Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofni

ofni

Oni bai am yr adroddiadau gafaelgar yn y wasg a'r lluniau grymus a ddaeth yn dystiolaeth feunyddiol o dynged y Cwrdiaid, dwi'n ofni mai troi cefn fyddai ymateb gwledydd y byd.

Canlyniad hynny oedd i athrawon a phrifathrawon ofni mabwysiadu polisi cryf parthed y Gymraeg gan iddynt gredu na fyddai ganddynt gefnogaeth yr awdurdod.

Gwyddwn rywfodd, cyn i Mam ddweud hynny wrthyf, mai hwn oedd y wyrcws yr oeddwn wedi clywed cymaint o sôn amdano, ac wedi dysgu ei gasa/ u a'i ofni cyn ei weld hyd yn oed.

Yn union fel mae peilotiaid yn ofni sôn am ddamweiniau, mae modurwyr hefyd yn amharod i grybwyll digwyddiadau anffodus cyn cychwyn ar daith.

"O," meddai'r gweinidog, "finna wedi ofni mai doctor oedd o!" Gweinidog arall, Parch.

Dyn i'w ofni oedd John Kellett - y swyddog trethi gwladol.

Mi gefais ddigon o amser i feddwl dros bethe wrth orwedd fan hyn, ac rwy'n ofni y bydd raid i ni adael yr ynys." "Gadael yr ynys?

Cefais hyd i rwyd i'w thaenu dros y gwely bach, ac oherwydd hynny gallwn gysgu heb ofni brathiadau mosgito, a rhaid fod hyn eto wedi f'arbed rhag dal malaria.

Wyddoch chi mae cymaint o Saesneg a bratiaith ar y sianel honno - rwy'n ofni yn wir dros y Gymraeg.

Eto, mae peilotiaid a chriwiau awyrennau yn ofni defnyddio'r gair 'crach' na sôn am unrhyw ddamwain i awyren cyn cychwyn allan ar siwrnai.

Roedd ei deulu'n arfer byw ar y ffin rhwng Iran ac Irac ond mae'n ofni eu bod erbyn hyn wedi gorfod ffoi am eu bywydau.

Yr elfen newydd a welwyd yn ystod cyfnod Jacob oedd ei fod ef ei hun, fel golygydd, yn manteisio ar dudalennau'r cylchgrawn i amddiffyn, neu ymosod os byddai galw, heb ofni cael ei ddal yng ngwe ffyrnig dadl.

Yna rhedasom i'r tŷ a'n hanadl yn ein gyddfau i ddweud "Mae'r dynion wedi dod â'r elor i moyn yr angladd!" Yr oeddwn wedi dychryn ac wedi gwylltu, yn methu aros yn y tŷ ond yn ofni mynd allan rhag ofn bod yr elor wedi dod i'm cario innau i'r bedd!

Roedd milwyr eraill yn codi pebyll - rhai glas a gwyn sgwâr a fyddai'n gartref i'r ffoaduriaid tra'u bod yn dal i ofni dychwelyd i'r trefi.

Yn wyneb y dehongliad "treisgar" a roddai rhai pobl barchus ar dân Penyberth, yr oedd e'n tybio mai da fyddai pwysleisio'n gyhoeddus mai plaid gyfansoddiadol a heddychol oedd y Blaid; ond yn ôl y cof sydd gennyf i, nid oedd e'n sicr mai doeth fyddai codi'r mater i'r gwynt yn y Gynhadledd: tebyg ei fod yn ofni yr ai'n ddadl fawr ar y cynnig, a hynny'n fel ar fysedd y collfeirniaid o'r tu allan.

Nid oedd neb yn ei hoffi ac roedd llawer yn ei ofni.

Ond efallai i'r cynllun gael ei ddiddymu am fod Cromwell yn rhannol yn ofni y defnyddiai'r Major-General Harrison ei afael ar Gymru i'w throi yn bwerdy iddo'i hun (na, nid adwaenent Gymru).

