal.

Ofer fuasai ail-adrodd y wybodaeth yma ond mae'n bwysig rhoi braslun o'r prif nodweddion er mwyn hwyluso'r drafodaeth o'r berthynas rhyngddynt.

Ar hynny a oedd gen i yn y banc ar y pryd - heb "overdraft", ofer cychwyn fyddai hi.

Aeth y ddadl yn un boeth, eithr nid yn ofer.

Yn groes i agwedd fy ffrind, cesglais hwy i fag polithîn - nid oedd ymdrech y noson wedi bod yn ofer!

O'r foment honno doeddwn i ddim eisiau gwneud dim byd ond actio." Wedi bwrw'r fath brentisiaeth, ofer fu ei ymdrechion i fynd i ddysgu a hunllef oedd meddwl am wynebu llond stafell o blant ysgol.

Mae ei ddefnydd crefftus o'r Modd Dibynnol yn dwysa/ u'r argraff o wanc truenus yr ymchwil ofer.

Cynyddodd y suo a chwifiodd y coesau blewog yn ofer yn yr awyr.

Er ei fod yn ddiniwed, fe geisia ef amddiffyn Gwennan, ond yn ofer.

Y Diddanion oedd yr unig lecyn golau yn Nhrysorfa'r Plant ac am Y Cenhadwr, ofer fu'r ymdrech erioed i ddod o hyd i ddim ynddo i ysgafnhau y baich o grefydd oedd yn pwyso arnon ni.