Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofnai

ofnai

Ofnai rhai Cymry y gallai bodolaeth yr iaith Gymraeg greu'r argraff nad oeddent yn gwbl deyrngar i Brydain ac i'r Llywodraeth Seisnig.

Yr oedd wedi trefnu cyrraedd cartref rhyw ffrindiau iddo y noson honno, ond ofnai y byddai hi wedi mynd yn dywyll ac yn hwyr cyn iddo wneud hynny.

Aeth un ohonynt â'i gariad oddi arno, morwyn fach a garai ond yr ofnai siarad â hi.

Ofnai nad oedd y barwniaid diwydiannol goludog yn malio'r un ffeuen am iechyd, lles a dedwyddwch y gweithiwr cyffredin.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bwriadwyd cynnal Eisteddfod 1940, ond ofnai'r Llywodraeth y gallai'r dref fod yn darged i gyrchoedd o'r awyr.

Ofnai am ei le a'i waith.

Nid ofnai am ei fywyd, gan ei fod yn sicr o'i werth i'r Senwsi.

Hefyd yr oedd awdl Gwenallt yn Babyddol ei syniadaeth a'i delweddaeth, ac ofnai llawer ar y pryd, W. J. Gruffydd, er enghraifft, fod Catholigiaeth ar gynnydd yng Nghymru.

Mi fydd raid i mi gael trefn ar y dodrefn cyn iddi dywyllu." Ofnai JR iddi droi yn seiat dan ei ddwylo ac ofnai hefyd fod y car yn suddo yn is.

Ofnai rhai mai cynllwyn ydoedd cefnogaeth y Blaid Rhyddfrydol er ceisio marchogaeth ar gefn y farn gyhoeddus a oedd yn prysur gryfhau o blaid Senedd; "Cast etholiadaol ydyw%, meddai Saunders Lewis gan gyfeirio'n amlwg at yr etholiad cyffredinol a oedd ar ddod, a mynnai rhywun fod yn Rhyddfrydwyr yn bwriadu defnyddio Cymru er mwyn eu plaid a Phlaid Cymru am ddefnyddio'r Blaid er mwyn Cymru.