Tynnodd ei sgrafell dros esgob Bangor a'r deon am iddynt ofni cario croes ar bererindod i Ynys Enlli heb addewid o ymbare\l a bws a thywydd braf i groesi, gan of yn yn bryfoclyd, pa fath dywydd oedd hi tybed pan gariai Iesu ei groes real, drom, ar lethrau Calfaria.

Os oes rhwystrau yn eich ffordd, Capricorn, rwy'n ofni taw chi sy wedi'u rhoi nhw yno, ymlaciwch.

Synnai ato ei hun yn y bore ac at ei lyfrdra yn ofni rhithiau disylwedd y nos a'r muriau symudol.

Dyma'r bore y bu'n ei ofni ers wythnosau.

Y mae'r ffordd y bu'r papurau tabloid yn ystod y dyddiau diwethaf yn corddi teimladau rhagfarnllyd tuag at yr Almaenwyr yn ernes o'r ysbryd milain tuag at wledydd Ewrop sy'n peri i ddyn ofni dylanwad rhai o'r carfannau adain-dde yn Lloegr.

Os gwnaiff un ohonyn nhw rywbeth i ti amser chwarae'r pnawn - a mi wnân, raid i ti ddim ofni - gwasga fo'n reit dda, neu rho hergwd iddo fo.

'Paid ag ofni.

Er bod trigolion tiroedd y meddiant hefyd yn ofni canlyniadau'r rhyfel, fe'u calonogwyd gan y posibiliadau.

Roeddet yn ofni y byddai golau dy ffagl yn tynnu sylw'r milwyr, ond fe fyddai'r golau wedi dy alluogi i weld y cleddyf miniog a oedd yn hongian o'r nenfwd.

Roeddwn i'n ofni y byddai'r hen drwbl a gefais yn Lerpwl yn dweud yn f'erbyn hefo anffawd fel hyn, ond dywed y doctor fy mod yn syndod o gryf ac iach, a diolch i fywyd braf awyr-agored yr ynys y mae hynny, yn siwr i chi." Er hynny fe roddodd Dad ochenaid.

Bu yn Gynghorydd lleol am flynyddoedd,a mawr a fyddai ei ymdrech dros rai achosion agos at ei galon, a safai yn ddewr heb ddisgwyl gwen nac ofni gwg.

Ond, yn y pen draw, efallai mair unig beth y mae Charles yn ei wirioneddol ofni yw y byddan nhw yn datblygu planhigion a fydd yn ei ateb yn ôl pan fydd on siarad a hwy.

Rwy'n ofni bod ei thranc hi yn ymyl nawr.

roedd hi'n ofni fod rhywun yn ei ei.

Roedd pawb call yn yr ardal yn ofni Llew Williams.

Os cofiwch chi, mi roedd tipyn o strach ynglŷn â'r ffilm wreiddiol (gyda Hywel Bennett yn y brif rhan) oherwydd bod trigolion yr Aber(ystwyth) go iawn yn poeni y byddai twristiaid yn ofni dod i'r dre o'i herwydd.

"Rydw i'n ofni mai prinhau mae'r Cymry sy'n câl y fath foddhad heddiw; mae cynifer o'r genhedlaeth iau wedi'u gwasgaru i bob rhan o'r byd a Saeson wedi dod yn 'u lle nhw.

Mynnai'r hoywon eu hawl i fyw mewn cymdeithas, heb ofni rhagfarn na sarhad, a dathlodd y fenyw ei rhyddid newydd.

Cadw draw oddi wrtho a wna'r rhan fwyaf o'i gyd-athrawon yn yr ysgol am eu bod yn ofni gorfod wynebu'r un peth.

Ond os gallwn ni gadw i fynd fel ydyn ni wedi bod yn 'neud sdim rhaid i ni ofni neb.

Ar unwaith, yr oedd y canoniaid yn ofni fod yr esgob yn mynd i fod yn fysneslyd.

