Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

offis

offis

"Do," meddai Huw, "mae yna bost-offis ymhellach ymlaen ar y ffordd yma, fe awn yno." Lluniwyd teligram i Mam: "Dad ddim - yn dda.

'Yr wyf yn cofio yn dda un prynhawn Sadwrn pai yn yr haf,' meddai, 'bod fy ewythr Dafydd Caeglas, yr hwn oedd yn ddyn effro a blaenllaw iawn gydag addysg yn yr ardal, yn sefyll yn nrws yr offis ac yn cynnig fod y gweithwyr yn talu ceiniog yn y bunt at roi ysgol i'r plant.

Eithr y tu allan i fyd y plentyn a'r ysgol erys y ffaith mai Saesneg yn unig sy'n angenrheidiol i bob swydd neu offis weinyddol yng Nghymru.

Soniwyd yn gynharach am y 'Cornis', sef y mwynwyr a ddaeth o Gernyw i weithio'r gwaith copr ger yr Offis Gocyn ar ffordd Nant Peris, ac fel y daeth yr enwau Pleming, Closse a Salt yn enwau cynefin yn y cylch.

Daeth yn ôl i'r bonc un diwrnod wedi bod o flaen y goruchwyliwr yn yr Offis Fawr.

Ond ma'r ddou ddyn yn cyfnewid syniade'n lled amal yn yr offis 'na dwi'n credu - ti'n gwbod y math o bethe ma' nhw'n 'u trafod...'