Mae nhw'n ofni y byddai'n costio arian iddyn nhw." Mae'r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno strategaeth newydd y flwyddyn nesaf i helpu digolledu'r anabl ac unrhyw ddarpar gyflogwyr.

Wrth wylio un afalans llydan yn llithro ymaith yn union wrth draed dau ffigwr bach ym mhen arall y grib ac ofni'r gwaethaf am funud hir, daeth geiriau o 'Princess' Tennyson o'r newydd i'm cof: to walk With Death and Morning on the Silver Horns.

Yr wythnos hon mae e mewn ongl anodd i'r Haul - rhagor o rwystrau, a rhwystredigaethau rwy'n ofni.

Mae rhywun mewn chwys oer yn ofni a ddigwydd rhywbeth tebyg yma y flwyddyn nesaf.

Maen nhw'n credu fod lle i ofni milwreiddio'r Gymuned.

Ofni gweld ei gwlad (sef Lloegr) yn colli'i hunaniaeth sydd ar Margaret Thatcher.

Ond os oedd 'gwedd ei ymddangosiad yn brawychu'r gwan eu ffydd', yn ôl Nantlais eto, 'roedd 'ei lais fel diliau cariad a'i wên oedd fel bore ddydd.' Siaradodd yr Iesu wrthynt ar unwaith, ac o gymryd y geiriau gan Marc, Mathew ac Ioan gyda'i gilydd, yr oedd balm i'w harswyd ynddynt: 'Codwch eich calon Myfi yw; peidiwch ag ofni.' Fel y gŵyr y cyfarwydd, yr oedd rhinwedd rhyfeddol yn y geiriau Myfi yw ar enau Iesu Grist, yn enwedig yn yr Efengyl yn ôl Ioan: 'Myfi yw [y Meseial] sef yr un sy'n siarad â thi 'Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw'; 'Yn wir, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham,yr wyf fi'; 'Pwy yr ydych yn ei geisio?' 'Iesu o Nasareth,' meddent hwythau.

A rhaid dweud o blaid Ferrar nad oedd yn ofni ymaflyd codwm â'r mawrion lleol pan deimlai fod hynny'n fantais i'r eglwys.

Ond yr wyf i yn pertyn i bobl hen iawn; mae fy ngwreiddiau i yn ol yn y gorffennol...' Dwyf i ddim yn ofni nac yn gobeithio bellach.

Dro arall, cymerai gip yn llechwraidd at yr ŵydd, fel petai'n ofni y gallai'r greadures honno neidio'n sydyn dros ymyl y ddysgl ac ymosod arno.

Yn lle cymdeithas y ganrif ddiwethaf a oedd yn gweld Cymru fel Canaan a'r Cymry fel Cenedl Etholedig, wele'n awr gymuned nerfus, ar chwal, byth a hefyd yn ofni rhyw fygwth.

Yr oedd angladd i mi yn yr oedran hwnnw, tua phum mlwydd oed, yn beth i'w ofni.

Bobol bach, fel pe bawn i'n ofni'r twllwch!

Yn ddiweddarach ceisias gan fy nhad cychwyn cangen o'r Urdd yn y Cei, ond ni fynnai.Credaf ei fod yn ofni creu clwb a fyddai'n cystadlu a Chyrddau Pobl Ifainc y Capel.

"Dwi'n credu bod lefelau ymbelydredd yn uchel yn yr ardal yma beth bynnag, a'u bod wedi mynd yn uwch ar ôl Chernobyl, a dwi'n ofni bod hynny wedi ychwanegu at y broblem yn achos Helen," meddai.

A thithau, fab dyn, paid â'u hofni hwy nac ofni eu geiriau, er eu bod yn gwrthryfela yn dy erbyn ac yn gwrthgilio, a thithau yn eistedd ar sgorpionau; paid ag ofni eu geiriau nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

Yn yr un modd, gellir dehongli Ifans yn y Chwedegau yn ofni'r bachgen mewn siaced ledr, Teddy Boy y cyfnod.